BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Tudalen Adnoddau Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota

Yn gyffredinol, mae Toyota yn cael ei ganmol fel ffynhonnell syniadaeth Ddarbodus a syniadaeth Ddarbodus ym myd busnes. Pan aeth Dan Jones a Jim Womack ati i geisio deall pam roedd Toyota yn gwneud yr hyn roedden nhw'n ei wneud a pham roedden nhw mor dda yn ei wneud - fe wnaethon nhw fathu'r ymadrodd “Darbodus” (“Lean”). Fe wnaethon nhw nodi mai System Gynhyrchu Toyota - TPS oedd y sylfaen ar gyfer llwyddiant Toyota.  

Heddiw mae llawer o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r byd wedi datblygu eu fersiynau “eu hunain” o Ddarbodus a'u “Systemau Cynhyrchu” eu hunain. Mae llawer o debygrwydd a gwahaniaethau rhwng y gwahanol Systemau Cynhyrchu, ond mae Toyota wrth wraidd yr hyn sy'n gweithio, yn fyd-eang. Elfen allweddol o lwyddiant Toyota yw System Gynhyrchu Toyota, ond mae bob amser yn gysylltiedig â Dull Toyota... Holi “Pam” droeon sy'n ysgogi aelodau tîm Toyota i chwilio bob amser am ffyrdd o wella.

Y sylfaen o fewn Toyota yw bod angen i bawb weithio i ddeall Dull Toyota a System Gynhyrchu Toyota... mae gan bawb gyfrifoldeb i ddatblygu eu dealltwriaeth eu hunain. Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth eich hun, fel y gallwch ddefnyddio’r egwyddorion sylfaenol o fewn eich sefyllfa eich hun. Mae llwyddiant yn dibynnu'n fawr arnoch chi'n cymryd yr amser ac yn gwneud yr ymdrech i amsugno, datblygu a defnyddio'r syniadaeth sylfaenol i wella eich busnes eich hun. Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i wneud hynny, i ddatblygu eich dealltwriaeth o’r offer a’r technegau, ac yn ateb eich cwestiynau ynghylch sut a pham y gallwch eu rhoi ar waith ar gyfer eich busnes, gyda'ch pobl!

Yr Athro Richard Keegan 

Athro Cyswllt Atodol 
Rhagoriaeth Weithredol Ddarbodus
Ysgol Fusnes y Drindod
Coleg y Drindod Dulyn

 

Adnoddau

Ers 2009, mae Canolfan Rheoli Darbodus Toyota, Glannau Dyfrdwy, wedi bod yn hyfforddi cwmnïau ar Ddull Toyota a System Gynhyrchu Toyota. I gael rhagor o wybodaeth am Hyfforddiant Darbodus yng Nglannau Dyfrdwy, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://tlmc.toyotauk.com/

I gael rhagor o wybodaeth am System Gynhyrchu Toyota sy’n fyd-enwog, cliciwch ar y ddolen i wefan Toyota Global: 
http://www.toyota-global.com/company/vision_philosophy/toyota_productio…

Toyota mewn iaith bob dydd (2021) gan Richard Keegan

Darparwyd y deunydd hwn yn garedig gan yr Athro Keegan yn arbennig ar gyfer Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota. Fe’i cyflwynir mewn ffordd sy’n esbonio sut a pham y mae Toyota’n gweithio a pham eu bod yn gwneud hynny. Cyflwynir geiriau a chysyniadau allweddol yn ffordd ‘Toyota’ ac yna cânt eu hesbonio mewn iaith arferol. Cafodd ei lunio i roi dealltwriaeth sylfaenol i chi o Pam a Sut y mae Toyota’n gweithredu, sut maen nhw’n datblygu eu hunain yn barhaus er mwyn gallu gweithredu. Nid set o ddulliau gweithredu yw’r deunydd, bydd y rheini’n cael eu darparu gan Ganolfan Rheoli Darbodus Toyota fel rhan o Raglen Clystyrau Darbodus Toyota - Llywodraeth Cymru.

Defnyddiwch y ddolen ganlynol ar gyfer Toyota… Mewn Iaith Bob Dydd Toyota… Mewn Iaith Bob Dydd (gov.wales)

 

This is Lean – Resolving the efficiency paradox (2012) by Niklas Modig

'Darbodus yw athroniaeth reoli fwyaf cyffredin ein hoes ac mae'n bresennol ym mhob diwydiant ar hyn o bryd, ond mae'r cysyniad yn dal i gael ei ddiffinio'n amwys ac yn cael ei gamddeall yn eang'.

Mae'r llyfr hwn wedi cynnig mwy o eglurhad o ran hanfodion syniadaeth ddarbodus ac wedi chwyldroi dealltwriaeth prif weithredwyr a gweithwyr ynglŷn ag ystyr go iawn ‘darbodus’. Mae'r awduron yn garedig iawn wedi caniatáu i Lywodraeth Cymru rannu penodau 5 a 6 o'u llyfr, a fydd, gobeithio, o fudd i'r rhai sy'n ymwneud â Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota.

Atomic Habits (2018) by James Clear 

Mae'r bennod gyntaf hon yn cyfeirio at y system rydym yn ei hadnabod fel enillion ymylol.  Mae'r awdur yn edrych ar yr effaith a gafodd Syr David Brailsford (siaradwr Cymraeg) ar dimau Beicio Prydain a Sky.  Mae'n edrych ar sut y gall gwelliannau parhaus, bach (1%), at ei gilydd, sicrhau enillion trawsnewidiol drwy'r cysyniad o adlog.  

 

DigitaLean: The Road to Transformation (2021) gan Richard Keegan, Heiko Gierhardt a Stefan Schmidt. 
Mae pennod gyntaf yr e-lyfr hwn, a ddarparwyd drwy garedigwydd yr Athro Richard Keegan, yn cyflwyno cysyniadau fel 'The Big Why' a'r 'Five Rings of Digital Transformation'. Gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd Trawsnewid Digidol, nod Keegan yw dangos, drwy ddefnyddio egwyddorion digidol a darbodus i ddatrys problemau busnes, y gall eich sefydliad drawsnewid yn llwyddiannus. 

Basic LEAN Tools: Practical Steps to Build Competitiveness gan Richard Keegan 

Mae'r llyfryn hwn yn disgrifio hanfodion bod yn Ddarbodus i'ch helpu ar eich taith i fod ymhlith y goreuon yn y byd o ran bod yn gystadleuol. Mae'n amlinellu'r camau cyntaf ar y daith at fod yn Ddarbodus ac yn eich cyfeirio at rannau nesaf y daith honno. NI fwriedir iddo roi dealltwriaeth ddofn ichi o System Cynhyrchu Toyota nac o'r offer y bydd Canolfan Rheoli Darbodus Toyota yn eu rhannu gyda chi. Y bwriad yw rhoi cipolwg ichi ar yr hyn y maent yn ceisio'i rannu a’r hyn y maent yn ceisio'i ddysgu ichi, wedi’u cyflwyno mewn ffordd syml. 
 
Astudiaethau Achos

Mae’r holl lwyddiannau a gafwyd drwy Raglen Clystyrau Darbodus Toyota i’w gweld ar ein tudalen Asudiaethau Achos.

Clystyrau Darbous Toyota, Dechrau Darboddus 1 – Hydref 2021

Dechreuodd ein Dechrau Darbodus cyntaf ym mis Hydref 2021 a gwelwyd 5 cwmni o Gymru drwy eu taith Ddarbodus tan fis Mai 2022. Mae ein cwmnïau cychwynnol: Raytheon Technologies UK, Hanson Cement Padeswood, Fitzgerald Plant Services Ltd, SO Modular Ltd a GTS Flexible Materials wedi bod yn ddigon caredig i rannu eu llwyddiannau a'r effaith y mae Rhaglen TLC wedi'i chael ar eu prosiectau, eu cydweithwyr, a'u dyletswyddau o ddydd i ddydd. Mae'r holl wybodaeth yma wedi ei gofnodi ac mae i'w weld yn llyfryn Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota, Llywodraeth Cymru yma.

I weld Astudiaethau Achos am Reoli Darbodus, dilynwch y ddolen hon Enterprise Ireland (enterprise-ireland.com) at wefan Menter Iwerddon: 

Bydd Astudiaethau Achos gan sefydliadau o Gymru ar gael yma wrth i'r rhaglen fynd rhagddi.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.