BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y sector lletygarwch i ailagor yn yr awyr agored yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bydd chwe unigolyn yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored yng Nghymru o ddydd Sadwrn 24 Ebrill 2021 a bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill 2021.

Ddydd Llun 26 Ebrill 2021:    

  • Bydd atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn ailagor. 
  • Gall lletygarwch yn yr awyr agored yn ailddechrau, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch dan do yn parhau ar gau, ac eithrio ar gyfer cludfwyd.
  • Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl (ddydd Llun 3 Mai yn flaenorol).
  • Gellir cynnal derbyniadau priodas awyr agored ar gyfer hyd at 30 o bobl (ddydd Llun 3 Mai yn flaenorol)

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi rhagor o newidiadau i'r cyfyngiadau coronafeirws.

Newidiadau o ddydd Llun 3 Mai ymlaen:

  • Bydd campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd yn cael ailagor

  •  Bydd modd i bobl ffurfio aelwydydd estynedig unwaith eto gydag un aelwyd arall

  •  Bydd camau llacio a oedd wedi’u cynllunio ar gyfer 17 Mai yn cael eu gweithredu yn gynt, sef ar 3 Mai, gan gynnwys:

  •  Ailddechrau gweithgareddau o dan do ac o dan oruchwyliaeth ar gyfer plant

  •  Gweithgareddau o dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 15 o oedolion (megis dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio)

  •  Ailagor canolfannau cymunedol

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Cyfrifoldeb Llywodraeth newydd Cymru fydd cadarnhau’r trefniadau hynny yn yr adolygiad tair wythnos nesaf, a gynhelir ar 13 Mai – wythnos ar ôl yr etholiad. Fy asesiad i yw y bydd y sector lletygarwch – bariau, tafarndai, bwytai a chaffis – yn cael agor o dan do o 17 Mai ymlaen, ynghyd â phob llety arall i dwristiaid, ac adloniant ac atyniadau o dan do.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau ar gyfer ailagor lletygarwch (tafarndai, caffis, bwytai a lleoliadau trwyddedig) yn yr awyr agored, edrychwch ar y canllawiau UK Hospitality Guidance For Hospitality in Wales i gael gwybodaeth am gyngor diogel o ran COVID-19 ac asesiadau risg i fusnesau lletygarwch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.