BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Y Canllaw Arferion Da – Cefnogi entrepreneuriaid anabl yng Nghymru

Mae'r canllaw yma wedi cael ei ddatblygu gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol i sefydliadau cymorth busnes ac i gynghorwyr am y ffordd orau o ymgysylltu â phobl anabl sy'n dechrau, yn cynnal, neu yn datblygu eu busnes yng Nghymru, a'u cefnogi. Er bod llawer o bobl yn gweld dechrau eu busnes eu hunain yn heriol, mae pobl anabl yn aml yn nodi heriau neu rwystrau ychwanegol. Ystyried heriau o'r fath yw prif ffocws y canllaw hwn.  Cynhaliodd Anabledd Cymru gyfres o gyfweliadau un-i-un a hwyluso trafodaethau grŵp gyda pherchnogion busnes anabl er mwyn helpu i greu'r canllaw. Daeth saith prif thema i'r amlwg o'r trafodaethau hyn sy'n cael eu harchwilio ymhellach o fewn y canllaw ac yna cyfres o awgrymiadau ymarferol i helpu sefydliadau a chynghorwyr i gefnogi busnesau. Y themâu yw:

  • Cyngor a Gwybodaeth Busnes. - Mae hyn yn edrych ar hygyrchedd, cynwysoldeb a didueddrwydd, gan sicrhau bod gan entrepreneuriaid anabl yr un cymorth o ansawdd uchel sydd ar gael iddynt fel entrepreneuriaid fel sydd ar gael i’r rhai nad ydynt yn anabl.
  • Dyheadau - Ffordd o Fyw neu Fusnesau Twf Uchel? - Mae ymchwil yn awgrymu y gallai entrepreneuriaid anabl fod â diffyg hyder neu fod â dyheadau cyfyngedig i ddatblygu'r busnes. Bydd y thema hon yn edrych ar y rhesymau pam a sut y gellir herio'r ystrydebau negyddol hyn. 
  • Mynediad at Gyllid – Gall sicrhau mynediad at gyllid priodol fod yn heriol i unrhyw entrepreneur ond gall entrepreneuriaid anabl wynebu heriau ychwanegol, mae hyn yn edrych ar yr heriau hynny ac yn awgrymu ffyrdd o'u lleddfu.
  • Materion Ariannol Ehangach – mae canolbwyntio yma ar y posibilrwydd o golli budd-daliadau lles y mae entrepreneuriaid anabl yn fwy tebygol o fod yn eu derbyn ac awgrymu ffyrdd o reoli'r ofn hwn.
  • Hyfforddiant a Digwyddiadau – mae hyn yn edrych ar sut y gallai pobl anabl fod yn fwy amharod i fynychu digwyddiadau hyfforddi oherwydd diffyg hyder, pryderon am fynediad neu hyd yn oed ofn sut y gallen nhw gael eu derbyn. Mae'r thema hon yn edrych ar y camau y gellir eu cymryd i greu lle mwy cynhwysol a hygyrch.
  • Mentora a Rhwydweithio – Mae mentora cyfoedion wedi'i nodi fel dull sy'n addas iawn i roi cymorth busnes i bobl anabl. Mae'r thema hon yn edrych ar y manteision dan sylw.
  • Mynediad – Mae bod yn hygyrch yn golygu rhywbeth gwahanol i'r rhai sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd gwahanol. Mae'r thema hon yn cynnig awgrymiadau ymarferol i wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch i ystod eang o bobl anabl.

Mae dolen i'r canllaw llawn i'w weld isod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.