BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd

Hawliau Dylunio

Mae diogelu dyluniad yn diogelu sut olwg sydd ar gynnyrch neu ran o gynnyrch, yn hytrach na'i swyddogaeth dechnegol. Mae’r adran hwn yn edrych ar y gwahanol ddulliau o ddiogelu dyluniad ac yn tynnu sylw at beth ddylech chi feddwl amdano.

 

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 June 2014
Diweddarwyd diwethaf:
14 September 2023

Cynnwys

1. Crynodeb

Mae diogelu dyluniad yn diogelu sut olwg sydd ar gynnyrch neu ran o gynnyrch, yn hytrach na'i swyddogaeth dechnegol. Mae’r adran hwn yn edrych ar y gwahanol ddulliau o ddiogelu dyluniad ac yn tynnu sylw at beth ddylech chi feddwl amdano.

 

2. Hawliau Dylunio

Mae diogelu dyluniad yn diogelu sut olwg sydd ar gynnyrch neu ran o gynnyrch, yn hytrach na'i swyddogaeth dechnegol.

Mae modd i Hawliau Dylunio fod yn rhai cofrestredig neu heb eu cofrestru.

Defnyddiwch y templed hawliau dylunio hwn (MS Word 12kb) i ystyried y posibiliadau ar gyfer diogelu hawliau dylunio eich busnes. 

 

3. Dyluniadau Cofrestredig

Yn y DU, mae modd diogelu dyluniad ar lefel genedlaethol – drwy ei gofrestru yn Swyddfa Eiddo Deallusol y DU (UKIPO) – neu ledled yr Undeb Ewropeaidd (gan gynnwys y DU) - drwy ei gofrestru yn Swyddfa Cysoni’r Farchnad Fewnol (OHIM).

Mae Dyluniad Cofrestredig y DU / UE yn rhoi hawliau neilltuol i chi ar ddyluniad am uchafswm o 25 mlynedd (yn cael ei adnewyddu bob pum mlynedd).

Mae gwledydd eraill hyd a lled y byd yn cynnig hawliau tebyg.

Y gofynion ar gyfer cofrestru dyluniad

Er mwyn gallu cofrestru dyluniad, rhaid iddo fod yn:

  • newydd – heb ei ddatgelu yn unman yn y byd cyn y dyddiad cyflwyno (er bod cyfnod o 12 mis ar ôl y dyddiad cyflwyno yn Ewrop – “cyfnod o ras”)
  • o Natur Unigryw – mae’r argraff gyffredinol ar "ddefnyddiwr gwybodus" yn wahanol i ddyluniadau blaenorol adnabyddus

Gellir cofrestru cydrannau cynnyrch yn annibynnol. Er enghraifft, gellir cofrestru dyluniad sosban a'i choes o dan ddau ddyluniad cofrestredig gwahanol, os yw’r ddau ddyluniad yn newydd ac yn unigryw o ran cymeriad. Yna, gellid defnyddio’r goes ar gyfer rhywbeth arall, er enghraifft, ar badell ffrio.

Er mwyn gallu diogelu cydran cynnyrch cymhleth (fel car), rhaid i’r gydran fod yn “weladwy pan fydd yn cael ei ddefnyddio’n arferol”.

Os yw eich busnes yn ymwneud â dylunio, dylech ystyried diogelu dyluniadau cofrestredig. Mynnwch gyngor proffesiynol.

Mae rhagor o wybodaeth am ddyluniadau cofrestredig ar gael:

Peiriannau Chwilio am Ddyluniadau Cofrestredig

Yn yr un modd ag ar gyfer patentau, mae peiriannau chwilio am ddyluniadau cofrestredig ar gael am ddim, lle gallwch weld pa ddyluniadau sydd wedi cael eu cofrestru’n barod.

Mae tudalen chwilio am ddyluniad yn y DU ar gael ar wefan y Swyddfa Eiddo DeallusolGallwch chwilio am ddyluniad yn ôl perchennog neu gynnyrch yma.

Gellir chwilio am ddyluniad ar gyfer Ewrop gyfan ar beiriant chwilio Swyddfa Gysoni'r Farchnad Fewnol ar eu gwefanMae hwn yn offeryn pwerus sy’n caniatáu i chi chwilio am ddyluniadau a nodau masnach yr Undeb Ewropeaidd ar yr un pryd.

Gall chwilio am ddyluniad fod yn fwy cymhleth na chwilio am batent, ac mae help ar gael ar-lein.

Ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol

Mae’r gymdeithas fasnach, A©ID – Anti Copying in Design, yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol, sy’n nodi sut mae diogelu’ch dyluniadau: 

Mae ACID yn gymdeithas yn y DU, ac mae ei haelodau’n ddylunwyr ac yn wneuthurwyr tecstilau, gemyddion, gwneuthurwyr dodrefn, dylunwyr anrhegion, penseiri, dylunwyr ffasiwn, cynhyrchwyr ategolion i’r tŷ, ac ati.

Mae’n bosib bod cymdeithasau eraill sy’n fwy priodol i’ch math chi o fusnes.

4. Dyluniadau Heb eu Cofrestru

Yn ogystal â dyluniadau cofrestredig, mae dyluniadau heb eu cofrestru’n cael eu diogelu’n awtomatig o dan Hawliau Dylunio Heb eu Cofrestru yn y DU ac Ewrop. Mae’r hawliau hyn yn bodoli ochr yn ochr. Mae hyn yn caniatáu i chi atal unrhyw un rhag copïo’ch dyluniad.

Mae Hawl Dylunio Heb ei Gofrestru yn y DU (UDR) yn para am un ai 10 mlynedd ar ôl marchnata’r erthyglau sy’n defnyddio’r dyluniad am y tro cyntaf neu 15 mlynedd ar ôl creu’r dyluniad, pa un bynnag sydd gyntaf.

Mae Hawl Dylunio Heb ei Gofrestru yn Ewrop, neu Hawl Dylunio Cymunedol, yn para am 3 blynedd o’r amser pan gafodd y dyluniad ei wneud yn gyhoeddus. Yn wahanol i UDR y DU, mae’r hawl Ewropeaidd hefyd yn cynnwys addurniad ar wyneb eich dyluniad.

Mae hawliau dylunio heb eu cofrestru’n hynod werthfawr i ddiwydiannau sy’n symud yn gyflym, fel y diwydiant tecstilau neu ffasiwn, lle nad yw’n ymarferol cofrestru pob dyluniad sy’n cael ei greu.

Diogelwch eich dyluniadau sydd heb eu cofrestru drwy gadw cofnodion manwl. Cadwch y dogfennau gwreiddiol, copïau o brototeipiau, ac ati, wedi’u llofnodi a’u dyddio gan y sawl sydd wedi’u creu yn ddelfrydol, a gorau oll os byddan nhw wedi’u cydlofnodi hefyd.

Yn y llys, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi brofi bod modd dibynnu ar eich dyddiadau, felly gall dangos bod gennych system dda fod yn hanfodol. Hyd yn oed gyda system dda, gall fod yn hynod anodd (a drud) profi bod rhywun wedi copïo’ch gwaith mewn gwirionedd.

Ar gyfer dyluniad pwysig, mae cofrestru’n diogelu’n llawer gwell.

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.