Mae’r astudiaethau achos hyn yn defnyddio pedwar categori i dynnu sylw at sut mae’r cwmnïau wedi datblygu drwy’r rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota:
- Amcanion Prosiectau Cychwyn Darbodus
- Prif Heriau
- Prif Newidiadau
- Canlyniadau
Mae ein carfanau’n cynnwys cwmnïau o Ogledd a De Cymru, sy’n caniatáu I ni greu clystyrau’r Gogledd a’r De.
Clwstwr Gogledd Cymru:
- Airbus
- Enbarr
- Knitmesh
- Raytheon Technologies UK
- Rehau
- Hanson Cement Padeswood
- Goodfish
- TATA Steel - Shotton
- Chester Medical Solutions
- Consort Precision Diamond
- Heidelberg Materials
- Faun Trackway ltd
Clwstwr De Cymru:
- Fitzgerald Plant Ltd.
- GTS Flexible Material
- Invacare
- Rototherm
- Seda
- SO Modular Ltd.
- TATA Steel - Catnic
- Airflo Fishing
- Atlantic Service
- Dairy Partners
- Stately Albion
- Hanson Aggregates - Pontypridd
- Magstim
- Ledwood
Bydd y clystyrau hyn yn parhau i dyfu wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen, gan greu rhwydwaith o fusnesau ar draws Cymru sy’n gallu rhannu a thyfu gyda’i gilydd.
Dogfennau
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Astudiaeth achos
Arbenigwyr cymorth busnes sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yw Enbarr Recruitment and Training, sydd o dan berchnogaeth breifat ac wedi eu lleoli yng Ngogledd Cymru. Gyda dros 25 mlynedd o brofiad recriwtio lleol mewn amrywiaeth o sectorau diwydiannol, profwyd bod eu technegau’n gweithio’n effeithiol ar gyfer contractau un safle a chontractau aml-safle ar draws pob lefel o fewn sefydliadau partner.
Gwefan: www.enbarrenterprises.co.uk
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Gwella prosesau sefydlu staff
- Safoni gweithdrefnau a pholisïau mewnol
- Gwella cyfathrebu mewnol ar bob lefel
Newidiadau Allweddol
- Crëwyd proses wedi’i safoni ar gyfer diweddaru eu cronfeydd data ymgeiswyr.
- Crëwyd amserlen ddyddiol sydd ar gael i’r holl staff perthnasol, er mwyn ymdopi ag unrhyw absenoldebau staff.
Canlyniadau
- Mae cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer y prosesau a ddiweddarwyd wedi eu storio’n ganolog fel bod yr holl staff cyfredol a staff newydd yn gallu cael mynediad atynt.
- Daethpwyd o hyd i wybodaeth oedd ar goll ac fe’i harbedwyd yn y cronfeydd data cywir.
- Mae prosesau cynefino ymgeiswyr wedi eu symleiddio, ac yn golygu bod cleientiaid ac ymgeiswyr yn cyflawni’r prosesau’n gynt.
- Gwell cyfathrebu o fewn y sefydliad, gan ganiatáu amser ac ystyriaeth ar gyfer gwasanaeth llanw pan fydd staff yn absennol.
- Mae’r newidiadau yn y diwylliant gwaith wedi eu deall, eu derbyn, ac mae’r holl staff yn cadw atynt.
Mae KnitMesh Technologies yn brif wneuthurwyr cynnyrch Weiar Netin Pleth sydd wedi eu cynllunio a’u datblygu ar gyfer amrywiaeth o sectorau fel y sector cynhyrchu hydrogen, y sector electrolysis, y sector modura, y sector awyrofod, y sector telathrebu, a’r sector milwrol.
Gwefan: www.knitmeshtechnologies.com
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Ceisio lleihau gweithredwyr shifft o 2.5 i 2 i gynyddu effeithlonrwydd staff.
- Cofnodi’r amser cyfartalog y mae’n ei gymryd i gwblhau camau unigol o’r broses weithgynhyrchu.
- Rhoi targedau dyddiol i weithredwyr.
- Symleiddio prosesau a lleihau amser sy’n cael ei wastraffu.
- Ennill cefnogaeth y gweithredwyr tuag at newid mewn diwylliant.
Newidiadau Allweddol
- Crëwyd taflen Kaizen fanwl er mwyn gweld yn union lle y gellir arbed amser.
- Cynnwys gweithredwyr yn yr holl brosesau gweithgynhyrchu darbodus newydd fel eu bod yn gallu ymgyfarwyddo â’r newidiadau.
- Newidiwyd a gwellwyd cynllun yr arwynebedd llawr gyda’r gweithredwyr er mwyn symleiddio prosesau ymhellach, a lleihau amser sy’n cael ei wastraffu.
- Crëwyd byrddau cysgodion ar gyfer offer a jigiau.
- Rhoddwyd prosesau monitro cynnydd ar waith ar weithdrefnau newydd gan gynnwys llif parhaus.
Canlyniadau
- Mae Knitmesh wedi gallu nodi meysydd lle y gall gweithredwyr leihau amser aros, a chynyddu effeithlonrwydd.
- Mae aildrefnu llawr y siop wedi lleihau amser cludo nwyddau.
- Mae’r amser a arbedwyd yn ystod y broses weithgynhyrchu a chludo wedi golygu lleihad yn yr angen am weithredwyr o 2.5 to 2.12.
- Mae Knitmesh yn nodi bod y datblygiad mwyaf wedi’i sicrhau drwy newid diwylliant, wrth i weithredwyr gymryd rhan yn yr holl brosesau newydd, a theimlo eu bod yn cael eu hannog i gyflwyno eu syniadau darbodus eu hunain
Mae Raytheon UK yn gwmni technoleg sy’n canolbwyntio ar Amddiffyn, Awyrofod a Seiber a Chudd-wybodaeth ac mae ganddo safleoedd ledled y DU; yng Nghymru, Lloegr ac yn yr Alban. Fel is-gwmni sy’n eiddo llawn i Raytheon Technologies (Raytheon Company gynt) yn yr Unol Daleithiau, rydym wedi bod yn y DU ers dros 100 mlynedd. Roedd Raytheon wedi cyfrannu £762
miliwn* at economi’r DU yn 2019, gan gefnogi 8,300 o swyddi yng nghadwyn gyflenwi’r DU.
Yn y DU, mae ein gweithlu wedi’i ymrwymo i bedwar sector cynradd – ISR Awyr, Synwyryddion, Arfau a Seiber ac Intel.
Gwefan: www.rtx.com/uk
*Mae’r ffigwr hwn yn cynrychioli Raytheon UK Operations ac effaith gwariant Raytheon Company yn y DU cyn yr uno ag UTC yn 2019.
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Gwella’r gwaith o fapio prosesau.
- Gwella ansawdd.
- Lleihau gwastraff-amser mewn cyfarfodydd am eu llwyth gwaith.
Prif Newidiadau
- Cyflwyno meddylfryd Kaizen a oedd wedi tynnu sylw at llawer o gyfleoedd gan Kaizen.
- Nodi 41 o gamau gweithredu i sicrhau gwelliant yn y broses.
- Creu gwell gynllun cyfarfod i leihau amser sy’n cael ei wastraffu ar gyfarfodydd diangen.
- Penderfynu i feithrin modelau ar gyfer meysydd gweithio’n lleol yn hytrach nag ar draws yr holl feysydd.
- Gwell brosesau ar gyfer rhyddhau lluniadau a newid prosesau.
- Llunio gostyngiad aiweithio – map symlach ar gyfer prosesau i leihau nifer y camau penderynu.
Canlyniadau
- Rhoi system newydd ar gyfer mapio prosesau ar waith a chreu fframwaith gwaith tîm i helpu gyda’r gwaith hwnnw o fapio.
- Dros 40k awr o newid ychwanegol drwy’r broses rheoli newid.
- Lleihau ail-weithio drwy fonitro a thrwy weithredoedd PPS o 7 i 3. Mae hyn yn cyfateb i osgoi costau gwerth £175,000
Mae REHAU Industries yn un o’r pum cwmni sy’n rhan o grŵp REHAU. Mae safle REHAU ym Mlaenau Ffestiniog yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu cynhyrchion a systemau a wneir o ddeunyddiau polymer, yn enwedig allwthiadau proffiliau ffenestri a drysau PVC.
Gwefan: www.rehau.com/group-en
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Dewisodd Rehau ganolbwyntio ar wastraff yn ystod amseroedd cyfnewid, yn y tair prif adran:
- Cymysgu
- Allwthio
- Laminadu
- Creu systemau Cyfnewid Deiau mewn Munudau Sengl (Single Minute Exchange of Dies - SMED) i fynd i’r afael ag aneffeithlonrwydd yn eu prosesau gweithgynhyrchu.
- Creu cyfres gynhyrchu sy’n ei gwneud yn bosibl i weithgynhyrchu mwy nag un math o gynnyrch ar yr un pryd.
- Trefnu offer a dod o hyd i adnoddau fel eu bod ar gael pan fydd eu hangen.
Newidiadau Allweddol
- Gweithiwyd gyda’r adran gynllunio i gynllunio cyn lleied o newid proffil â phosibl. Er enghraifft, drwy grwpio’r holl broffiliau ffenest sydd o’r un siâp, llwyddwyd i leihau amser cyfnewid ar y peiriannau a hwyluso’r broses cynllunio cynhyrchu.
- Crëwyd systemau SMED ar gyfer y broses allwthio, gan leihau faint o amser sy’n cael ei wastraffu ar gludo peledi.
- Crëwyd systemau SMED ychwanegol drwy symud cyfarpar ac offer i’r man y mae eu hangen, gan leihau amser cludo deunyddiau a gwaredu amser aros i staff.
Canlyniadau
O ganlyniad i ailstrwythuro’r gwaith cynllunio, mae REHAU wedi:
- Creu 66.3 awr ychwanegol o gapasiti bob mis yn eu proses, sydd wedi creu capasiti ar gyfer:
- 42,000 metr yn rhagor o gynnyrch bob mis (483,000 metr y flwyddyn)
- Arbedion ariannol misol sylweddol o ran gwaith peiriannau ac o ran staff.
- Cynnydd mewn incwm blynyddol.
Rydyn ni’n rhan o’r Heidelberg Cement Group, sy’n gwmni agregau, sment a choncrit rhyngwladol blaenllaw. Mae Hanson UK wedi’i rannu’n bedwar busnes – agregau, concrit, asffalt a chontracio a sment. Gyda’i gilydd, mae ganddyn nhw ryw 300 o safleoedd gweithgynhyrchu ac yn cyflogi dros 3,500 o bobl.
Gwefan: www.hanson.co.uk/en/Hanson-Cement- Padeswood
Amcanion Prosiect Cwchwyn Darbodus
- Safoni gwaith cynnal a chadw peiriannau.
- Newid diwylliant/derbyn prosesau darbodus gorffen i gau’r ddolen.
- Newid ymddygiad diwylliannol i ystyried gwaith yn llinell gynhyrchu yn hytrach na gweithio ar reoli argyfyngau bob dydd.
Prif Newidiadau
- Wedi lleihau’r rhestr problemau sy’n aros am sylw o 1750 i 460.
- Wedi ail asesu’r cyfarfod cynllunio wythnosol.
- Wedi creu agenda gyda disgwyliadau clir, sydd wedi arwain at gyfathrebu clir rhwng adrannau.
- Wedi creu cynllun gwaith newydd sy’n hawdd ei ddiweddaru. Hawdd ychwanegu newidiadau munud olaf a’r rheswm am y newid.
- Pob cais am waith bellach yn dilyn templed yn seiliedig ar daflen ddadansoddi Toyota. Mae crefftau wedi mabwysiadu hyn.
- Mae’r cynllun gwaith bellach yn cael ei flaenoriaethu i gyflymu’r gwaith er mwyn gallu ymateb i newidiadau’n effeithiol.
- Dychwelyd yr archeb waith ar ôl ei gorffen i gau’r ddolen.
Canlyniadau
- Mwy o’r cynllun gwaith yn cael ei gwblhau, o 65% i 91%.
- Llai o stres a mwy o gyfle i feddwl am welliannau pellach.
- Wedi arbed 2 awr ym mhob diwrnod gwaith trwy fabwysiadu’r cynllun newydd.
- Platfform teg i’r holl weithwyr allu dylanwadu ar gynlluniau.
- Casglu data’n well.
- Trefn glir ar gyfer y cyfarfod cynllunio wythnosol, felly cyfathrebu gwell wrth drafod blaenoriaethau (gyda chefnogaeth data).
- Wedi cyflogi dau beiriannydd gwella i arwain y gwaith o ddatrys problemau.
Mae gwaith Tata Steel yn Shotton, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 125 oed ac mae’n gweithgynhyrchu oddeutu 500,000 tunnell o ddur wedi’i orchuddio â metel a dur wedi’i orffen bob blwyddyn ar gyfer adeiladu cymwysiadau amlen, domestig, a chymwysiadau i ddefnyddwyr. Mae Tata Steel yn Shotton yn cynnwys dau brif fusnes, sef Colors a Building Systems sy’n cyflogi oddeutu 800 o bobl. Mae Colors yn prosesu coiliau dur i goiliau wedi’u galfaneiddio a’u gorchuddio â lliw. Mae Building Systems, y prif fusnes adeiladu yn Tata Steel UK, yn gweithgynhyrchu cynhyrchion a systemau adeiladu, gan brosesu tua 80,000km o ddeunydd y flwyddyn — digon i fynd o amgylch y byd ddwywaith.
Gwefan: www.tatasteeleurope.com
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
Nod Tata Steel, Shotton oedd cynnal dau brosiect ar eu taith Cychwyn Darbodus:
- 3. Cynllunio Strategol: Nod y prosiect hwn oedd deall llif gwybodaeth, a chyfathrebu gwybodaeth o bob rhan o’r cwmni â gweithredwyr ar lawr y siop mewn modd effeithiol.
- 4. Symudiad Coiliau: Nod y prosiect hwn oedd dileu gwastraff o’r broses cludo coiliau drwy fapio ffrwd gwerth y prosiect. Drwy ddadansoddi’r cyflwr presennol, ceisiodd Tata Steel Shotton ddod o hyd i ddiffygion a chynllunio proses newydd o’r dechrau i’r diwedd.
Newidiadau Allweddol
- Mae Tata Shotton bellach yn cynnal cyfarfodydd llawr siop rheolaidd gyda’r uwch dîm arweinyddiaeth a’r tîm gweithredwyr er mwyn rhannu eu gweledigaeth Ddarbodus.
- Drwy gofnodi symudiad y coiliau, maent wedi gallu nodi meysydd symudiad nad oedd yn ychwanegu gwerth er mwyn ceisio lleihau symudiad a lleihau faint o amser sy’n cael ei wastraffu.
- Nodwyd gwelliannau i’r cynllun ar gyfer y Meysydd Coil, sy’n gwella safonau iechyd a diogelwch yn ogystal â llif y broses.
- Gofynnwyd am gymorth gan y tîm TG i greu dangosfyrddau a fydd yn gwella gwelededd y stoc ac yn creu prosesau awtomatig ar gyfer ardaloedd warws.
Canlyniadau
- Mae cyfarfodydd llawr siop rheolaidd wedi gwella’r broses gyfathrebu ac ymgysylltu yn gyffredinol, ac mae wedi sefydlu diwylliant o gydweithio.
- Erbyn hyn mae Tata Shotton wedi gallu nodi angen am brosiectau Datrys Problemau Ymarferol pellach.
- Mae’r nifer o symudiadau yn y broses symud coiliau wedi gostwng o 37 i 23, gan leihau’r amser sy’n cael ei wastraffu.
- Mae symudiadau’r coiliau wedi eu dynodi fel ffrwd waith allweddol ar gyfer eu prosiect lleihau stocrestrau cyffredinol sydd i fod i arbed nifer o filiynau o bunnoedd erbyn dechrau blwyddyn ariannol 2024.
- Ar ôl profiad Cychwyn Darbodus llwyddiannus, bydd Tata Steel, Shotton yn cymryd rhan yn rhaglen Llywodraeth Cymru a Rhaglen Clystyrau Darbodus Canolfan Rheoli Darbodus Toyota, sef Darbodus Plws.
Mae Fitzgerald Rail & Construction Equipment Services Ltd, yng Nghwmbrân, De Cymru, wedi ennill ei blwyf fel darparwr gwasanaethau arbenigol yn y diwydiannau rheilffyrdd ac adeiladu. Wedi’i sefydlu yn 2007, mae Fitzgerald Rail & Construction Services wedi creu enw da iawn i’w hun am ddarparu gwaith o ansawdd a gwasanaeth proffesiynol. Mae ein busnes wedi’i adeiladu ar sylfaen o wasanaeth cryf ac atebion sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid
Gwefan: www.fitzgeraldplant.co.uk
Amcanion Cychwyn Darbodus
- Lleihau Diffygion Mewnol drwy ddadansoddi.
- Colledion dyddiadau/amser a chostau cysylltiedig.
- Hyfforddi a gwella sgiliau staff.
- Cyflwyno S.O.P.
Prif Newidiadau
- Casglu data dyddiol a chynal dadansoddiad wythnosol o ddata. Pob adran yn gweithredu ac yn mabwysiadu taenlenni.
- Wedi gweithredu systemau olrhain amser wedi’i golli i ddal gwastraff.
- System Andon wedi’i rhoi ar waith.
- Nodi a dileu arferion aneffeithlon.
- Ymgysylltu rhwng gweithredwr lloriau siopao ac uwch reolwyr wedi gwella.
- Dechrau proses 5s o’r gweithle.
- Newidiadau ymddygiad diwylliannol yn y cwmni.
Canlyniadau
- Gwell dealltwriaeth o dueddiadau diffygion ac achosion gwraidd materion a nodwyd ac a gofnodwyd ar unwaith.
- Dealltwriaeth glir o wastraff busnesau a sut i’w lleihau.
- Penderfyniadau sy’n cael eu gyrru gan ddata a ffeithiau drwy gydol gweithrediadau.
- Gwell ansawdd craidd.
- Cyfradd gynhyrchu uwch trwy weithdy.
- Gwell rheolaeth o adnoddau.
- Amserlenni mwy cywir ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
- Gwelliant gweledol mewn gweithdy o ganlyniad i leihau gwastraff.
- Gwelliant sylweddol mewn gweithrediadau.
- Gweithredu rhaglenni sefydlu dau ddiwrnod a CPD i’r holl staff.
- Unffurfiaeth prosesau gwaith.
- Gwell moral yn y gweithle a gwerth cwsmeriaid.
- Eisiau symud ymlaen I gynllun Darbodus Plus.
Clywch gan Fitzgerald Plant Services
Mae Fitzgerald Rail & Construction Equipment Services Ltd, sydd wedi ei leoli yng Nghwmbrân, De Cymru, yn ddarparwr gwasanaethau arbenigol sefydledig yn y diwydiannau rheilffordd ac adeiladu. Mae Fitzgerald yn arbenigwyr mewn atgyweirio, cynnal a chadw, uwchraddio i RIS-1530-PLT, gwasanaethau peirianneg, gweithgynhyrchu, gwerthu darnau a chludo nwyddau trwm; maent yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth cwbl gynhwysfawr 24 awr y dydd, 365 o ddyddiau’r flwyddyn.
Gwefan: www.fitzgeraldplant.co.uk
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Datblygu system sy’n nodi gwraidd y broblem pan fydd cerbydau/peiriannau cwsmeriaid yn methu.
- Defnyddio astudiaeth Datrys Problemau Ymarferol i greu llif prosesau i gael gwared â’r broblem.
- Canfod pam fod hylif hydrolig yn gollwng a chywiro’r broblem.
- Creu proses archwilio newydd er mwyn i beirianwyr sicrhau ansawdd cynnyrch.
Newidiadau Allweddol
- Llwyddodd Tata Shotton i nodi’r prif reswm pam fod cerbydau/peiriannau cwsmeriaid yn methu a pham fod y nam hwn yn digwydd yn aml, gan ddefnyddio dadansoddiad achos ac effaith.
- Fe wnaethant ganfod bod eu safon archwilio presennol yn nodi y dylid archwilio isfframiau, ond nad oedd y safon honno’n cael ei dilyn yn agos.
- Ychwanegwyd gwrthfesur at y safon er mwyn tynnu sylw at yr angen i archwilio’r isffram a chynhwyswyd cymorth gweledol er mwyn sicrhau nad oes unman yn gollwng ar ôl yr archwiliad cychwynnol.
Canlyniadau
- Mae’r gwrthfesur newydd ar gyfer darnau’n gollwng wedi ei roi ar waith ac mae’r holl beirianwyr wedi cael gwybod am y broses newydd.
- Drwy greu proses safonol ar gyfer y mater hwn, maent wedi lleihau nifer yr achosion o ollwng o 77%.
- Ers gorffen eu hail brosiect Cychwyn Darbodus, mae Fitzgerald Plant Services Ltd. wedi cofrestru ar gyfer rhaglen Darbodus Plws Clystyrau Darbodus Toyota Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rheoli Darbodus Toyota.
Clywch gan Fitzgerald Plant Services
Mae ganddynt allbwn blynyddol o tua 4 miliwn sqm o gyfansoddion wedi’u lamineiddio a thapiau â chotiau adwythol. Caiff 90% o gynhyrchion eu hallforio, yn bennaf i Ewrop, y Dwyrain Pell ac UDA. Maent yn gweithredu mewn rhwydwaith dosbarthu byd-eang, gan gynnwys is gwmnïau gwerthu yn yr Almaen a Ffrainc.
Mae GTS yn cynhyrchu laminiadau, deunydd insiwleiddio ffilmiau ac adnodau sy’n angenrheidiol i ystod o wahanol ddiwydiannau. Mae deunyddiau GTS yn addas ar gyfer ystod eang o gynhyrchion. Wrth edrych ar y ceisiadau terfynol yn ogystal â galluoedd prosesu ein cwsmeriaid, rydym wedi nodi pedair marchnad darged: Modurol, Dosbarthu Pŵer, Cysylltu, ac Electroneg Gyffredinol.
Gwefan: www.gtsflexible.com
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Datrys problemau ymarferol.
- Gwella effeithlonrwydd prosesau hollti peiriannau.
- Categoreiddio data diffygion hanesyddol i nodi ac atal materion sy’n codi.
Prif Newidiadau
- Edrych ar waith mewnol vs allanol.
- Blaenoriaethu meysydd i wella (A & B).
- Llunio map proses systemau.
- Wedi gweithredu system arddangos data amser real.
- Wedi gosod Andon.
Canlyniadau
- Mae GTS wedi datblygu KPIau i fesur perfformiad yn well yn erbyn capasiti dyddiol.
- Newidiadau diwylliannol: Mae gan GTS amserlen gyfarfod fwy effeithlon h.y. adolygiad dyddiol cyn cyfarfod datrys problemau. Roedd yr amserlen hon yn arfer bod i’r gwrthwyneb o’r blaen. Mae hyn yn galluogi staff i godi problemau yn yr adolygiad dyddiol, gan neilltuo mwy o amser ar gyfer datrys problemau gwirioneddol yn nes ymlaen.
- Mae GTS yn mynd yn ei flaen gyda’u andon.
- Mae GTS yn awyddus i gymryd rhan yn Rhaglen Darbodus Plws.
Mae Invacare GB yn arbenigo mewn cynhyrchu cadeiriau olwyn, cadeiriau pŵer, a chlustogau sbwng sydd wedi eu cynllunio i wella gofal cleifion i gleifion sydd â symudedd cyfyngedig. Mae’r clustogau a’r cynnyrch cymorth hyn wedi eu cynllunio i leihau effeithiau briwiau pwyso a chrafiadau a achosir gan ffrithiant, er enghraifft.
Gwefan: www.invacare.co.uk
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Prif nod Invacare oedd cynyddu allbwn y safle gan leihau oriau llafur a goramser o fewn yr adran gweithgynhyrchu.
- Lleihau amser cyfnewid oedd yn hwy na’r amser safonol, gan leihau’r amser y mae’n ei gymryd i gynhyrchu clustog sbwng o 122 o eiliadau i 90 o eiliadau, er enghraifft.
- Safoni prosesau a sicrhau bod yr holl staff yn deall y newidiadau.
Newidiadau Allweddol
- Defnyddiodd Invacare brosiect Datrys Problemau Ymarferol (PPS) i nodi ac edrych ar y broblem yn fanwl. Ar ôl gwneud hyn, fe wnaethant nodi anghysondebau rhwng shifftiau; roedd un shifft yn perfformio mwy o gyfnewidfeydd mowldiau na’r llall. Fe wnaethant ganfod mai’r brif broblem oedd bod y gweithredwyr wedi gwyro oddi wrth y rhaglen wreiddiol.
- Fel gwrthfesur, mae Invacare wedi trefnu contractwr allanol ar gyfer cymorth rhaglennu robotiaid.
- Mae bwrdd capasiti wedi ei gyflwyno er mwyn cynorthwyo i ddeall effeithlonrwydd gwaith a gweithwyr.
- Adolygwyd ac ailhyfforddwyd y broses weithredu safonol ar gyfer cyfnewid offer.
Canlyniadau
- Lleihawyd yr amser safonol ar gyfer cyfnewid offer, a chyrhaeddwyd y targed.
- Cyrhaeddwyd y targed rhannau a gynhyrchir fesul munud, hyd yn oed cyn i’r prosiect llawn gael ei gwblhau.
- O ganlyniad i ddadansoddi amser, mae Invacare yn sylweddoli y gellir arbed 2–3 munud arall yn ystod y broses o gyfnewid offer.
Mae Seda UK wedi ei lleoli yn y Coed-duon, De Cymru ers 1986.
Yn y safle yn y Coed-duon, mae eu capasiti gweithgynhyrchu yn canolbwyntio ar gynhyrchu deunydd pecynnu ar gyfer y sector arlwyo a bwyd, cwpanau papur yn bennaf. Mae’r rhain yn cynnwys y cwpan wal ddwbl â phatent sydd â nodweddion inswleiddio gwres rhagorol. Yn 2022, dyfarnwyd Medal Aur EcoVadis am gynaliadwyedd i SEDA.
Gwefan: www.sedagroup.com
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Gwella Dangosyddion Perfformiad Allweddol er mwyn cwrdd â’u targedau Effeithiolrwydd Offer Cyffredinol.
- Nodi lle roedd colledion yn digwydd yn y broses gynhyrchu, hy cwpanau pa faint oedd yn creu’r golled fwyaf.
- Creu gweithdrefnau safonol newydd a defnyddio gwrthfesurau ar gyfer materion a nodwyd er mwyn cynyddu’r broses gynhyrchu i fodloni’r galw.
- Mynd i’r afael â’r diffyg o ran adnoddau sgiliau.
Newidiadau Allweddol
- Dadansoddwyd problemau allbynnu peiriannau.
- Crëwyd amserlen gynnal a chadw ar gyfer pob peiriant a honno fydd y safon ar gyfer cynnal a chadw peiriannau ar draws y safle.
- Drwy safoni’r broses, llwyddodd Seda i fynd i’r afael â’r bwlch yn eu hadnoddau hyfforddi a sgiliau, gan ddarparu un broses safonol i bawb.
- Mae Arweinyddion Tîm wedi recriwtio cymorth ychwanegol gan y tîm Gweithrediadau Technegol er mwyn rhannu’r llwyth gwaith cynnal a chadw a chreu amser ychwanegol i’r Arweinyddion Tîm gyflawni tasgau mwy.
- Mae tasgau mwy wedi eu torri i lawr i ddarnau llai o waith fel y gellir eu cwblhau pan fydd staff yn cael cyfle i wneud hynny.
- Mae gwaith cynnal a chadw a chynllunio bellach yn cael ei ddyrannu a’i gategoreiddio yn ôl gofynion sgiliau a statws peiriannau.
Canlyniadau
- Mae Seda wedi creu cynllun tri mis newydd fesul llinell gynhyrchu er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw, yn hytrach nag atgyweirio peiriannau ar sail ad hoc.
- Mae’r newidiadau a wnaethpwyd yn ystod eu taith Cychwyn Darbodus wedi arwain at gynnydd yn y broses gynhyrchu o 200,000 o gwpanau y diwrnod.
- Gellir ail-greu’r cynnydd mewn effeithiolrwydd fesul peiriant ar beiriannau eraill ar draws y safle, gan arwain at fwy o gapasiti, mwy o arbedion, a mwy o enillion yn y dyfodol.
Mae Seda UK wedi ei lleoli yn y Coed-duon, De Cymru ers 1986. Yn y safle yn y Coed-duon, mae eu capasiti gweithgynhyrchu yn canolbwyntio ar gynhyrchu deunydd pecynnu ar gyfer y sector arlwyo a bwyd, cwpanau papur yn bennaf. Mae’r rhain yn cynnwys y cwpan wal ddwbl â phatent sydd â nodweddion inswleiddio gwres rhagorol. Yn 2022, dyfarnwyd Medal Aur EcoVadis am gynaliadwyedd i SEDA.
Gwefan: www.sedagroup.com
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Gwella Dangosyddion Perfformiad Allweddol er mwyn cwrdd â’u targedau Effeithiolrwydd Offer Cyffredinol.
- Nodi lle roedd colledion yn digwydd yn y broses gynhyrchu, hy cwpanau pa faint oedd yn creu’r golled fwyaf.
- Creu gweithdrefnau safonol newydd a defnyddio gwrthfesurau ar gyfer materion a nodwyd er mwyn cynyddu’r broses gynhyrchu i fodloni’r galw.
- Mynd i’r afael â’r diffyg o ran adnoddau sgiliau.
Newidiadau Allweddol
- Dadansoddwyd problemau allbynnu peiriannau.
- Crëwyd amserlen gynnal a chadw ar gyfer pob peiriant a honno fydd y safon ar gyfer cynnal a chadw peiriannau ar draws y safle.
- Drwy safoni’r broses, llwyddodd Seda i fynd i’r afael â’r bwlch yn eu hadnoddau hyfforddi a sgiliau, gan ddarparu un broses safonol i bawb.
- Mae Arweinyddion Tîm wedi recriwtio cymorth ychwanegol gan y tîm Gweithrediadau Technegol er mwyn rhannu’r llwyth gwaith cynnal a chadw a chreu amser ychwanegol i’r Arweinyddion Tîm gyflawni tasgau mwy.
- Mae tasgau mwy wedi eu torri i lawr i ddarnau llai o waith fel y gellir eu cwblhau pan fydd staff yn cael cyfle i wneud hynny.
- Mae gwaith cynnal a chadw a chynllunio bellach yn cael ei ddyrannu a’i gategoreiddio yn ôl gofynion sgiliau a statws peiriannau.
Canlyniadau
- Mae Seda wedi creu cynllun tri mis newydd fesul llinell gynhyrchu er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw, yn hytrach nag atgyweirio peiriannau ar sail ad hoc.
- Mae’r newidiadau a wnaethpwyd yn ystod eu taith Cychwyn Darbodus wedi arwain at gynnydd yn y broses gynhyrchu o 200,000 o gwpanau y diwrnod.
- Gellir ail-greu’r cynnydd mewn effeithiolrwydd fesul peiriant ar beiriannau eraill ar draws y safle, gan arwain at fwy o gapasiti, mwy o arbedion, a mwy o enillion yn y dyfodol.
Wedi’i sefydlu ym 1996 gan ein Prif Swyddog Gweithredol Jonathan Hale, mae SO Modular Ltd yn gwmni gweithgynhyrchu fframiau pren sy’n ehangu’n gyflym. Gall ein gweithlu hynod brofiadol, sy’n dal i dyfu fynd ati i ‘Ddylunio, Cyflenwi a Chodi’ eich ffrâm bren – ar gyfer y cartref, bloc o fflatiau, siop adwerthu neu sefydliad addysg, ar amser, ar gyllideb ac i’r safon uchaf posibl.
Rydym yn parhau i fod ar flaen y gad o ran cynnig datrysiadau arloesol a chreadigol yn y diwydiant adeiladu, gan wthio ffiniau a datblygu cynhyrchion sy’n ein galluogi i hybu effeithlonrwydd, cynaliadwyedd a chost-effeithiolrwydd ar draws ystod amrywiol o brosiectau adeiladu.
Gwefan: www.somodular.co.uk
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Gwella trefn triniaethau a phrosesu.
- Safoni llif gwaith.
- Cael gwared ar systemau aneffeithiol.
- Gwella rheolaeth ansawdd.
- Cyfathrebu ag adran werthu.
- Cynnwys uwch-reolwyr yn y rhaglen.
Prif Newidiadau
- Wedi creu Byrddau Rheoli Cynhyrchu.
- Wedi gweithredu mesurau diogelwch newydd mewn ardal driniaeth.
- Casglu data.
- Canfod ffynhonnell yr oedi wrth drin coed
Canlyniadau
- Cynnydd o 25% mewn cynhyrchiant net ar ôl nodi heriau mewn ardal trin coed.
- Wedi gweld 30 munud/dydd yn cael ei arbed yn y broses lifio o ganlyniad I welliannau yn y driniaeth o bren.
Ers ei ffurfio yn 1969, mae Catnic wedi arloesi o ran cynllunio linteli dur ar gyfer adeiladu tai, ac wedi datblygu yn arweinydd y farchnad yn y DU. Mae bellach yn frand enwog o ran linteli dur. Yn rhan o grŵp Tata, mae Catnic wedi ei leoli yn Ne Cymru ac mae wedi sefydlu ei hun fel gweithgynhyrchydd rhyngwladol, yn cyflenwi linteli, ategolion plastro a gwaith metel i 60 o wledydd o dri safle gweithgynhyrchu Ewropeaidd.
Gwefan: www.catnic.com
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Datblygu proses rheoli ansawdd er mwyn lleihau nifer y cwynion a geir gan gwsmeriaid bob mis i sero.
- Creu gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer llif gwybodaeth a deunyddiau.
- Creu gweithdrefnau safonol ar gyfer y broses hollti.
- Dod o hyd i wraidd y broblem sy’n achosi linteli o’r hyd anghywir.
- Gweithredu system gyfathrebu eglur ar gyfer y rheini sy’n gweithio yn yr iard.
Newidiadau Allweddol
- Nodwyd mai ar adeg pigo’r deunydd yn yr iard yr oedd y broblem o ran hyd y linteli yn digwydd.
- Crëwyd system awtomatig i ddiweddaru symudiad stoc gan ddefnyddio sganwyr.
- Cafodd y daflen cofnodi dyddiol ei digideiddio.
- Sicrhawyd bod y Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP) yn gyfredol a bod yr holl staff wedi eu hyfforddi ynddynt.
- Diffiniwyd rolau a chyfrifoldebau eglur, gyda pherchnogaeth ar dasgau.
- Mae tîm yr iard bellach wedi eu hyfforddi i drosglwyddo stoc yn ddigidol yn ogystal ag yn gorfforol.
- Prynwyd wagenni fforch godi trydan er mwyn lleihau’r sŵn yn yr iard, a buddsoddwyd mewn radios newydd mwy diweddar er mwyn gallu cyfathrebu’n well.
- Crëwyd marciau gweledol yn yr iard er mwyn sicrhau bod ffitiadau’r linteli cywir yn y llefydd cywir.
- Gwellwyd y system labelu er mwyn gwaredu problemau cam-labelu. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod y labeli ar y linteli yn yr iard yn gallu gwrthsefyll tywydd.
Canlyniadau
- Erbyn hyn mae Tata Steel Catnic wedi gallu darparu cysondeb yn eu hyfforddiant a’u prosesau gwaith i’r holl staff drwy gyflwyno’r holl Weithdrefnau Gweithredu Safonol newydd i bob aelod o staff.
- Ers dysgu am Darbodus, mae Tata Catnic wedi gallu defnyddio eu dealltwriaeth mewn rhannau eraill o’r busnes. Maent wedi dechrau drwy greu cynrychiolaeth weledol mewn rhannau eraill o’r busnes er mwyn mynd i’r afael â nhw.
- O ganlyniad i ddatrys eu problem ynghylch cwynion gan gwsmeriaid, mae Tata Catnic wedi gallu nodi arbedion ariannol blynyddol o ddegau o filoedd o bunnoedd ym mhob blwyddyn ariannol. Maent o’r farn mai dim ond cynyddu wnaiff yr arbedion hyn wrth i’w taith Ddarbodus ddatblygu.
- Nodwyd bod y broblem gyda’r weithdrefn hollti yn broblem o ddechrau’r broses i’w diwedd yn hytrach na phroblem gyda pheiriant, a byddant nawr yn edrych ar hyn fel prosiect ychwanegol.
Gweithgynhyrchwr cydrannau plastig a chyfansawdd o dan gontract yw Grŵp Goodfish, a'r cwmni arweiniol yn y maes hwn yn y DU. Mae Goodfish yn Llanelwy yn cyflogi dros 62 aelod o staff ac yn gweithredu 83 peiriant sy'n gallu gwneud y canlynol: Mowldio chwistrelli, allwthio plastig, ffurfio â gwactod, gwneud offerynnau, cydosod, cyfansoddion, weldio sonig ac argraffu 3D.
Gwefan: www.goodfishgroup.com/goodfish-group-north-west
Amcanion Prosiect Lean Start
Yr Adran Allwthio:
- Dileu colli amser cynhyrchu ar linellau o ganlyniad i hopranau'n methu a diffyg hidlenni glân ar gael.
- Atal gwastraffu cynnyrch (gwerth 135 metr) o ganlyniad i'r dull sicrhau ansawdd presennol lle mae darnau o'r cynnyrch yn cael eu torri i'w profi.
Yr Adran Mowldio:
- Lleihau diffygion yn yr adran cydosod cynnyrch y cwsmer i sero gan ddefnyddio system monitro cynhyrchion, gan atal £1.5k o glipiau rhag cael eu gwastraffu.
- Lleihau cwynion gan gwsmeriaid i o dan darged y cwmni.
Newidiadau Allweddol
Yr Adran Allwthio:
- Wedi profi'r system newydd ar un llinell. Wedi glanhau'r gantri â'r mannau cerdded yn drwyadl, wedi cael gwared ar hidlenni wedi'u difrodi, wedi glanhau a storio hidlenni sy'n gweithio ond heb gael eu defnyddio. Wedi creu system hidlo Kanban i sicrhau cyflenwad parhaus o unedau a hidlenni glân ar gyfer hopranau. Wedi creu gweithdrefnau gweithredu safonol newydd mewn perthynas â chynnal a chadw hopranau. Wedi rhoi system cynnal a chadw perchnogaeth gynhyrchu ar waith sy'n cynnwys arwyddion gweledol o berfformiad y system.
- Wedi sefydlu gorsaf brofi newydd yn y man cynhyrchu, gan ddileu'r angen i dorri darnau 300mm i'w profi, gan atal gwastraffu'r cynnyrch ac arbed arian.
Canlyniadau
Yr Adran Allwthio:
- Cyflwyno gweithdrefn weithredu safonol newydd ar gyfer cynnal a chadw hopranau ar gyfer gweddill y 15 llinell allwthio, a chynnal hyfforddiant yn hyn o beth.
- Gweithdrefnau gweithredu safonol yn cael eu datblygu ar gyfer cynnal a chadw ar gyfer gweddill y 15 llinell.
- Cyflwyno gweithdrefn weithredu safonol ar gyfer sicrhau ansawdd ar draws pob un o'r 16 llinell allwthio.
- Nodwyd y prosiect sicrhau ansawdd arbedion o £38,850 y flwyddyn. Yn ogystal, cafodd amser segur i leihau i sero, gan arwain at arbedion eraill o £80,000 y flwyddyn.
Yr Adran Mowldio:
- Mae lleoliad y diffyg wedi cael ei nodi, ac o ganlyniad mae gweithdrefnau gweithredu safonol newydd ar gyfer monitro a sicrhau ansawdd wedi cael eu rhoi ar waith.
- Bydd hyfforddiant ar weithdrefnau gweithredu safonol yn cael ei gyflwyno ar draws yr adran.
- Roedd y prosiect cylch rheoli ansawdd ar gyfer mowldio wedi dewis problem â blaenoriaeth a oedd yn cynrychioli £1.5k o glipiau gwastraff. Mae dileu'r methiant hwn wedi arwain ar arbedion rhesymol ac yn cyflwyno'r sgiliau datrys problemau sydd eu hangen i ddatrys rhagor o broblemau yn y dyfodol.
- CYFANSWM yr arbedion bob blwyddyn = £120,000
Mae Gweithfa Tata Steel yn Shotton, Glannau Dyfrdwy, newydd ddathlu ei 125 mlwyddiant, ac mae'n cynhyrchu tua 500,000 tunnell o eitemau dur wedi'i orffen ymlaen llaw â chot metelaidd bob blwyddyn ar gyfer y sector adeiladu, domestig a defnyddwyr. Mae Tata Steel yn Shotton yn cynnwys dau brif fusnes, sef Color a Building Systems, sy'n cyflogi tuag 800 o bobl. Mae Colors yn prosesu coiliau dur yn goiliau wedi'u galfaneiddio a choiliau wedi'u cotio â lliw. Mae Building Systems, y prif fusnes adeiladau o fewn Tata Steel UK, yn gweithgynhyrchu cynhyrchion a systemau adeiladau, gan brosesu tua 80,000km o ddeunyddiau bob blwyddyn, digon i fynd o amgylch y byd ddwywaith.
Gwefan: www.tatasteeleurope.com
Amcanion Prosiect Lean Start
- Defnyddio dull datrys problemau ymarferol i nodi problemau o ran colli cynhyrchion sy'n gysylltiedig â thrwch ffilm sych ar y llinell gynhyrchu gosod lliw.
- Nodi lleoliad y golled mewn system gymhleth.
Newidiadau Allweddol
- Yn gyntaf cafodd y problemau eu categoreiddio yn ôl blaenoriaeth, gan ystyried yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r mesurau unioni.
- Wedyn cafodd mesurau unioni eu datblygu a'u rhoi ar waith i fynd i'r afael â phob problem a nodwyd.
- Mae gweithdrefnau gweithredu safonol wedi cael eu datblygu.
- Mae cyflwr olwyni paentio wedi cael eu gwirio bob mis, gan gynnwys gwirio cyflwr y peiriant paentio.
Canlyniadau
- Mae problemau mewn perthynas â thrwch ffilm sych wedi cael eu lleihau'n sylweddol. Mae diffygion yn y tunelledd oherwydd trwch ffilm sych wedi gostwng 75% y mis ers i'r mesurau unioni gael eu rhoi ar waith.
- Maen nhw'n optimistaidd y gallan nhw leihau hyn ymhellach pan fydd pob gweithredwr yn gyfarwydd â'r arferion safonol newydd.
Mae Airflo yn cynhyrchu llinyn pysgota o ansawdd uchel, heb PVC, a chynhyrchion pysgota eraill yn eu safle yn Aberhonddu.
Gwefan: www.airflofishing.com
Amcanion Prosiect Lean Start
- Lleihau amser a deunyddiau gwastraff drwy gyflwyno gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer cynhyrchu.
- Cynhyrchiant uwch o ganlyniad i'r gweithdrefnau gweithredu newydd.
- Safoni gweithdrefnau newid proses ar gyfer pob gweithredwr.
Newidiadau Allweddol
- Wedi creu system cam wrth gam ar gyfer gweithdrefnau newid proses a gafodd ei phrofi gan weithredwr profiadol.
- Wedi creu dogfen safonol â chanllawiau gweledol sy'n amlinellu sut i newid proses.
- Ar hyn o bryd mae pob gweithredwr yn cael e hyfforddi ar y prosesau newydd a gyflwynwyd.
- Mae canllawiau gweledol yn amlwg ac ar gael i bawb o amgylch y ffatri.
- Mae goruchwylwyr sifft bellach yn parhau ar gyfer newid y model, tra bo'r model flaenorol yn gweithredu i fanteision i'r eithaf ar amser.
- Labeli bagiau wedi'u creu i nodi amryw ddeunyddiau, gan arbed amser.
- Bwriedir defnyddio'r un dulliau hyn i symleiddio prosesau eraill fel newid pwysau.
Canlyniadau
- Gan ddefnyddio'r broses newydd ar gyfer newid proses, mae Airflo Fishing wedi llwyddo i arbed 170 munud bob dydd.
- Mae 113 llinyn ychwanegol wedi cael eu gwneud bob dydd.
- Gan ddefnyddio Lean Teachings, mae Airflo Fishing wedi llwyddo i greu refeniw ychwanegol o hyd at £544,000 y flwyddyn.
Mae Atlantic Service yn gwmni a chanddyn nhw enw da yn rhyngwladol am weithgynhyrchu llafnau cryf o ansawdd uchel, sy'n para'n hir, ar gyfer cigyddion a'r diwydiant arlwyo. Mae enw da ganddyn nhw am gynhyrchu llafnau manwl, yn enwedig cynhyrchu cylchlifiau.
Gwefan: www.atlantic-service.co.uk
Amcanion Prosiect Lean Start
- Cynyddu nifer y cylchlifiau sy'n cael eu cynhyrchu.
- Casglu data i ddeall y llinell sylfaen ar gyfer problemau posibl a datblygu dangosyddion perfformiad allweddol.
- Creu dulliau safonol ar gyfer gweithredu celloedd cynhyrchu, a hyfforddi pob aelod o staff mewn gweithdrefnau gweithredu safonol.
- Gwella cynhyrchiant yn yr ardal weldio, gan leihau faint o amser mae peirianwyr y safle yn ei dreulio yn yr ardal hon (50%).
Newidiadau Allweddol
- Cynnal sesiynau addysgol ar gyfer gweithredwyr peiriannau i annog diddordeb ym mhrosiect Lean Start.
- Cafodd taflen amser newydd ei rhoi ar waith, gan wella'r system ar gyfer cofnodi data cywir.
- Safnau sbâr wedi'u peiriannu gan dîm yr ystafell offerynnau i alluogi weldwyr i newid dei mor gyflym ag y bo modd.
- Gan ddefnyddio'r data a gesglir, cafodd gweithdrefnau gweithredu safonol eu creu yn yr ardal weldio.
Canlyniadau
- Cafodd galwadau cynnal a chadw ar gyfer weldwyr ac amser segur ar gyfer peiriannau eu lleihau'n sylweddol.
- Yn dilyn dadansoddiad o allu gweithredwyr, mae Atlantic Service wedi gosod targed newydd i gynhyrchu 790 o lafnau bob sifft.
- Gwelwyd cynnydd ariannol o tua £25,000 rhwng Chwarter 4 yn 2022 a Chwarter 1 yn 2023
- Byddan nhw'n barhau â rhaglenni Lean Start a Lean Plus.
Mae Dairy Partners yn gwmni cynhyrchion llaeth sydd wedi'i hen sefydlu ac o dan berchnogaeth teulu. Maen nhw’n cyflenwi marchnadoedd yn y DU a thramor. Maen nhw'n gweithredu o ddau brif safle: Stonehouse, Swydd Gaerloyw a Sir Gaerfyrddin yng Nghymru.
Mae ganddynt y gallu i brosesu caws mozzarella, caws pitsa a chynhyrchion cydwedd yn amryw fformatau gan gynnwys caws wedi'i gratio, wedi'i larpio, wedi'i ddeisio ac chaws bloc ar y ddau brif safle.
Gwefan: www.dairypartners.co.uk
Amcanion Prosiect Lean Start
- Nod cwmni cyfan i gynyddu cynhyrchiant ar ei safle yng Nghastell Newydd Emlyn i 35,000 o dunelli y flwyddyn. Bydd hyn yn golygu rhagor o fuddsoddi ond mae angen gwelliannau i weithdrefnau gweithredu presennol yn y lle cyntaf.
- Gwella’r gymhareb perfformiad gweithredu yn y broses becynnu derfynol.
- Gwella'r broses becynnu ar gyfer allforio drwy greu broses safonol i bawb ei dilyn.
- Gwneud gwelliannau i'r llinell pecynnu ar gyfer allforio i arbed amser ac atal gwastraffu cynhyrchion.
- Mynd i'r afael â'r methiannau ar y silindrau llwytho aer ar gyfer caws. Roedd y rhain yn methu ar ôl eu defnyddio am wyth mis yn unig, gan arwain at golli hyd at 200kg o gynnyrch.
- Gwella cofnodi data.
Newidiadau Allweddol
- Wedi cyflwyno gwelliannau o ran newid dei mor gyflym ag y bo modd ar gyfer dalwyr ril ar gyfer pecynnu gwactod.
- Wedi newid synhwyrydd a oedd wedi'i dorri ac wedi cyflwyno system ril gwe waelod i leihau amseroedd newid proses.
- Wedi cyflwyno cynlluniau cynnal a chadw ataliol arfaethedig i leihau amser segur peiriannau a methiannau annisgwyl, a bydd hyn yn cael ei adolygu ddwywaith y flwyddyn.
- Cyflwynir llinell becynnu newydd ar gyfer allforio i leihau digwyddiadau.
- Wedi cyflwyno system TG newydd ar gyfer recordio mewn amser real, sef Power BI. Bydd hyn yn helpu i nodi offer, prosesau neu sifftiau unigol lle mae'r nifer uchaf o broblemau.
Canlyniadau
- Mae gwelliannau o ran newid dei mor fuan ag y bo modd ar gyfer y system becynnu gwactod wedi arwain at leihau amseroedd newid proses yn sylweddol (52.8% ar gyfer newid gwe ben, 25% ar gyfer newid gwe waelod).
- Dylai protocolau cynnal a chadw ataliol newydd ar gyfer y llwythwr caws atal colli cynnyrch.
- Wedi gwella adrodd ar y gymhareb perfformiad gweithredu ac wedi gosod targed uchel newydd.
- Wedi cyfrifo arbedion o tua £120,000 y flwyddyn.
Mae Fitzgerald Rail & Construction Equipment Services Ltd, a leolir yng Nghwmbrân, de Cymru, yn ddarparwr sefydledig gwasanaethau arbenigol o fewn y diwydiannau rheilffyrdd ac adeiladau. Mae Fitzgerald yn arbenigwyr mewn atgyweirio, cynnal a chadw, uwchraddio RIS-1530-PLT, gwasanaethau peirianyddol, gweithgynhyrchu, gwerthu darnau a chludo nwyddau trwm; maen nhw'n ceisio darparu gwasanaeth cwbl gynhwysfawr 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Gwefan: www.fitzgeraldplant.co.uk
Amcanion Prosiect Lean Start
- Gwella a safoni rhestrau archebion ar gyfer peirianwyr a chwsmeriaid gyda ffocws penodol ar offer ar gyfer trelar T35.
- Gwella prosesau gweinyddol i sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei lanlwytho mewn modd amserol.
- Gwella storio ffeiliau fel bod dogfennau pwysig, yn enwedig llawlyfrau, yn cael eu cadw mewn ffordd gall, yn dilyn proses safoni.
Newidiadau Allweddol
- Yr Ystafell Storio: Ychwanegwyd yr holl eitemau o offer newydd i'r rhestr, crëwyd diagram weledol i ddangos ble roedd yr holl eitemau ac wedi cafod y broses godi ei hamseru. Cafodd proses codi newydd ei chreu a oedd yn symleiddio'r llwybrau yn seiliedig ar gynllun y storfeydd.
- Swyddfa: Cafodd porth hyfforddi ar-lein i sefydlu er mwyn i staff nodi bylchau yn eu gwybodaeth dros gyfnod o 12 wythnos. Mae negeseuon gweledol i atgoffa staff am dasgau bellach wedi cael eu cynnwys yn swyddfeydd a phyrth ar-lein y cwmni. Maen nhw wedi rhoi newid i ddiwylliant y gweithle ar waith drwy hysbysu pob aelod o staff am yr angen i gyfathrebu a gweithio gyda'i gilydd fel tîm.
- Storio ffeiliau: Wedi datblygu system storio ffeiliau newydd sy'n creu ffolderi unigryw sy'n gysylltiedig â chwsmeriaid, y math o offer a rhifau fflyd.
Canlyniadau
- Yr Ystafell Storio: Gwastraffu amser wedi cael ei leihau’n sylweddol, gan gynnwys yn y broses dewis offer, a bwriedir cyflwyno'r system hon fel yr arfer safonol ar gyfer yr holl offer presennol ac offer newydd.
- Swyddfa: Wedi gwella cyfathrebu a hyfforddiant, wedi symleiddio tasgau'r swyddfa ac wedi lleihau dryswch wrth ddyrannu tasgau.
- Storio ffeiliau: Mae'r system storio ffeiliau newydd wedi arwain at leihau gwastraffu amser wrth chwilio am ddogfennau, ac mae wedi lleihau dileu dryswch wrth leoli / cadw dogfennau.
Mae Rototherm Group yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu datrysiadau offer manwl yn gynaliadwy ar gyfer llif, lefel, tymheredd a gwasgedd, sy'n galluogi cwsmeriaid i wella eu prosesau mewn ffordd gywir a dibynadwy. Mae’n gweithio mewn diwydiannau ardystiedig a beichus iawn, gan gynnwys ynni, amddiffyn, diodydd, dŵr a deunydd fferyllol.
Gwefan: www.Rototherm.co.uk
Amcanion Prosiect Lean Start
- Gwella'r broses ar gyfer gosod targedau, gan gynnwys cywirdeb a chyflawnadwyedd.
- Lleihau nifer y diffygion drwy ddileu malurion sy'n cael eu dal yn ystod y broses ddrilio.
- Lleihau nifer y cwynion gan gwsmeriaid.
- Cyflwyno adegau sicrhau ansawdd yn ystod y broses weithgynhyrchu.
Newidiadau Allweddol
- Wedi gosod gorsaf lanhau i sicrhau bod yr holl malurion a gwastraff yn cael eu tynnu ar ôl drilio.
- Cafodd dogfennau Gemba eu rhoi ar waith ar brosesau i nodi a chofnodi eitemau sy'n ymwneud ag ansawdd.
- Wedi defnyddio newid dei mor fuan ag y bo modd i nodi problemau o ran amseroedd cynhyrchu.
- Wedi defnyddio dulliau datrys problemau ymarferol i nodi gwraidd y broblem gyda chynhyrchion eraill. Mae hyn wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu mesurau unioni sydd wedi dileu'r problemau hyn.
Canlyniadau
- Mae Rototherm wedi gweld wedi gweld peiriannau segur yn gostwng 17.7%. Mae hyn, ynghyd â gweithgareddau eraill a gynhaliwyd yn ystod Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota, wedi arwain at gynnydd yn y capasiti cynhyrchu cyffredinol o 29.5%.
- Nawr mae cwsmer mwyaf Rototherm am ddyblygu ei archeb. Bydd hyn yn arwain at bryniannau ychwanegol gwerth £30,000 bob mis, ac yn osgoi costau cyfalaf o £250,000 am na fydd angen prynu peiriannau ychwanegol.
- Mae prosesau safonol wedi cael eu creu ar gyfer lawer o agweddau ar eu llinell gynhyrchu. Mae hyn yn arbed amser ac arian, ac yn arwain at lefel uwch o foddhad cwsmeriaid.
Tyfodd Stately-Albion o gwmni o'r enw Premier Caravans, a oedd yn cynhyrchu cartrefi gwyliau, cartrefi symudol a charafanau teithio. Stately-Albion yw'r cyflogwr mwyaf yn ardal Abercarn, ac maen nhw'n ymfalchïo yn eu gweithlu lleol ffyddlon, ymroddedig, gydag ymdeimlad gwirioneddol leol.
Gwefan: www.stately-albion.co.uk
Amcanion Prosiect Lean Start
- Gwella'r broses safonol ar gyfer gosod teils o fewn Park Homes.
- Aildrefnu storfeydd a lleihau prynu gormod o deils – ar ôl casglu data gyda hyfforddwyr Canolfan Rheoli Darbodus Toyota, canfu Stately Albion, o 31 o archebion, mai dim ond 16% a oedd wedi archebu'r nifer cywir o deils.
- Yn dilyn y gwelliannau hyn, pennu targed cynhyrchu o 18 o gartrefi Park Homes y mis.
Newidiadau Allweddol
- Wedi newid nifer y camau yn y broses archebu teils.
- Mae'r broses archebu teils wedi cael ei chofnodi a'i safoni; mae pob gosodwr teils bellach yn ymwybodol o'r broses weithredu safonol.
- Cafodd Stately Albion fod eu dyluniad alcof yn peri problemau, gyda'r broses gymhleth ar gyfer torri'r siâp L yn cymryd llawer o amser ac yn creu rhagor o wastraff. Ers cydnabod hyn, penderfynodd Stately Albion ailddylunio'r alcofau. Mae uchder a lled yr alcofau newydd yn dileu'r angen am dorri'r teils amgylchol o gwbl, gan arbed amser a dileu gwastraff.
Canlyniadau
- Mae pob gosodwr teils bellach yn ymwybodol o broses safonol ac yn dilyn y broses honno.
- Mae archebion teils cywir wedi codi o 16% i 80%.
- Mae Stately Albion wedi llwyddo i ragori ar eu targed misol ers rhoi protocolau newydd ar waith. Maen nhw'n credu eu bod yn gallu gwella hyn ymhellach drwy nodi meysydd eraill i'w safoni.
Mae Airflo yn cynhyrchu llinell bysgota o ansawdd uchel, heb PVC a chynhyrchion pysgota eraill ar eu safle ym Mrycheiniog.
Gwefan: www.airflofishing.com
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Atal gwastraff a dileu problemau halogi sy'n codi o broblemau storio pelenni.
- Lleihau faint o gynnyrch gwastraff "sgrap".
- Newid BIF (asiant nwyo) gyda deunydd arnofiol mwy dibynadwy.
- Atal halogi mewn dau ffurf: cymysgu pelenni du a gwyn, gan arwain at gynhyrchu llinell bysgota yn y lliw anghywir; llwch, baw a halogion allanol eraill sy'n difetha'r cynnyrch, gan arwain at wastraff cynhyrchu.
- Safoni'r broses ar gyfer sychu pelenni
Prif Newidiadau
- Mae Airflo wedi ad-drefnu eu hystafell storio, gan ddefnyddio caeadau i flychau pelenni a chyflwyno system labelu gyda lluniau i bob rhesel storio i helpu i nodi'r hyn y dylid ei storio a ble.
- Ychwanegwyd byrddau gwybodaeth at y sychwyr pelenni i nodi beth sy'n cael ei brosesu ar unrhyw adeg benodol ac i gyfathrebu'n glir unrhyw wybodaeth benodol am y broses.
- Mae gwiriadau dyddiol ar oruchwylwyr wedi'u rhoi ar waith i arolygu prosesau safonol newydd.
- Mae BIF wedi cael ei ddisodli gan ddeunydd sy'n seiliedig ar blanhigion.
Canlyniadau
- Trwy safoni eu prosesau, mae Airflo wedi golygu arbedion amser sylweddol gan arwain at arbedion ariannol o dros £300,000 y flwyddyn fesul peiriant.
- Mae'r gostyngiad mewn cynnyrch gwastraff "sgrap" wedi creu arbediad blynyddol ychwanegol o dros £50,000.
- Trwy'r newidiadau a wnaed yn ystod y TLC Dechrau Darbodus, mae Airflo wedi dod o hyd i arbediad cronnus o dros £1,000,000 y flwyddyn ac wedi cyrraedd cyfradd pasio o ran ansawdd o 95% ar gyfer cynhyrchion ar eu llinell gynhyrchu.
- Mae cynhyrchu llinell bysgota newydd heb BIF yn agor cyfleoedd allforio i'r Unol Daleithiau yn y dyfodol, sy'n werth tua £6 miliwn.
Mae Atlantic Service yn gwmni amlwg yn rhyngwladol am weithgynhyrchu llafnau gwydn sy'n para'n hir ac o ansawdd uchel ar gyfer y diwydiannau cigyddiaeth ac arlwyo. Maent yn adnabyddus am weithgynhyrchu llafnau manwl gywir, yn enwedig eu cynnyrch Band Saw.
Gwefan: www.atlantic-service.co.uk
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Creu proses safonol ar gyfer yr amseroedd newid rhwng gweithredwyr.
- Gwella y defnydd o ofod mewn ardal anfon ac yna leihau gwastraff symud gan weithredwyr yn y gofod hwn.
- Gwella rheoli stoc gorchuddion llafnau.
Prif Newidiadau
- Ar ôl cynnal treialon amser rhwng y gweithredwyr profiadol, roedd Atlantic Service yn gallu creu gweithdrefn arfer gorau newydd i'r holl weithredwyr newydd a phrofiadol ei defnyddio wrth symud ymlaen.
- Nodi a diwygio'r aneffeithlonrwydd mewn pentyrru paledi a storio yn eu hardal anfon.
- Defnyddiodd Atlantic Service a thîm TLMC dechneg dadansoddi gwraidd 'Pump Ymholiad' i ddeall pam fod ganddynt yn gyson fwy o stoc gorchuddion llafnau nag oedd ei angen.
- Yn dilyn yr ymarfer 'Pump Ymholiad', mae Atlantic Service wedi buddsoddi mewn offer argraffu er mwyn argraffu eu gorchuddion llafnau eu hunain yn fewnol.
- Er mwyn sicrhau cymhwysedd gweithredwyr mewn proses newydd, mae Atlantic Service wedi cynnal sesiynau hyfforddi i staff cyn eu gweithredu.
Canlyniadau
- Mae amser newid rhwng gweithredwyr wedi gostwng o 24 munud i 14 munud y shifft, gan arwain at oddeutu £40,000 mewn gwerthiant ychwanegol ar draws tri pheiriant. Mae Atlantic Service yn bwriadu defnyddio'r broses hon ar draws 5 peiriant ychwanegol a fyddai'n arwain at arbedion ariannol tebyg.
- Trwy ad-drefnu eu hardal anfon, mae nifer y paledi y gellir eu storio wedi cynyddu o 93 i 184. Mae'r strwythur newydd hwn hefyd wedi arbed dros 2km o wastraff symud ac oddeutu £20,000 mewn amser aelodau staff.
- Bydd argraffu gorchuddion llafnau yn fewnol yn creu arbedion o tua £54,000 mewn costau osgoi bob blwyddyn.
Mae Fitzgerald Rail & Construction Equipment Services Ltd, sydd wedi'i leoli yng Nghwmbrân, De Cymru, yn ddarparwr gwasanaethau arbenigol sefydledig yn y diwydiannau rheilffyrdd ac adeiladu.
Gwefan: www.fitzgeraldplant.co.uk
Amcanion Cychwyn Darbodus
- Gwella ansawdd ôl-gynhyrchu rhai cynhyrchion.
- Gwella prosesau gweinyddol a lleihau'r amser a gymerir i ddod o hyd i lawlyfrau defnyddwyr.
- Sicrhau bod yr holl lawlyfrau defnyddwyr yn cael eu cadw ac yn hygyrch.
- Gwella prosesau mewnbynnu data a lleihau gwallau dynol wrth gasglu data.
Prif Newidiadau
- Mae Fitzgerald Plant Services wedi cyflwyno rhestr wirio safonol i sicrhau bod diffygion yn cael eu hadnabod yn gynharach yn y cynhyrchiad.
- Mae hyfforddiant sy'n benodol i gynnyrch wedi'i greu a'i gyflwyno i bob peiriannydd.
- Mae system ffeilio newydd wedi ei chreu ar y gyriant mewnol, mae hyn wedi cynnwys creu ffolderi cwsmeriaid unigryw a ffolderi ar wahân ar gyfer offer a llawlyfrau defnyddwyr.
- Mae'r holl lawlyfrau defnyddwyr bellach yn cael eu cadw ar y gyriant mewnol ac yn hygyrch i'r holl staff sydd eu hangen.
- I wella casglu data, mae Fitzgerald wedi cyflwyno ffurflen electronig gyda chwymplen o'r meini prawf penodol ar gyfer data arolygu.
Canlyniadau
- Mae adborth gan staff am y broses ffeilio newydd wedi profi bod y system newydd yn haws ei deall ac wedi dangos gostyngiad yn yr amser sy'n cael ei wastraffu. Mae gwelliannau pellach i'r system ffeilio wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol.
- Er bod monitro y broses arolygu newydd yn parhau, dylai lleihau amser ailweithio o ganlyniad arwain at welliannau yn y ddarpariaeth a gostyngiad mewn costau.
- Mae gosod y goddefiannau cywir yn y ffurflen mewnbynnu data arolygu electronig newydd wedi lleihau'n sylweddol y potensial ar gyfer gwallau dynol.
Mae Rototherm Group yn dylunio a gweithgynhyrchu offer manwl cynaliadwy ar gyfer llif, lefel, tymheredd a phwysau, sy'n galluogi eu cwsmeriaid i wella eu prosesau yn gywir ac yn ddibynadwy. Maent yn gweithio mewn diwydiannau a safonau uchel iawn y mae galw mawr amdanynt, gan gynnwys ynni, amddiffyn, diodydd, dŵr a deunydd fferyllol.
Gwefan: www.rototherm.co.uk
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Datblygu gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer gweithgynhyrchu cynnyrch newydd.
- Datblygu dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) ar gyfer cynhyrchu eu cynnyrch newydd.
- Dileu amser sy'n cael ei wastraffu ar hyd y llinell gynhyrchu.
Prif Newidiadau
- Creodd Rototherm newid diwylliannol yn eu gweithle drwy sicrhau fod prosesau Darbodus newydd yn cael eu rhannu â holl aelodau'r tîm.
- Aseswyd y defnydd o'u Hystafell Raddnodi gan ddefnyddio Diagram Spaghetti i olrhain symudiadau gweithredwyr.
- Defnyddiwyd canlyniadau'r Diagram Spaghetti i newid trefniad yr Ystafell Raddnodi i leihau symudiadau ac amser yn cael ei wastraffu.
- Mae Rototherm wedi creu system gyfathrebu newydd gan ddefnyddio goleuadau i hysbysu aelodau'r tîm pan fydd eu hangen mewn gwahanol barthau cynhyrchu.
- Mae data wedi ei gasglu ar eu system weithredu newydd i ddiffinio DPAau newydd.
- Mae Rototherm bellach yn cynnal cyfarfodydd briffio dyddiol ar y safle er mwyn sicrhau cyfathrebu da ar draws timau.
Canlyniadau
- Roedd Rototherm yn gallu cynyddu eu danfoniadau ar amser o 42% i 92%.
- Mae Rototherm wedi lleihau cynnyrch diffygiol 50%, mae hyn wedi lleihau cwynion cwsmeriaid yn sylweddol i bron i ddim.
- Mae'r gostyngiad yn nifer y staff sy'n gorfod symud ac felly'n gwastraffu amser yn yr Ystafell Raddnodi wedi arwain at fwy o gynnyrch ar gael i'w pacio. Mae hyn yn golygu bod cynnydd mewn gwerthiant yn bosibl.
Mae Chester Medical Solutions (Glannau Dyfrdwy) yn gwmni argraffu pecynnu fferyllol. Sefydlwyd y cwmni ym 1965 ac mae'n dal i fod yn eiddo i'r teulu. Roeddent yn cyflogi 170 aelod staff ar draws dau safle. Mae eu safle yng Nglannau Dyfrdwy yn cynhyrchu cartonau wedi'u plygu a'u hargraffu a thaflenni gwybodaeth i gleifion ar gyfer dyfeisiau fferyllol/meddygol / gofal iechyd a diwydiannau cysylltiedig.
Gwefan: www.chestermedical.com
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Casglu data ar wastraff cynhyrchu a nodi pryderon allweddol.
- Lleihau deunydd gwastraff 40% i darged y cwmni o 28%.
- Cyflwyno Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) i holl aelodau'r tîm eu dilyn.
Prif Newidiadau
- Roedd casglu data yn caniatáu i gwmni Chester Medical Solutions nodi pedwar math gwahanol o wastraff cynhyrchu a'u prif bryder oedd gor-gynhyrchu cynnyrch.
- Crëwyd SOPs ar gyfer gweithdrefnau newydd gyda chymorth tîm TLMC.
- Anogwyd newid diwylliant yn y gweithle drwy hyfforddiant staff ym mhob SOPs newydd.
Canlyniadau
- Mae'r tîm yn Chester Medical Solutions wedi gallu lleihau deunydd gwastraff 66%.
- Mae hyn wedi creu arbedion o tua £45,255 y flwyddyn.
- Mae aelodau'r tîm i gyd wedi eu cynnwys mewn newid diwylliannol cadarnhaol yn eu gweithle.
Wedi'i sefydlu ym 1984, mae Continental Diamond Tool Ltd (CDT) yn arbenigo mewn cynhyrchu offer trin cylchu diemwnt manwl. Defnyddir yr offer yn helaeth mewn diwydiannau fel Awyrofod, moduro a chreu pŵer.
Gwefan: www.cdtltd.com
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Gwella delweddu llif y broses.
- Lleihau diffyg twf y cynnyrch.
- Lleihau amseroedd arwain o fewn y broses a gwastraffu amser yn aros am waith.
- Casglu data i nodi effeithiau prosesau gweithio gwell.
Prif Newidiadau
- Gweithiodd CDT gyda Thîm TLMC i gasglu data a fyddai'n eu helpu i ddeall y rheswm dros yr amser arwain proses estynedig a nodi meysydd problemus yn y broses.
- Canfuwyd achos craidd diffyg twf y cynnyrch o fewn y broses yn yr Ardal Fowldio.
- Roeddent yn gallu gweithredu'r gwelliannau oedd eu hangen i leihau symud gwastraff o amgylch yr amrywiol feysydd cynhyrchu, gan symud offer yn agosach at yr ardaloedd perthnasol.
- Maent wedi buddsoddi mewn offer newydd i warchod rhag methiant trychinebus fel y bo'n briodol.
Canlyniadau
- Amcangyfrifir bod arbedion mewn costau llafur oherwydd gwelliannau yn y broses gynhyrchu oddeutu £5040 y flwyddyn.
- Trwy nodi'r problemau prosesu yn yr Ardal Fowldio, mae CDT wedi gallu cynyddu capasiti cyffredinol yn yr Ardal Fowldio, gan arwain at £96,000 ychwanegol y flwyddyn.
- Yn dilyn llwyddiant eu Dechrau Darbodus cyntaf, mae CDT wedi cofrestru ar gyfer eu hail gwrs Dechrau Darbodus, gan anfon 3 cydweithiwr newydd i gwblhau prosiect gyda'r Tîm TLMC.
Heidelberg Materials UK (Hanson UK gynt) yw prif gyflenwr deunyddiau adeiladu trwm carbon isel i'r diwydiant adeiladu. Maent yn un o'r gwneuthurwyr deunyddiau adeiladu mwyaf yn y byd, arweinydd y farchnad fyd-eang mewn agregau.
Mae'n cyflogi 40 aelod tîm, mae Chwarel Craig yr Hesg, yn Ne Cymru yn safle cynhyrchu cerrig caled. Mae wedi bod yn weithredol ers 1871 ac yn cynhyrchu 400kt o gerrig bob blwyddyn.
Gwefan: www.heidelbergmaterials.co.uk
Amcanion Prosiect Cychwyn Darbodus
- Deall prif achosion problemau bod safleoedd ar gael, h.y., rhesymau dros broblemau gydag amser segur.
- Nodi'r hyn oedd yn achosi rhwystrau yng nghafnau llithro y chwarel.
- Roedd safle Heidelberg yn rhedeg ar gyfartaledd treigl o 85%, 10% yn is na'r targed gan achosi tua £412,500 mewn enillion coll y flwyddyn. Ceisiodd Heidelberg gyrraedd eu targedau.
Prif Newidiadau
- Roedd Heidelberg yn gallu casglu data a oedd yn caniatáu iddynt nodi bod llwch yn cronni yn achosi'r rhwystrau a'r amser segur dilynol. Roeddent hefyd yn gallu nodi'r camau nesaf a'r risgiau o ddatrys y mater.
- Cymerodd Heidelberg eu hyfforddiant Darbodus yn uniongyrchol i'r gweithredwyr sy'n ymwneud â meysydd problemus i gael eu barn a'u hawgrymiadau ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
Canlyniadau
- Mae ymgysylltu'n uniongyrchol â gweithredwyr mewn meysydd problemus wedi dechrau newid pwysig yn niwylliant y gweithle, gan annog addysg Ddarbodus a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) i gael eu cyflwyno i'r holl staff.
- Drwy addysgu gyda Dechrau Darbodus, maent wedi nodi'r problemau allweddol sy'n achosi llai o amser segur yn chwarel Craig yr Hesg.
- Maent wedi gosod targedau SMART i fynd i'r afael â'r materion hyn.
- Mae hwn yn brosiect parhaus ac mae disgwyl canlyniadau yn Ch1, 2024, yn dilyn casglu a dadansoddi data pellach.
Ar eu safle yn Aberhonddu, mae Airflo yn cynhyrchu llinynnau pysgota ac offer pysgota eraill o ansawdd uchel heb ddefnyddio PVC. Dyma’r unig gwmni yn y byd sy’n defnyddio Polyẅrethan (PU) ar gyfer llinynnau pysgota yn hytrach na PVC. Mae hyn yn creu cynnyrch ysgafn sy’n para’n hirach.
Gwefan
www.airflofishing.com
Amcanion y Prosiect Dechrau Darbodus
- Gwella’r gwaith rheoli ansawdd.
- Lleihau faint o sgrap sy’n cael ei gynhyrchu, gan ddefnyddio’r dull datrys problemau’n ymarferol er mwyn deall beth sy’n achosi’r broblem.
- Cynnal prosesau casglu data rheolaidd gan weithredwyr.
Newidiadau Allweddol
- Cynlluniwyd i roi sawl gwrthfesur ar waith dros gyfnod o dri mis.
- Sefydlwyd Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) a chawsant eu rhoi ar waith yn ystod y cam rheoli ansawdd.
- Crëwyd siart hyblygrwydd cynhyrchu i ddeall lle mae angen hyfforddiant ar gydweithwyr. Roedd hyn yn arbennig o ddefnyddiol pan oedd staff yn brin.
- Ar ôl cynnal ymarfer Datrys Problemau’n Ymarferol, canfuwyd rhai problemau felly penderfynodd Airflo brynu peiriannau newydd.
Canlyniadau
- Ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen, mae nifer y llinynnau pysgota diffygiol wedi lleihau’n sylweddol.
- Ar ôl gorffen y rhaglen Dechrau Darbodus, mae Airflo yn bwriadu parhau i roi gwrthfesurau llwyddiannus ar waith gan arwain at ostyngiad parhaus disgwyliedig mewn cynnyrch sy’n cael ei sgrapio.
- Bydd y newidiadau a wnaethpwyd yn ystod y rhaglen Dechrau Darbodus yn arwain at lai o ddeunyddiau a llai o amser staff yn mynd yn wastraff, gan arwain yn y pen draw at arbedion cyffredinol sylweddol mewn costau i Airflo.
- Bydd hyn hefyd yn galluogi Airflo i gynhyrchu a gwerthu mwy o gynnyrch bob blwyddyn.
Mae Atlantic Service yn gwmni o fri rhyngwladol sy’n adnabyddus am gynhyrchu llafnau cyllyll gwydn, hirhoedlog ac o ansawdd uchel ar gyfer y diwydiannau cigyddiaeth ac arlwyo. Maent yn adnabyddus am weithgynhyrchu llafnau manwl a chain, yn enwedig eu cynnyrch cylchlif.
Gwefan: www.atlantic-service.co.uk
Amcanion y Prosiectau Dechrau Darbodus
- Ar gyfer eu trydydd prosiect Dechrau Darbodus, roedd Atlantic Service am geisio mynd i'r afael â chwynion cwsmeriaid a phryderon ynghylch rheoli ansawdd.
- Gan ddefnyddio’r dull datrys problemau’n ymarferol, ceisiodd Atlantic Service fynd at wraidd y broblem hon.
Newidiadau Allweddol
- Canfu Atlantic Service nad oedd cofnodion yn cael eu cadw i olrhain tymheredd y tanc olew na’r gwaith glanhau yn y tanc. Bellach, maent wedi llunio proses lanhau safonol a llyfr log i gyd-fynd â’r broses i olrhain y gwaith glanhau a darparu sylfaen ar gyfer hyfforddi staff.
- Hefyd, roedd Atlantic Services wedi cyflwyno Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) ar gyfer defnyddio’r peiriannau a’r broses ar gyfer cyfnewid deunyddiau.
- Roedd y gweithredwyr wedi bod yn rhan o’r prosiect o’r dechrau i’r diwedd er mwyn sicrhau bod y tîm yn teimlo perchnogaeth dros y prosiect.
- Mae Atlantic Service wedi cynhyrchu deunyddiau gweledol ar lawr y siop gyda’r nod o beidio â cholli amser yn chwilio am offer a deunyddiau coll.
- Mae yna drefn safonol ar waith bellach ar gyfer hidlo olew halogedig er mwyn lleihau diffygion mewn olew sy’n cael ei ailddefnyddio.
Canlyniadau
- Mae pob gweithiwr newydd bellach yn cael hyfforddiant safonol sy’n cyd-fynd â’r SOPs a gyflwynwyd fel rhan o’r rhaglen Dechrau Darbodus.
- Bydd y prosesau newydd ar gyfer hidlo a glanhau olew yn arwain at arbedion o tua £45,000 y flwyddyn.
- Bydd y broses hon yn cael ei chyflwyno mewn o leiaf 5 peiriant ychwanegol, a gallai hyn arwain at ragor o arbedion.
- Mae Atlantic Services wedi rhannu’r gwersi a ddysgwyd gyda’i ffatri ym Mecsico, gan arwain at welliannau yn rhyngwladol.
Mae Rototherm Group yn dylunio a chynhyrchu offer manwl yn gynaliadwy ar gyfer datrysiadau yn ymwneud â llif, lefel, tymheredd a gwasgedd, sy’n galluogi eu cwsmeriaid i wella eu prosesau a’u gwneud yn fwy cywir a dibynadwy. Mae’n gweithio mewn diwydiannau ardystiedig a beichus iawn, gan gynnwys ym maes ynni, amddiffyn, diodydd, dŵr a deunydd fferyllol.
Gwefan
www.Rototherm.co.uk
Amcanion y Prosiect Dechrau Darbodus
- Ar gyfer eu pedwerydd prosiect Dechrau Darbodus, roedd Rototherm am ganolbwyntio ar wneud gwelliannau yn eu hadran Casin Synwyryddion Gwres. Mae’r adran yn cynhyrchu casinau synwyryddion gwres sy’n amddiffyn offer mesur tymheredd.
- Roedd Rototherm yn ymwybodol bod yna ormod o ddiffygion yn yr adran hon. Nod y prosiect hwn felly oedd canfod ar ba gam yr oedd y diffygion hyn yn codi a rhoi gwrthfesurau ar waith i atal hyn.
Newidiadau Allweddol
- Gosodwyd manylebau newydd ar beiriannau i sicrhau eu bod yn cynhyrchu casinau o faint safonol.
- Mae cydweithwyr yn yr Adran wedi diweddaru eu rhestr wirio ar gyfer cynhyrchu i sicrhau eu bod yn cyflawni bob cam o’r broses ac nad oes unrhyw beth yn cael ei anwybyddu.
- Ar ôl llunio canllawiau safonol ysgrifenedig, mae Rototherm nawr yn bwriadu creu fideo a fydd yn egluro’r safon i’r holl staff newydd sy’n derbyn hyfforddiant.
Canlyniadau
- Mae 3% yn llai o gynnyrch sgrap yn yr adran Casin Synwyryddion Gwres.
- Mae Rototherm wedi gallu lleihau cost offer fesul uned o £4.83 i 0.58c, gan arbed dros £4 yr uned.
Mae Rototherm Group yn dylunio a chynhyrchu offer manwl yn gynaliadwy ar gyfer datrysiadau yn ymwneud â llif, lefel, tymheredd a gwasgedd, sy’n galluogi eu cwsmeriaid i wella eu prosesau a’u gwneud yn fwy cywir a dibynadwy. Mae’n gweithio mewn diwydiannau ardystiedig a beichus iawn, gan gynnwys ynni, amddiffyn, diodydd, dŵr a deunydd fferyllol.
Gwefan
www.Rototherm.co.uk
Amcanion y Prosiect Dechrau Darbodus
- Ar gyfer eu pumed Prosiect Dechrau Darbodus, penderfynodd Rototherm ganolbwyntio ar brosesau Prynu a Logisteg.
- Nod Rototherm oedd gwella llif yr wybodaeth rhwng yr adrannau caffael a chyfrifyddu.
- Roeddent hefyd eisiau lleihau amser trosglwyddo deunyddiau o fewn y ffatri drwy adnabod unrhyw dagfeydd yn ystod y broses.
Newidiadau Allweddol
Gwnaethpwyd newidiadau mewn 2 faes, yn yr adran gaffael ac ar lawr y ffatri.
Caffael:
- Creodd Rototherm ffurflen gais i werthwyr newydd a oedd yn fwy cryno na fersiynau blaenorol.
- Rhoddwyd sylw i eitemau oedd yn cael eu harchebu dro ar ôl tro a chrëwyd Cyfeirnodau Mewnol i gyd-fynd â’r eitemau, er mwyn symleiddio’r broses ail-archebu.
- Hyfforddwyd aelod newydd o'r tîm i brosesu'r holl eitemau traul gan ddefnyddio KANBAN, sef dull gweledol i olrhain cynhyrchiant, er mwyn gwella effeithlonrwydd.
- Roedd Rototherm hefyd wedi mireinio eu system godio fel bod staff caffael yn gallu cael gafael ar y codau perthnasol yn haws, gan arbed amser a lleihau camgymeriadau.
Ar Lawr y Ffatri:
- Fe wnaeth Rototherm ddylunio cynllun newydd ar gyfer eu man storio.
- Gwnaeth Rototherm hefyd ddylunio a phrynu 3 Cherbyd dan Reolaeth Awtomatig (AGVs) i ail-lenwi biniau KANBAN. Rhagwelwyd y byddai’n gweld enillion ar y buddsoddiad mewn 2 fis.
- Mae Rototherm wedi creu dangosfwrdd digidol ‘Diwrnod-Fesul-Awr’ sy’n galluogi pob gweithiwr ar lawr y ffatri i weld y targedau ar gyfer y diwrnod.
- Ar ôl gosod y dangosfwrdd digidol yn yr ardal dan sylw, roedd gweithwyr Rototherm ar lawr y ffatri yn gallu rhannu’r arferion gorau a ddysgwyd gyda rhannau eraill o’r busnes.
Canlyniadau
- Roedd y prosiect Dechrau Darbodus wedi arbed cyfanswm o 722 o oriau gwaith.
- Mae Rototherm yn disgwyl gweld arbedion mewn costau gorbenion blynyddol sy’n cyfateb i £21,600.
- Dywedodd aelodau’r tîm yn yr adran gaffael eu bod yn hapusach gyda diwylliant y gweithle yn gyffredinol ac yn teimlo bod modd rheoli eu llwyth gwaith yn well erbyn hyn.
- Mae Rototherm wedi llwyddo i leihau materion iechyd a diogelwch o ganlyniad i’r cynllun newydd yn y man storio.
- Mae Rototherm wedi cynyddu eu gofod storio 24%.
Sefydlwyd Continental Diamond Tool Ltd (CDT) ym 1984 ac mae’r cwmni’n arbenigo mewn cynhyrchu offer llifanu diemwnt cylchdro manwl. Caiff yr offer hyn eu defnyddio’n eang mewn diwydiannau awyrofod, moduro a chynhyrchu pŵer.
Gwefan: www.cdtltd.com
Mae Continental Diamond Tool Ltd (CDT) yn rhagori mewn cynhyrchu offer manwl iawn ar gyfer offer llifanu diemwnt cylchdro, gan wasanaethu’r diwydiannau awyrofod, moduro a chynhyrchu pŵer. Sefydlwyd CDT ym 1984 fel Consort Precision Diamond Co Ltd, ac mae wedi profi llwyddiannau a thwf sylweddol. Mae CDT yn ymfalchïo yn ei weithlu ymroddedig sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd. Ar hyn o bryd, mae’n cyflogi 40 o weithwyr proffesiynol medrus ac mae’r cwmni’n mynd o nerth i nerth.
Amcanion y Prosiect Dechrau Darbodus
- Lleihau gwastraff yn ystod y broses osod.
- Gwella llif prosesau ar gyfer gwneud y cydrannau craidd a’r bylchwyr.
- Lleihau ‘symudiadau di-angen’ yn y broses platio gwrthdro.
- Rhoi sylw i bryderon iechyd a diogelwch a godwyd gan aelodau’r tîm sy’n cario mowldiau trwm i lawr grisiau.
- Symleiddio’r gwaith glanhau yn ystod y broses blatio.
Newidiadau Allweddol
- Creodd CDT safonau clir ar gyfer amrywiol brosesau.
- Llwyddodd CDT i ddileu ‘symudiadau diangen’ rhwng adrannau.
- Creodd CDT gymhorthion gweledol ar gyfer pob proses, gan wella llif y broses a’r cyfathrebu rhwng y goruchwylwyr ac aelodau'r tîm.
- Bellach, mae’r holl fowldiau’n cael eu storio i lawr y grisiau, gan leihau’r risg iechyd a diogelwch i aelodau’r tîm.
Canlyniadau
- Drwy leihau'r 'symudiadau diangen' yn yr Adran Osod, mae CDT wedi gallu cwblhau’r dasg hon 43.8% yn gynt.
- Mae'r CDT hefyd wedi gallu gwneud arbedion amser sylweddol o dros 200 awr (y flwyddyn) yn yr Adran Blatio.
- Mae hyn wedi creu’r posibilrwydd o allu gwneud gwerth £147,000 yn rhagor o waith prosesu yn yr Adran Blatio bob blwyddyn.
- Mae cyflwyno safonau newydd wedi caniatáu i’r gwaith fod yn rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol.
- Mae CDT wedi lleihau gwastraff ac, yn ei dro, wedi creu amgylchedd gweithio mwy diogel a glanach ar gyfer aelodau'r tîm.
Heidelberg materials UK (Hanson UK gynt) yw prif gyflenwr deunyddiau adeiladu trwm, carbon isel, i’r diwydiant adeiladu. Maent yn un o’r gweithgynhyrchwyr deunyddiau adeiladu mwyaf yn y byd yn arwain y farchnad fyd-eang mewn agregau.
Mae Chwarel Craig yr Hesg yn y de yn cyflogi 40 aelod tîm ac mae’n safle sy’n cynhyrchu cerrig caled. Mae’r chwarel wedi bod yn weithredol ers 1871 ac mae’n cynhyrchu 400kt o gerrig bob blwyddyn.
Gwefan: www.heidelbergmaterials.co.uk
Amcanion y Prosiect Dechrau Darbodus
- Ar gyfer eu hail brosiect Dechrau Darbodus, penderfynodd Heidelberg Materials ganolbwyntio ar leihau rhwystrau ym mhroses y prif beiriant malu yn Chwarel Craig yr Hesg.
- Y nod oedd cael 20% yn llai o rwystrau drwy ddefnyddio’r dull Datrys Problemau’n Ymarferol a fyddai’n golygu arbed 2 awr 25 munud o amser.
Newidiadau Allweddol
- Drwy ddefnyddio’r dull Datrys Problemau’n Ymarferol, canfu Heidelberg Materials fod 33% o’r rhwystrau a gofnodwyd yn digwydd yn y prif beiriant malu. Canfuwyd mai’r rhesymau am hyn oedd materion tymhorol, dulliau casglu data anghyson, gorlenwi’r peiriannau malu, a diffygion gyda thorri’r deunydd crai i lawr yn ystod y broses ffrwydro oherwydd anghysondebau yn nyluniad y broses honno.
- Ar ôl i Heidelberg Materials adnabod y problemau hyn, aethant ymlaen i ddatblygu a chyflwyno Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) ar gyfer dyluniad y broses ffrwydro i leihau anghysondebau o ran maint y cerrig.
- Mae Heidelberg hefyd wedi datblygu a gweithredu system ar gyfer monitro’r ffrwydradau ac wedi creu system cynnal a chadw ar gyfer yr offer monitro.
Canlyniadau
- Canlyniad disgwyliedig y prosiect Dechrau Darbodus a gynhaliwyd yn chwarel Craig yr Hesg yw bydd yna ostyngiad mewn rhwystrau a gwelliannau mewn effeithlonrwydd gan arwain at arbedion cost amcangyfrifedig o £104,000 y flwyddyn.
Heidelberg materials UK (Hanson UK gynt) yw prif gyflenwr deunyddiau adeiladu trwm, carbon isel, i’r diwydiant adeiladu. Maent yn un o’r gweithgynhyrchwyr deunyddiau adeiladu mwyaf yn y byd yn arwain y farchnad fyd-eang mewn agregau.
Mae chwarel calchfaen Penderyn Heidelberg Materials wedi’i lleoli wyth milltir i’r gogledd o Aberdâr. Gall y chwarel gynhyrchu 500 k tunnell o galchfaen y flwyddyn a chyflenwi cynnyrch i fusnesau asffalt a choncrit mewnol.
Gwefan: www.heidelbergmaterials.co.uk
Amcanion y Prosiect Dechrau Darbodus
- Mae methu’r targedau gwaith yn costio £54,000 y flwyddyn i Heidelberg Materials. Felly, gan ddefnyddio’r dull Datrys Problemau’n Ymarferol, nod Chwarel Penderyn oedd gwella effeithlonrwydd llwythi’r tryciau dadlwytho.
- Mae’r tryciau dadlwytho yn y chwarel yn gallu cludo 40 tunnell ar y tro, ond ar gyfartaledd dim ond 32 tunnell roedd tryciau Heidelberg yn eu cludo. Ar gyfer y prosiect Dechrau Darbodus hwn, nod Heidelberg Materials oedd cynyddu'r cyfartaledd hwn.
Newidiadau Allweddol
- Defnyddiodd Heidelberg Materials ddiagram esgyrn pysgod i ddeall achos yr aneffeithlonrwydd a’r effaith roedd hyn yn ei chael ar y broses gyfan.
- Rhoddodd Heidelberg Materials wrthfesurau ar waith a oedd yn canolbwyntio ar wella cywirdeb a gwelededd data am lwythi. Lluniwyd proses graddnodi a chafodd ei hintegreiddio i’r drefn waith safonol. Roedd casglu data’n rheolaidd yn sail i’r drefn hon gan adolygu’r data wedyn mewn cyfarfodydd dyddiol. Roedd creu safonau wedi eu helpu i hyfforddi’r tîm cyfan.
Canlyniadau
- Drwy eu prosiect Dechrau Darbodus, mae Chwarel Penderyn wedi gwella’r broses o drosglwyddo llwythi, gwastraffu llai o ddeunyddiau ac arbed tua £54,000 y flwyddyn.
- O ganlyniad i’r gwrthfesurau a roddwyd ar waith, mae Heidelberg Materials wedi cynyddu llwythi cyfartalog eu tryciau i 38.3 tunnell o 32 tunnell.
- Mae hyn wedi golygu bod 10 taith yn llai bob dydd rhwng y chwarel a’r peiriannau malu.
Mae Faun Trackway ltd. yn arweinydd byd-eang mewn dylunio, gweithgynhyrchu a chyflenwi matiau adferadwy ar gyfer sefydlogi tir. Mae peirianwyr milwrol mewn dros 40 o wledydd yn dibynnu ar eu cynnyrch bob dydd ar gyfer gweithrediadau ar y tir, y môr ac yn yr awyr. Mae’r cyfleusterau gosod a chwistrellu yn eu ffatri yn Llangefni, Ynys Môn, ar hyn o bryd yn cyflogi tua 20 aelod tîm.
Gwefan
www. faunttrackway.co.uk/global-network
Amcanion y Prosiect Dechrau Darbodus
- Nod Faun Trackway oedd lleihau’r gwastraff a gynhyrchir a gwella diogelwch gweithwyr drwy awtomeiddio a safoni.
- Yn ystod eu prosiect Dechrau Darbodus, canfu Faun Trackway broblem o ran rheoli ansawdd eu cynnyrch a’r nod oedd datrys hyn.
Newidiadau Allweddol
- Sefydlwyd Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) a chawsant eu rhoi ar waith drwy gydol y broses.
- Defnyddiodd Faun Trackway ddiagramau sbageti i nodi ‘symudiadau di-angen’ a meysydd gwastraff eraill.
- Mae Faun Trackway wedi dechrau casglu data’n rheolaidd ac yn systematig er mwyn deall llinell sylfaen eu cyfradd gynhyrchu. Caiff y data hyn ei ddefnyddio i greu Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer cynhyrchu ac effeithlonrwydd.
Canlyniadau
- Gwaith damcaniaethol sydd wedi’i gyflawni hyd yma, gan nad yw’r gwaith cynhyrchu ar eu cynnyrch penodol i fod i ddechrau tan fis Mai 2024. Fodd bynnag, pan fydd popeth yn barod, disgwylir y bydd y gwrthfesurau a’r arferion newydd hyn yn arwain at weithio’n fwy effeithlon ac yn creu amgylchedd mwy diogel i staff.
Mae Magstim® yn gyflenwr blaenllaw o ysgogwyr a phecynnau Ysgogi Magnetig Trawsgreuanol (Transcranial Magnetic Stimulation) a ddefnyddir ar gyfer therapi TMS Magstim® ac ymchwil niwromodyliad.
Mae’r rhan fwyaf o ymchwil TMS a gyhoeddwyd wedi defnyddio ysgogwyr Magstim®. Mae cynhyrchion Magstim® yn darparu'r hyblygrwydd a'r galluoedd angenrheidiol ar gyfer ystod eang o waith ymchwil.
Gwefan
www.magstim.com
Amcanion y Prosiect Dechrau Darbodus
- Er mwyn cynyddu allbwn, gosododd Magstim darged o gynhyrchu 5 uned y dydd ar gyfartaledd. Eu cyfartaledd presennol oedd 2.8 uned.
- Llai o oedi yn y broses weithgynhyrchu a lleihau’r amser sy’n cael ei wastraffu yn ystod y broses.
Newidiadau Allweddol
- Gan ddefnyddio diagram esgyrn pysgod, llwyddodd Magstim i nodi naw rhwystr yn eu proses. Canfuwyd mai yn eu cyfleuster storio oedd yr oedi mwyaf.
- Creodd Magstim gynllun llawr newydd a fyddai’n helpu i gynnal trosolwg ac yn arbed amser.
- Ar ôl datblygu’r gwrthfesurau, roedd Magstim wedi monitro’r canlyniadau’n ofalus a chreu Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) i holl aelodau’r tîm eu dilyn.
Canlyniadau
- Ers rhoi’r gwrthfesurau ar waith, llwyddwyd i gynhyrchu 5 neu fwy uned y dydd ar gyfartaledd.
Mae Magstim® yn gyflenwr blaenllaw o ysgogwyr a phecynnau Ysgogi Magnetig Trawsgreuanol (Transcranial Magnetic Stimulation) a ddefnyddir ar gyfer therapi TMS Magstim® ac ymchwil niwromodyliad.
Mae’r rhan fwyaf o ymchwil TMS a gyhoeddwyd wedi defnyddio ysgogwyr Magstim® . Mae cynhyrchion Magstim® yn darparu'r hyblygrwydd a'r galluoedd angenrheidiol ar gyfer ystod eang o waith ymchwil.
Gwefan
www.magstim.com
Amcanion y Prosiect Dechrau Darbodus
- Ar gyfer eu hail brosiect Dechrau Darbodus, nod Magstim oedd gwella effeithlonrwydd eu prosesau Sicrhau Ansawdd.
- I gyflawni hyn, roedd Magstim am weld 15% o ostyngiad yn yr amser a gymerir i brofi cynnyrch.
Newidiadau Allweddol
- Gan ddefnyddio gweithgaredd Cynllunio, Gwneud, Gwirio, Gweithredu, llwyddodd Magstim i greu cynllun ystafell newydd yn seiliedig ar ba offer fyddai ei angen ar bob cam.
- Ers gweithio gyda hyfforddwyr TLMC, mae Magstim wedi dechrau casglu data’n gyson i greu llinell sylfaen a fydd yn sail i Ddangosyddion Perfformiad Allweddol i’r dyfodol.
- Mae Magstim wedi creu Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) y gall aelodau’r tîm eu dilyn a’u hatgynhyrchu yn rhwydd.
Canlyniadau
- Hyd yma, mae Magstim wedi cyflawni 11-14% o ostyngiad yn yr amser profi cynnyrch.
- Dywedodd aelodau’r tîm eu bod wedi dysgu llawer yn ystod eu prosiect Dechrau Darbodus, yn benodol o ran Datrys Problemau’n Ymarferol, rheoli amser, casglu a defnyddio data’r cwmni, a monitro effeithiolrwydd y newidiadau a wneir. Mae deall y gwersi allweddol hyn yn gam cyntaf tuag at newid diwylliannol sylweddol yn y gweithle.
Mae Magstim® yn gyflenwr blaenllaw o ysgogwyr a phecynnau Ysgogi Magnetig Trawsgreuanol (Transcranial Magnetic Stimulation) a ddefnyddir ar gyfer therapi TMS Magstim® ac ymchwil niwromodyliad.
Mae’r rhan fwyaf o ymchwil TMS a gyhoeddwyd wedi defnyddio ysgogwyr Magstim® . Mae cynhyrchion Magstim® yn darparu'r hyblygrwydd a'r galluoedd angenrheidiol ar gyfer ystod eang o waith ymchwil.
Gwefan
www.magstim.com
Amcanion y Prosiect Dechrau Darbodus
- Gwella’r gwaith o reoli ansawdd y cynnyrch, lleihau difrod i’r Byrddau Cylchedau Printiedig (PCBs) a difrod cosmetig i’r cynnyrch.
- Gwella boddhad cwsmeriaid yn sgil hynny.
Newidiadau Allweddol
- Defnyddiodd Magstim ddiagram esgyrn pysgod a gweithgaredd ‘Pump Rheswm Pam’ Toyota i ddeall yr hyn sy’n achosi difrod i’r PCBs.
- Wedyn, roeddent yn gallu creu gweithdrefnau codi a chario safonol i’r holl staff eu dilyn.
- Creodd Magstim flychau storio pwrpasol ar gyfer y PCBs i leihau’r risg o ddifrod wrth storio.
- Rhoddodd Magstim bwyslais ar hyfforddiant i aelodau’r tîm ar gasglu data a chadw cofnodion.
Canlyniadau
- Mae’r rhagolygon yn dangos gostyngiad o 66% mewn diffygion a difrod i gynnyrch, sy’n cyfateb i gynnydd o 84 uned heb ddifrod ac arbediad o £30,000 a mwy.
- Roedd Magstim hefyd wedi gwella eu system cofnodi data.
Mae Ledwood yn gwmni peirianneg, cydosod ac adeiladu sy’n gweithio ar brosiectau cymhleth ar draws y diwydiannau olew, nwy, proses ac ynni. Maent yn arbenigo mewn prosiectau ar raddfa fawr yn y diwydiannau olew, petrogemegol, niwclear, ynni adnewyddadwy a phŵer ar y tir ac ar y môr.
Gwefan
www.ledwood.co.uk
Amcanion y Prosiect Dechrau Darbodus
- Canfu Ledwood fod 15 awr ar gyfartaledd yn cael ei golli bob wythnos oherwydd symudiadau di-angen rhwng y cyfleusterau storio, felly’r nod oedd ceisio lleihau hyn.
Newidiadau Allweddol
- Nodwyd y deg eitem a ddefnyddiwyd fwyaf a symudodd Ledwood yr eitemau hyn i leihau’r amser a wastreffir.
Canlyniadau
- Llwyddodd Ledwood i dorri traean o’r amser a wastreffir drwy symud lleoliad y 10 eitem a ddefnyddiwyd fwyaf.
- Mae hyn yn cyfateb i arbediad o £6000 y flwyddyn.
- Ar ôl cwblhau’r prosiect Dechrau Darbodus, mae Ledwood yn bwriadu parhau â’u taith Darbodus drwy symud lleoliad rhagor o eitemau a ddefnyddir yn aml yn ogystal â gweithredu KANBAN, sef dull gweledol o olrhain cynhyrchiant, i archebu deunyddiau traul yn y cyfleusterau storio mewn da bryd.
Also in this section
Am fwy o wybodaeth am egwyddorion darbodus a Dull Toyota