BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y cyfyngiadau coronafeirws i barhau yng Nghymru

I fynd i’r afael â lledaeniad y coronafeirws, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau fis Mawrth sy’n gosod cyfyngiadau llym ar ymgynnull, ar symudiadau pobl, ac ar y ffordd y mae busnesau’n gweithredu, gan gynnwys eu cau.

Maent hefyd yn gosod gofynion ar fusnesau sydd ar agor i gymryd camau rhesymol i sicrhau pellter corfforol rhwng pobl.

Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y Deyrnas Unedig (SAGE) a chyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn dangos, ei bod yn dal yn rhy fuan i godi’r gofynion a’r cyfyngiadau yn sylweddol.  

Cyngor cyfredol yn cynnwys:

  • gofynnir i bobl barhau i weithio gartref os gallant
  • os y gallwch, dylech aros gartref
  • o oes angen i chi adael y cartref i weithio, ymarfer corff neu siopa, dylech aros yn lleol ac aros yn wyliadwrus
  • os ydych yn mentro allan, arhoswch yn lleol ac arhoswch yn ddiogel

Mae newidiadau bach i'r rheoliadau o ddydd Llun 11 Mai 2020 yn cynnwys:

  • caniatáu i bobl wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, ond gan aros yn eu hardal leol. Mae hynny’n golygu y dylai unrhyw ymarfer ddechrau a gorffen yn y cartref ac na ddylid teithio pellter sylweddol o’r cartref
  • galluogi awdurdodau lleol i ddechrau ar y broses o gynllunio sut y gellir agor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu yn ddiogel
  • caniatáu i ganolfannau garddio agor ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r rheol pellter corfforol

Ewch i'r wefan Llyw.Cymru i weld y cyhoeddiadau diweddaraf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.