BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Prentisiaethau 2023

Cynhelir yr Wythnos Prentisiaethau rhwng 6 a 12 Chwefror 2023. Wrth i’r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau fynd rhagddi, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn annog mwy o gwmnïau i ystyried sut y gall prentis eu helpu i hybu eu busnesau.

Nod yr wythnos hon yw dathlu a hyrwyddo prentisiaethau yng Nghymru fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd. a'r buddion a ddaw yn eu sgil i unigolion a chyflogwyr.

Fel rhan o'r ymgyrch "Dewis Doeth", os oes gennych chi neu unrhyw un o fewn eich rhwydwaith unrhyw gyfleoedd prentisiaeth ar y gweill, yna byddem yn eich annog i'w hychwanegu at y Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag dros yr wythnosau nesaf, 

Y ffordd hawsaf i ychwanegu prentisiaeth wag yw mynd i Chwilio am brentisiaeth wag | Apprenticeships cy (llyw.cymru) a sgrolio i lawr, lle ceir botwm 'Rheoli Prentisiaethau'. Yma, gallwch gofrestru fel cyflogwr prentisiaid ac ychwanegu unrhyw brentisiaethau gwag i'r Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag.

Mae'r Pecyn Cymorth Prentisiaethau hefyd wedi cael ei ddiweddaru. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael mwy o wybodaeth App Week 2023 Toolkit WELSH.pdf (dropbox.com)

I ddarganfod sut i recriwtio prentis a thrawsnewid eich busnes trwy sicrhau'r sgiliau sydd eu hangen arnoch nawr ac yn y dyfodol, ewch i dudalennau   Prentisiaethau | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales) i gael mwy o wybodaeth.

 

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.