Cafodd y rhybudd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 17 Mai 2018
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Fusnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), rydym ni wedi datblygu Rhybudd Preifatrwydd sy’n ymdrin â pham yr ydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.
- Cymerwch ychydig amser er mwyn ymgyfarwyddo eich hun â’n hymarferion preifatrwydd. Pam yr ydym yn casglu ac yn prosesu’r data a gasglwyd
Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol yr ydych chi’n ei ddarparu ar Ffurflen Cysylltu â Ni Busnes Cymru. Yn unol â’n tasg gyhoeddus, bydd y data yn cael ei ddefnyddio i’ch adnabod chi a darparu’r gefnogaeth fwyaf addas i chi gan ein timau gwasanaeth.
Defnyddir y wybodaeth a roddwch i greu cofnod ar ein systemau TG o’ch ymholiad cymorth busnes; bydd hyn yn ein galluogi i edrych eto ar unrhyw gymorth cysylltiedig a phriodol y buaswn o bosib yn medru ei ddarparu.
- Pwy fydd yn cael mynediad at eich data?
- Mae’r data hwn yn cael ei rannu gyda sefydliadau sydd dan gontract gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni cefnogaeth fusnes yn unig a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â Ffurflen Cysylltu â Ni Busnes Cymru
- Bydd y data a gasglwyd gan dimau gwasanaeth cefnogi Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr technegol ei systemau sy’n cefnogi’r system T.G. Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw fodd.
- Pa mor hir fydd eich manylion yn cael eu cadw?
Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 2 flynedd fel rhan o’n hyfforddiant a’n hadolygiadau ansawdd parhaus.
- Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl i:
- gael mynediad at eich data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi
- ofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
- wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau)
gwneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Cyswllt y Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Caer
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
Ar gyfer cael help gydag unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â’n Llinell Gymorth Busnes Cymru os gwelwch yn dda ar 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu’r cyhoedd i ofyn am gael gweld y wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru. Gall y wybodaeth yr ydych chi’n ei darparu ar ein cyfer fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddwn ni’n ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.
- Newidiadau i’r polisi hwn
Gall Llywodraeth Cymru wneud rhai newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu rhoi yma ac maen nhw’n dod i rym yn syth. Pan mae newidiadau i’r polisi hwn yn digwydd, byddwn yn cysylltu â chi gyda’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn i chi allu adolygu’r fersiwn newydd.
Ar gyfer gwybodaeth bellach ynglŷn â’ch hawliau gwybodaeth
Cyfeiriad post:
Swyddog Gwarchod Data
Llywodraeth CymruParc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru