BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Sut mae'r Fforwm yn gweithredu?

Fforwm Adeiladu Cymru: “Ailgodi Cymru’n Gryfach” Gweld llwyth gwaith y dyfodol yn glir 

Sut mae'r Fforwm yn gweithredu?

Mae gan y Fforwm gynrychiolaeth o'r sectorau cyhoeddus a phreifat ac mae'n cynnwys Gweinidogion Llywodraeth Cymru, cleientiaid adeiladu'r sector cyhoeddus, cyrff diwydiant gan gynnwys ffederasiynau, sefydliadau proffesiynol a busnesau unigol a chynrychiolydd TUC Cymru i ddarparu cyswllt â chynrychiolaeth ehangach o'r gweithlu.  

Strwythur Sefydliadol
Mae'r ddelwedd ganlynol yn nodi sut y cefnogir y Fforwm (gwelwch isod).

Gweithgorau
Cefnogir y Fforwm gan 3 gweithgor sy'n cynnwys is-sectorau'r diwydiant: Seilwaith, Adeiladau, Tai

Grwpiau Gorchwyl a Gorffen
Mae'r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen canlynol wedi'u sefydlu i ddatblygu blaenoriaethau penodol: Datgarboneiddio Seilwaith, Datgarboneiddio Adeiladau, Caffael a Thalu. 

Grwpiau Rhanddeiliaid y Diwydiant
Mae Grŵp Rhanddeiliaid y Diwydiant, a hwylusir gan Adeiladu Arbenigrwydd Cymru, yn agored i holl randdeiliaid y diwydiant ac mae'n ceisio nodi'r prif faterion sy'n ymwneud â pherfformiad y diwydiant drwy drafodaeth agored. Yna caiff blaenoriaethau allweddol eu cyflwyno i'r Fforwm a'r Gweithgorau i ddatblygu atebion.

Os hoffech fynychu cyfarfodydd y Grŵp, cysylltwch â Cat Griffith-Williams catherine.griffith-williams@cewales.org.uk  





Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.