BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Gwasanaeth Busnes Cymru - Hysbysiad Preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru. Mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut y byddwn yn defnyddio eich data personol ac mae hefyd yn nodi eich hawliau. Gwneir yr hysbysiad hwn o dan Erthyglau 13 a/neu 14 o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).

Gofynnwn ichi roi munud neu ddwy o’ch amser i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd.

1. Pam rydym yn casglu’r data a’i brosesu

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol rydych chi’n ei roi wrth gael gafael ar gymorth Busnes Cymru.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw adran 6(1)(e) o Ddeddf Diogelu Data 2018. Mae’r gwaith prosesu hwn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ein tasg gyhoeddus i’ch adnabod a rhoi’r wybodaeth a’r cyngor busnes mwyaf priodol.

Byddwn yn prosesu’r data personol a’r data busnes a ganlyn:

  • enw
  • cyfeiriad
  • manylion cyswllt
  • gwybodaeth am eich busnes (megis cynlluniau busnes, mantolenni busnes neu lif arian)

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth ddemograffig sy’n ein helpu i fonitro ac adrodd ar nifer yr unigolion a’r mentrau sy’n cymryd rhan mewn prosiectau. Mae hyn hefyd yn ein helpu i dargedu’r grwpiau demograffig cywir ar gyfer cymorth Busnes.

Gall methu â rhoi’r wybodaeth hon inni eich eithrio rhag defnyddio’r gwasanaeth.

Mae’r wybodaeth hon hefyd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gynnal gwaith cyllido, cynllunio a monitro prosiectau a llunio cyhoeddiadau ystadegol.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich manylion busnes ar gyfer gweithgareddau marchnata Busnes Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data heb eich caniatâd at y diben penodol hwn.

Nodwch mai dim ond sampl o unigolion a/neu fentrau y bydd sefydliadau ymchwil/gwerthuswyr yn cysylltu â nhw. Os cysylltir â chi i gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil/gwerthusiad ynghylch eich profiad ar y prosiect, bydd diben y cyfweliad neu arolwg yn cael ei esbonio ichi a chewch yr opsiwn i gytuno i gymryd rhan neu beidio. Dim ond ar gyfer ymchwil gymeradwy y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio a bydd y manylion hynny yn cael eu dileu pan fydd yr ymchwil gymeradwy hon wedi’i chwblhau.

2. Pwy fydd yn cael gweld eich data?

Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw ar System TG ddiogel Llywodraeth Cymru. Caiff yr wybodaeth ei chasglu a’i rhannu gyda’r sefydliadau a ganlyn at y dibenion a restrwyd yn flaenorol:

  • Ein contractwyr Busnes Cymru sy’n darparu’r gwasanaeth ichi
  • Sefydliadau ymchwil cymdeithasol cymeradwy i gynnal gwaith ymchwil, dadansoddi neu fonitro cyfleoedd cyfartal y gwasanaeth
  • Timau gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru a’i gweinyddwyr systemau technegol sy’n cefnogi’r system TG. Ni fydd gweinyddwyr technegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw fodd

  • Swyddfa Archwilio Cymru a’r rheini sy’n gweithredu ar ei rhan, neu archwilwyr priodol eraill o Wasanaethau Busnes Cymru

3. Am ba mor hir rydym yn cadw’r data?

At ddibenion archwilio, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data personol am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i’r prosiect ddod i ben. Wedi hynny, bydd y data yn cael ei ddinistrio mewn modd diogel.

4. Beth yw eich hawliau? 

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau a ganlyn:

  • yr hawl i gael gafael ar y data personol amdanoch chi sydd gan Lywodraeth Cymru;
  • yr hawl i ofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hwnnw;
  • yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol);
  • yr hawl i ofyn bod eich data yn cael ei ddileu (o dan amgylchiadau penodol);
  • yr hawl i wneud cwyn a’i gyflwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

 Wycliffe House
 Water Lane
 Wilmslow
 Cheshire
 SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: https://cy.ico.org.uk/

Os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw rai o’r hawliau uchod, ffoniwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen Cysylltwch â Ni hon:Cysylltwch â ni | Busnes Cymru (gov.wales) 

5. Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai aelod o’r cyhoedd ofyn am gael gweld yr wybodaeth a roddir gennych chi a hynny yn rhan o gais rhyddid gwybodaeth. Byddem yn cysylltu â chi i geisio’ch barn cyn ymateb i gais o’r fath.

6. Newidiadau i’r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu rhoi yma ac yn dod i rym yn syth. Pan fydd y polisi hwn yn cael ei newid, byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio’r e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn ichi allu gweld y fersiwn newydd.

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth:

Cyfeiriad:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.