Croeso i Busnes Cymru. Mae’r ddogfen hon yn esbonio’r safonau gwasanaeth cwsmeriaid y gallwch eu disgwyl gennym ni a sut y byddwn yn darparu’r gwasanaethau hyn i chi. Mae hefyd yn esbonio’r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gennych chi i sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd yn effeithiol er mwyn cynyddu effeithiau y cyngor a’r wybodaeth a gewch chi i’r eithaf.
Ein Cenhadaeth
Nod Busnes Cymru yw rhoi’r cymorth angenrheidiol i chi allu dechrau busnes newydd yng Nghymru neu eich helpu i ddatblygu eich busnes presennol.
Rydym yn croesawu cleientiaid newydd o bob diwylliant a chefndir, a chanddynt anghenion amrywiol. Rydym yn gyson yn datblygu’r modd yr ydym yn darparu’r gwasanaeth i sicrhau ein bod yn gallu bodloni anghenion cleientiaid amrywiol.
Ein nod yw darparu gweithdai a digwyddiadau i chi sy’n hygyrch, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Byddant yn rhyngweithiol, yn gyfredol ac yn llawn gwybodaeth a bydd ein cynghorwyr busnes yn rhoi cyngor ac arweiniad cefnogol i chi. Byddant yn gwrando ar eich gofynion ac yn eich helpu i lunio cynllun gweithredu i’ch galluogi i gyflawni eich amcanion.
Beth yw ein safonau lefel gwasanaeth?
Ein nod yw darparu cymorth a chefnogaeth i chi er mwyn eich helpu i ddechrau eich busnes a byddwn yn gwneud ein gorau glas i fodloni eich disgwyliadau a rhagori arnynt.
Ein gwasanaeth i chi
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i drin cleientiaid yn deg, yn ddidwyll a chyda pharch bob amser ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cynhwysol.
Ein nod yw darparu’r gwasanaeth gorau y gallwn ac i gysylltu â chleientiaid mewn modd prydlon, proffesiynol, cwrtais a theg.
I wneud hyn byddwn yn:
- Gwrando ar eich anghenion busnes
- Datblygu cynllun i’ch helpu i ymdrin â’r meysydd lle y mae angen cymorth arnoch
- Eich helpu a’ch cynorthwyo, a’ch galluogi i gymryd perchnogaeth ar eich gwaith
- Sicrhau cyfrinachedd a pharchu eich preifatrwydd drwy beidio â thrafod manylion eich prosiect ag unrhyw drydydd parti oni bai eich bod wedi cytuno y cawn wneud hynny, a thrin gwybodaeth sydd gennym yn unol â’r ddeddf diogelu data
- Darparu’r gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ac ieithoedd eraill pan fo hynny’n briodol
- Sicrhau bod ein gweithdai’n berthnasol, yn ddefnyddiol a’u bod yn cael eu darparu mewn lleoliadau lleol sy’n rhwydd eu cyrraedd
- Sicrhau bod ein holl ddeunydd darllen a deunydd hyfforddiant ar ffurf eglur gan ddarparu fformatau ac adnoddau eraill pryd bynnag y bo hynny’n bosibl i fodloni anghenion cleientiaid
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
Rydym yn disgwyl y byddwch chithau hefyd yn trin ein staff ni â’r un cwrteisi, parch a thegwch. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad annerbyniol megis aflonyddu, bygythiadau neu ymosodiadau a byddai hynny’n arwain at eich atal rhag defnyddio’r gwasanaeth.
Rydym yn awyddus i’n cleientiaid gael y gorau o’r rhaglen ac rydym yn disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad drwy:
- Fynychu gweithdai a chyfarfodydd yn brydlon a rhoi gwybod i ni ymlaen llaw os na allwch fod yno
- Gofyn cwestiynau
- Cymryd cyfrifoldeb a pheidio dibynnu ar y Cynghorydd i wneud y gwaith ar eich rhan
- Bod yn rhagweithiol wrth gysylltu â’r cynghorydd os ydych o’r farn nad yw’n gweithio ar y cyflymder yr ydych yn ei ddisgwyl neu os oes gennych unrhyw bryderon eraill
- Ein cynorthwyo ni drwy roi sylwadau gonest ac agored pan fyddwn yn gofyn i chi lenwi holiaduron ynglŷn â’r gwasanaethau yr ydych wedi eu derbyn
- Darparu’r dogfennau angenrheidiol i allu bwrw ymlaen â’r cymorth ac i ddangos tystiolaeth o ganlyniadau’r cymorth yr ydych wedi ei dderbyn gan wasanaeth Busnes Cymru
- Ymateb yn barchus ac yn brydlon i geisiadau am ragor o wybodaeth naill ai wyneb yn wyneb neu drwy e-bost.
Os yw pethau’n mynd o chwith……
Mae’r rhan fwyaf o’n cleientiaid yn cael profiad hynod o gadarnhaol gyda gwasanaeth Busnes Cymru. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd gall pethau fynd o chwith ac efallai y byddwch yn dymuno cwyno. Mae safonau ein gwasanaeth cwsmeriaid yn bwysig iawn i ni ac rydym yn croesawu sylwadau ac awgrymiadau gennych.
Beth yw eich hawliau?
Os nad ydych yn hapus â’r gwasanaeth neu’r cyngor a gawsoch, mae gennych yr hawl i gwyno, cael ymchwiliad i’ch cwyn, a chael ymateb llawn a phrydlon.
Mae gan ein Contractwyr (sy’n darparu gwasanaeth Busnes Cymru ar ein rhan) eu proses gwynion eu hunain. Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon â’r canlyniad, cysylltwch â Llywodraeth Cymru ar 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Gallwch gysylltu â ni ar-lein hefyd https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni neu gallwch ysgrifennu at Gwasanaeth Busnes Cymru, C3 Blaen, Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, LL31 9RZ.
Efallai y byddwch yn dymuno nodi sylwadau cadarnhaol ynglŷn â’r gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn. Mae’r sylwadau hyn yr un mor bwysig i ni gan eu bod yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau yn briodol.
Busnes Cymru – Hysbysiad Preifatrwydd
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR y DU) rydym wedi datblygu Hysbysiad Preifatrwydd sy’n cwmpasu pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth.
Yn ystod y broses gofrestru, gwnaethoch gadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno ar amodau ein hysbysiadau preifatrwydd.
Diolch i chi am ddewis Busnes Cymru.
Dymunwn bob llwyddiant i chi yn eich prosiectau yn y dyfodol.