BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hen Datganiadau Preifatrwydd

Busnes Cymru - Datganiad Preifatrwydd

Mae’r Datganiad Preifatrwydd canlynol yn ymdrin â gwybodaeth a gasglwyd i gael mynediad i Fusnes Cymru,  cymorth busnes, cynlluniau dyrannu grantiau, a gweithgarwch a Ariennir gan Ewrop.  

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth a roddir gennych. Ymdrinnir â phob gwybodaeth yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Gall yr wybodaeth a gesglir gael ei rhannu â thrydydd partïon gan gynnwys Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac fe’i defnyddir yn y ffyrdd canlynol:

  • I gyflawni gofynion adrodd y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer prosiectau a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop
  • I fonitro ac adrodd ar nifer yr unigolion a mentrau sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a nifer y bobl o wahanol grwpiau sy’n cael cymorth (e.e. gwahanol oedrannau, rhyw a grwpiau ethnig).
  • Gan sefydliadau ymchwil cymdeithasol cymeradwy, i gynnal ymchwil, i ddadansoddi, neu i fonitro cyfle cyfartal.
  • I ddibenion archwilio a gwirio. 
  • I gysylltu eich data chi â ffynonellau data eraill i ddibenion gwerthuso’r effaith mae’r prosiect wedi’i gael ar yr unigolion a’r mentrau sydd wedi cymryd rhan

1.   Gwybodaeth Busnes

Bydd gwybodaeth am eich busnes yn cael ei chasglu a’i chadw i helpu Llywodraeth Cymru i ystyried y ffyrdd gorau o ddarparu cymorth ac arweiniad busnes priodol i chi a’ch busnes.

Bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu pob Data Busnes ac yn gwarchod gwybodaeth sy’n sensitif yn fasnachol trwy weithdrefnau sicrwydd gwybodaeth cryf yn ystod pob cam wrth brosesu’r wybodaeth. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio ar system sy’n cael archwiliad iechyd TG rheolaidd i brofi ei diogelwch. Bydd yn ofynnol bod contractwyr sy’n delio â’ch gwybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru yn cael achrediad Cyber Essential neu sy’n glynu wrth ISO 27001. Mae gofyniad yn eu contract i ddilyn gweithdrefnau diogelwch gwybodaeth cryf yn yr un modd â staff Llywodraeth Cymru.

Bydd data busnes yn cael ei ddefnyddio hefyd i wneud penderfyniadau cyllido, cynllunio a monitro yn ogystal â gwerthuso ein gwasanaethau.

Gallai Gwybodaeth Busnes gael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru a thrydydd partïon sy’n gweithredu ar ei rhan i wneud ymchwil yn gysylltiedig â chymorth busnes.

Ni fydd Llywodraeth Cymru byth yn trosglwyddo eich gwybodaeth i sefydliad arall er mwyn iddynt farchnata’n uniongyrchol i chi neu eich sefydliad.
 

2.   Gwybodaeth Bersonol

Wrth eich helpu fel busnes bydd angen i Lywodraeth Cymru gasglu a thrafod rhywfaint o wybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau ar eich cyfer. Gallai hyn gynnwys manylion cyswllt sylfaenol neu wybodaeth fwy sensitif fel cyflog a gwybodaeth am eich cyflogres fel tystiolaeth bod swyddi’n cael eu creu.

Bydd gwybodaeth bersonol a gesglir yn cael ei defnyddio:

  • i gysylltu â chi ynglŷn â’r cymorth a ddarperir i chi
  • i asesu a monitro ceisiadau am Grant a gweithredu dilynol

Gallwn gysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich manylion personol a busnes a throsolwg o’r cymorth a ddarperir i chi ar gyfer gweithgarwch marchnata a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru.
 

Eich Hawlia

Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rhoi hawliau penodol i unigolion o ran y data personol a gedwir amdanynt. Er na fwriedir iddi fod yn rhestr gynhwysfawr, mae enghreifftiau o’r hawliau hyn yn cynnwys:

  • yr hawl i ofyn am ac i gael copïau o’r data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch (efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tâl bychan am hyn), er bydd yn gyfreithlon weithiau i gadw peth gwybodaeth yn ôl 
  • yr hawl, mewn rhai amgylchiadau, i atal prosesu data personol os byddai gwneud hynny’n achosi niwed neu drallod
  • yr hawl i ofyn i wybodaeth anghywir gael ei chywiro
  • mae gennych yr hawl hefyd i ofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n gorfodi ac yn goruchwylio Deddf Diogelu Data 1998, i asesu a yw prosesu eich data personol yn debygol neu beidio o gydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf

 

Am ragor o wybodaeth am y data personol a gesglir a’r defnydd a wneir ohoni ac os oes gennych chi unrhyw bryderon am gywirdeb data personol neu os ydych chi’n dymuno gweithredu unrhyw rai o’ch hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, dylech gysylltu â:

Business Wales
Sarn Mynach 
Llandudno Junction 
LL31 9RZ

Ffôn: 03000 6 03000
cymorthbusnes@llyw.cymru

 

Mae modd cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.

Mae modd cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545745.

Eich Gwybodaeth chi a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae darpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn berthnasol i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosib y caiff gwybodaeth a gedwir amdanoch chi ei datgelu, os ceir cais rhyddid gwybodaeth.  Os gofynnir am unrhyw wybodaeth a roddwyd i ni gennych chi mewn cais o’r fath, byddai Llywodraeth Cymru fel arfer yn ymgynghori â chi er mwyn gweld pa niwed, os o gwbl, fyddai'n cael ei achosi o ddatgelu'r wybodaeth i'r cyhoedd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.