Cynnwys
1. Crynodeb
Mae trawsnewid eich syniad yn gynnyrch a gweld popeth yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf fel prototeip yn rhan gyffrous o’r broses o ddatblygu cynnyrch newydd. Mae’r canllaw hwn yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw cydymffurfio, dylunio a gweithgynhyrchu yn y broses hon.
2. Beth yw Cydymffurfio, Dylunio a Gweithgynhyrchu
Mae trawsnewid eich syniad yn gynnyrch a’i weld yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf fel prototeip yn rhan gyffrous o’r broses o ddatblygu cynnyrch newydd. Mae hwn hefyd yn gallu bod y cam drytaf o gael cynnyrch i'r farchnad. Mae cydymffurfio, dylunio a gweithgynhyrchu’n allweddol er mwyn sicrhau canlyniad cadarn, cost-effeithiol a llwyddiannus.
Yn gyntaf oll, mae’n hollbwysig bod eich cynnyrch yn cydymffurfio â deddfwriaethau a safonau perthnasol y diwydiant.
Yn ail, mae dyluniad eich cynnyrch yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod y cynnyrch yn ddiogel ac yn “addas i’r diben”.
Ac yn olaf, dylai’r dyluniad olygu bod y cynnyrch mor syml a chost-effeithiol â phosib i’w weithgynhyrchu.
Mae cydymffurfio, dylunio a gweithgynhyrchu'n gweithio ochr yn ochr â’i gilydd.
Nid yn unig pan fyddwch chi’n datblygu cynnyrch newydd - dylech chi daro golwg ar brosesau cydymffurfio, dylunio a gweithgynhyrchu drwy gydol oes cynnyrch, yn arbennig pan fydd y cynnyrch yn cael ei wella, ei ail-frandio ac ati.
Hyd yn oed os nad ydych chi’n ystyried newid cynnyrch, mae'n dal i fod yn bwysig cofio am y broses gydymffurfio oherwydd gall unrhyw newid mewn rheoliadau olygu bod yn rhaid newid label cynnyrch.