BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin

Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn.

Mae pedwar prif beth:

  • nid yw busnesau penodol yn cael agor
  • mae’n rhaid i bobl aros yn lleol a pheidio â bod dan do gydag unrhyw un nad yw’n aelod o’r aelwyd os nad oes rheswm da dros wneud hynny
  • mae rheolau wedi’u gwneud am gadw pobl 2 fetr ar wahân os ydynt yn mynd allan (sef cadw pellter cymdeithasol neu gorfforol)
  • ni chaiff pobl ymgynnull mewn mannau cyhoeddus ac eithrio gydag aelodau un aelwyd arall

Sut alla i gael cyngor ar beth alla i ei wneud a beth na alla i ei wneud?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ategu'r rheoliadau ac mae’r rhain yn atebion i gwestiynau cyffredin. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu ateb cwestiynau penodol gan unigolion gan y bydd yr ateb yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Mae gwasanaethau cynghori cymunedol fel Cyngor ar Bopeth ar gael ar-lein ac ar y ffôn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.