BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) yn lansio Briff Parodrwydd i Ymadael â’r UE i Siopau Lleol ACS

Mae’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) wedi cyhoeddi briff Parodrwydd i Ymadael â’r UE ar gyfer y sector cyfleustra i helpu manwerthwyr i ystyried sut y bydd eu busnesau’n cael eu heffeithio ar ddiwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr 2020.

Mae’r Briff Parodrwydd i Ymadael â’r UE yn cynnwys tair elfen graidd i fanwerthwyr cyfleustra eu hystyried:

  • yr amgylchedd masnachu
  • y gweithlu a’r bobl
  • rheoliadau

Mae’r briff hefyd yn darparu gwybodaeth ar Senarios Achos Gwaethaf Rhesymol Llywodraeth y DU ar gyfer oedi wrth y ffin, cyfnodau gwerthu trwodd cynhyrchion penodol a’r newidiadau disgwyliedig i labelu nwyddau a fydd yn cael eu gwerthu yn y sector.

Mae’r briff llawn ar gael yma https://bit.ly/EUexitreadinessbriefing 

Ewch i  Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor ac arweiniad pwysig ar gyfer busnesau sy’n paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio Ewropeaidd.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.