BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad Preifatrwydd - Ymholiad Cymorth Busnes

Cafodd y rhybudd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 17 Mai 2018

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Fusnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), rydym ni wedi datblygu Rhybudd Preifatrwydd sy’n ymdrin â pham yr ydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

  1. Cymerwch ychydig amser er mwyn ymgyfarwyddo eich hun â’n hymarferion preifatrwydd.  Pam yr ydym yn casglu ac yn prosesu’r data a gasglwyd
    Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol yr ydych chi’n ei ddarparu ar Ffurflen Cysylltu â Ni Busnes Cymru.  Yn unol â’n tasg gyhoeddus, bydd y data yn cael ei ddefnyddio i’ch adnabod chi a darparu’r gefnogaeth fwyaf addas i chi gan ein timau gwasanaeth.

    Defnyddir y wybodaeth a roddwch i greu cofnod ar ein systemau TG o’ch ymholiad cymorth busnes; bydd hyn yn ein galluogi i edrych eto ar unrhyw gymorth cysylltiedig a phriodol y buaswn o bosib yn medru ei ddarparu.
     
  2.  Pwy fydd yn cael mynediad at eich data?
  • Mae’r data hwn yn cael ei rannu gyda sefydliadau sydd dan gontract gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni cefnogaeth fusnes yn unig a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â Ffurflen Cysylltu â Ni Busnes Cymru
  • Bydd y data a gasglwyd gan dimau gwasanaeth cefnogi Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr technegol ei systemau sy’n cefnogi’r system T.G.  Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw fodd.
  1.  Pa mor hir fydd eich manylion yn cael eu cadw?
    Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 2 flynedd fel rhan o’n hyfforddiant a’n hadolygiadau ansawdd parhaus. 
     
  2. Eich hawliau
    O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl i:
  • gael mynediad at eich data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi
  • ofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
  • wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau)

gwneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

​Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Cyswllt y Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Caer
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.org.uk 

 
Ar gyfer cael help gydag unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â’n Llinell Gymorth Busnes Cymru os gwelwch yn dda ar 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

  1. Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi
    Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu’r cyhoedd i ofyn am gael gweld y wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru.  Gall y wybodaeth yr ydych chi’n ei darparu ar ein cyfer fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd.  Byddwn ni’n ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.
     
  2. Newidiadau i’r polisi hwn
    Gall Llywodraeth Cymru wneud rhai newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg.  Bydd newidiadau yn cael eu rhoi yma ac maen nhw’n dod i rym yn syth.    Pan mae newidiadau i’r polisi hwn yn digwydd, byddwn yn cysylltu â chi gyda’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn i chi allu adolygu’r fersiwn newydd.

    Ar gyfer gwybodaeth bellach ynglŷn â’ch hawliau gwybodaeth

    Cyfeiriad post:
    Swyddog Gwarchod Data
    Llywodraeth CymruParc Cathays
    CAERDYDD
    CF10 3NQ

    Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.