BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Offer gwirio seiber ar gyfer BBaChau

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi lansio dau offeryn diogelwch newydd wedi'u hanelu at fusnesau bach, microfusnesau, sefydliadau ac unig fasnachwyr sydd heb yr adnoddau i fynd i'r afael â materion seiber. 

Dadorchuddiodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – sy'n rhan o Bencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth – y gwasanaethau i gyd-fynd â cham diweddaraf ei hymgyrch Cyber Aware.

Gellir llenwi’r Cyber Action Plan ar-lein mewn llai na 5 munud ac mae'n arwain at gyngor wedi'i deilwra i fusnesau ar sut y gallant wella eu seiberddiogelwch.

Check your Cyber Security - mae'n hygyrch drwy'r Cynllun Gweithredu a gellir ei ddefnyddio gan unrhyw sefydliad bach, gan gynnwys ysgolion ac elusennau, ac mae'n galluogi defnyddwyr nad ydynt yn dechnegol i amlygu a datrys problemau seiberddiogelwch o fewn eu busnesau.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol NCSC launches flagship new services to help millions of... - NCSC.GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.