BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Yr Economi Sylfaenol

Mae'r gwasanaethau a'r cynnyrch yn yr economi sylfaenol yn darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sylfaenol mae pob dinesydd yn dibynnu arnynt a'r rhai sy’n ein cadw ni’n ddiogel, yn gadarn ac yn waraidd. Mae gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a manwerthu ar y stryd fawr i gyd yn enghreifftiau o’r economi sylfaenol. Mae'r diwydiannau a'r cwmnïau sydd yno’n bodoli oherwydd bod pobl yno. Mae amcangyfrifon yn awgrymu eu bod yn gyfrifol am un o bob deg swydd ac am £1 o bob tair rydyn ni’n eu gwario. Mewn rhai rhannau o Gymru, yr ‘economi sylfaenol’ hon yw'r economi.

Mae’r Cynllun Gweithredu Economaidd wedi pennu’r cyfeiriad ar gyfer dull mwy eang a chytbwys o ddatblygu’r economi, gan symud tuag at ganolbwyntio ar le a gwneud cymunedau’n gryfach ac yn fwy cadarn. Mae’r Cynllun Gweithredu Economaidd yn rhoi mwy o bwyslais ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac yn awgrymu symud tuag at berthynas ‘rhywbeth am rywbeth’ mewn busnes. Mae hybu twf cynhwysol drwy ganolbwyntio o’r newydd ar yr economi sylfaenol yn cyd-fynd â thri chonglfaen arall ein Contract Economaidd, sef; cefnogi buddsoddiad mewn busnes sy’n diogelu’r economi ar gyfer y dyfodol drwy Alwadau i Weithredu; dull rhanbarthol o fuddsoddi yn y sgiliau mae eu hangen ar bobl i gael gwaith, ei gadw a gwneud cynnydd; a’r seilwaith mae ei angen ar gymunedau er mwyn bod yn gysylltiedig ac yn fywiog.

Mae dull yr economi sylfaenol yn cynnig cyfle i wrthdroi’r dirywiad mewn amodau cyflogaeth, lleihau faint o arian sy’n diflannu o’n cymunedau, a mynd i’r afael ag effaith cadwyni cyflenwi estynedig ar yr amgylchedd.Gyda chysondeb ar draws cyfrifoldebau portffolio, rydyn ni’n ymdrechu i gael gwell synergedd rhwng Tasglu’r Cymoedd a rhaglenni Gwell Swyddi yn Nes at Adref, ac i fanteisio i'r eithaf ar werth cymdeithasol caffael o ran beth allai gael ei ddisgrifio fel ymyriadau economaidd prif ffrwd y Llywodraeth.

Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer y Bwrdd Cynghori Gweinidogol ynghylch yr Economi Sylfaenol wedi cael ei sefydlu i ddarparu cyngor i Weinidogion Cymru am ymyriadau ac arferion gorau nawr ac yn y dyfodol; i gefnogi ymgysylltiad ehangach â rhanddeiliaid yn yr economi sylfaenol; ac i annog cysondeb rhwng mentrau llywodraethol ac anllywodraethol perthnasol. Mae’r grŵp yn cynnwys unigolion sydd â lefel sylweddol o wybodaeth, arbenigedd a phrofiad yn y maes hwn. Rydyn ni’n gweithio ar draws y llywodraeth i ddatblygu cynllun galluogi integredig ar gyfer sectorau’r economi sylfaenol a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Economaidd – gan gyfuno camau gweithredu’r llywodraeth ynghylch cyfleoedd a heriau cyffredin. Rydyn ni eisiau rhoi Cymru’n ôl ar y blaen o ran sylweddoli gwerth cymdeithasol caffael drwy feithrin cadwyni cyflenwi lleol cryf yn sgil gwaith y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r strwythurau sydd wedi’u creu yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cyfle heb ei debyg i wneud cynnydd cyflym a sylweddol.

Bydd y ffordd yr aiff Llywodraeth Cymru ati i gefnogi a datblygu'r economi sylfaenol yn canolbwyntio ar dri maes.

£4.5m Cronfa Her yr Economi Sylfaenol: Bydd y gronfa'n cael ei defnyddio i gefnogi cyfres o brosiectau arbrofol fydd yn ein galluogi gyda help ein partneriaid i brofi'r ffordd orau o gefnogi'r economi sylfaenol a gweld pa ymyriadau gan y Llywodraeth sy'n gweithio orau. Canolbwyntio o'r newydd ar dyfu'r 'canol coll'.

Canolbwyntio o'r newydd ar dyfu'r 'canol coll': Rydym am weld cynnydd yn nifer y cwmnïau yng Nghymru sydd â'u gwreiddiau'n ddwfn yn eu cymunedau a chreu sylfaen gref o gwmnïau canolig eu maint sy'n gallu gwerthu y tu allan i Gymru ond sydd â'u penderfyniadau'n cael eu gwneud yn  eu cymunedau.

Trwy Lledaenu ac ehangu arferion gorau: Mae prif ffrydio’r gwersi sydd wedi deillio o’r arbrofion, a dulliau eraill llwyddiannus o feithrin cyfoeth yn lleol yn gwbl allweddol ar gyfer creu economi sylfaenol. Byddwn yn cychwyn drwy ailsefydlu Cymru fel ffocws ar gyfer gwireddu gwerth cymdeithasol o brosesau caffael, gyda'r gefnogaeth i gadwyni cyflenwi lleol cryf drwy waith y Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae’r strwythurau a gaiff eu creu drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn creu cyfle heb ei ail i wneud cynnydd cyflym a sylweddol.

Mae mwy o wybodaeth am yr Economi Sylfaenol a dull Llywodraeth Cymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cronfa Her yr Economi Sylfaenol

Bydd symud tuag at ddull sylfaenol yn arbrofol ac yn golygu y bydd angen gwneud newid sylweddol o ran y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn gwneud pethau. Nid oes union dempled y gallwn ei ailddefnyddio mewn cymunedau yng Nghymru, ond mae gwersi y gallwn eu dysgu gan eraill heb os. Mae Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yn cefnogi cyfres o brosiectau arbrofol a fydd yn ein galluogi ni, gyda chymorth ein partneriaid, i brofi beth fyddai’r ffordd orau i ni gefnogi’r economi sylfaenol, a pha rai o ymyriadau'r Llywodraeth sy’n gweithio orau. Mae cyllideb y gronfa dros £4.5m erbyn hyn. Mae hyn yn cynnwys £2.4m o gyllideb Tasglu'r Cymoedd, sydd wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau yn ardal Tasglu’r Cymoedd yn benodol. Rydyn ni wedi casglu grŵp o arbenigwyr o amryw o sectorau at ei gilydd i wthio'r agenda yn ei blaen, ac rydyn ni’n trefnu capasiti o fewn Llywodraeth Cymru drwy gysoni’r gwahanol raglenni sydd eisoes yn cynnal gwaith yn y maes hwn, er nad yw’r gwaith yn ei frandio ei hun fel gweithgarwch yr economi sylfaenol.

Prosiectau yn y Gogledd sydd wedi cael cyllid:

Prosiect Cydweithredol yn y Gogledd o dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych - £70,000

Darparu gweithwyr iechyd a gofal ar gyfer cyflogwyr yn y sector preifat, mewn awdurdodau lleol ac mewn byrddau iechyd.

Prosiect Cydweithredol Gofal yn y Gymuned CIC - £97,065

Darparu tîm Iechyd Meddwl a Lles pwrpasol yn fewnol a thîm Cydgysylltu Gofal a fydd yn gweithio gyda chleifion sy'n arbennig o agored i niwed.

Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych - £100,000  

Defnyddio Neuadd y Dref Rhuthun yn hyb ar gyfer y gymuned a busnesau.

Cartrefi Cymunedol Gwynedd Cyf - £80,000

Cyflwyno technolegau clyfar mewn cartrefi i weld a ellir defnyddio data i wneud gofal cartref yn fwy effeithiol ac effeithlon.

Cyngor Sir Wrecsam - £65,000

Ar gyfer prosiect sydd am sicrhau bod busnesau lleol a'r economi leol yn elwa'n uniongyrchol pa fo awdurdodau lleol yn adeiladu tai.

Cyngor Sir Ddinbych - £66,779

Creu fframwaith recriwtio a datblygu pwrpasol ar gyfer gofalwyr.

Cyngor Sir Ddinbych - £90,334

Ar gyfer prosiect peilot i nodi ac i fynd i'r afael ag unigrwydd gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar ffurf robot dynolffurf cydweithredol.

HF Trust - £52,014

Er mwyn darparu asiantaeth cyfeillion a chariadon ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Nod y prosiect yw gwella'r ymwneud cymdeithasol rhwng pobl er mwyn mynd i'r afael ag unigrwydd a gwella lles.

Cyngor Sir y Fflint - £100,000 

Ar gyfer prosiect i ddarparu micro-fentrau gofal i gynnig gwasanaethau gofal yn uniongyrchol.

Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog - £100,000

Helpu busnesau lleol i weithio gyda thair menter gymdeithasol i ddatblygu cynlluniau ym maes twristiaeth gymunedol, ynni adnewyddadwy a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau digidol. Bydd gwasanaeth ymgynghori newydd ar gyfer yr economi sylfaenol yn cael ei sefydlu hefyd.

Môn Shellfish Ltd - £100,000

Ar gyfer prosiect mewn partneriaeth â Choleg Llandrillo Menai a Phartneriaeth Ogwen i edrych ar greu rhagor o farchnadoedd lleol ar gyfer pysgod cregyn drwy ddatblygu cynhyrchion bwyd môr lleol sydd ag oes hir ar y silff. Bydd y prosiect hwn yn cael ei gysylltu â rhaglen addysg i ddysgu'r gymuned leol sut i baratoi ac i goginio bwyd môr lleol.

 

Y prosiectau llwyddiannus ar gyfer Canolbarth a De-orllewin Cymru:

Cyngor Abertawe – £100,000

I gefnogi'r gwaith o greu mentrau cymdeithasol/micro sy'n cysylltu trigolion â sefydliadau gofal sy'n gallu darparu gwasanaeth hyblyg ac ymatebol.

Cyfle Building Skills Ltd – £86,625

Prosiect a fydd yn gweld prentisiaid yn derbyn lleoliadau profiad gwaith gwerthfawr ar draws y diwydiant adeiladu.

Grŵp Pobl – £55,000

I adeiladu system ar-lein ar gyfer preswylwyr tai cymdeithasol i adrodd am broblemau a dod o hyd i grefftwyr lleol i'w trwsio.

Cyngor Sir Caerfyrddin – £100,000

I gynyddu nifer y busnesau bwyd lleol neu ranbarthol sy'n cyflenwi'r sector cyhoeddus yn yr ardal.

Cyngor Sir Penfro – £100,000

I sefydlu asiantaeth ddielw sy'n cyflenwi gweithwyr gofal wrth gefn ar gyfer yr awdurdod lleol a sefydliadau gofal annibynnol, i fynd i'r afael â'r anawsterau o ran recriwtio i weithlu gofal cymdeithasol yr ardal.

Cyngor Abertawe – £26,852

I gynnal prosiect peilot â'r nod o helpu busnesau bach i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i dendro am gontractau.

Gower Gas and Oil – £81,478

I weithio gyda cholegau a phartneriaid yn y gymuned i gynnig cyfleodd ar gyfer lleoliadau gwaith i ddysgwyr, gan dargedu'r rheini sydd yn y bwlch rhwng addysg a chyflogaeth.

Asiantaeth Ynni Severn Wye – £100,000

Bydd yr elusen yn treialu Datblygu Cyfoeth Cymunedol drwy agor contractau sector cyhoeddus i fusnesau lleol yn Llanymddyfri.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 12 prosiect sy'n cael eu cefnogi drwy'r gronfa her economi sylfaenol yn y sector gofal cymdeithasol, sef:

Cyngor Sir Ddinbych - £90,334

Treialu'r potensial o nodi a thaclo unigrwydd drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar ffurf robot cydweithredol dynoid y gellir ei raglennu i ganfod emosiynau ac addasu ei ymddygiad i hwyliau'r bodau dynol o'i amgylch. Bydd awdurdod lleol mewn partneriaeth â Choleg technegol lleol yn cynnal treialon a fydd yn arwain at werthusiad llawn gyda'r nod o'i roi ar waith yn ehangach.

People Plus Cymru - £100,000

Datblygu prosiectiau gwella sgiliau gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol i ddarparu hyfforddiant o safon i staff. 

CVS Castell-nedd Port Talbot (NPTCVS) - £100,000

Cyflwyno model menter gymdeithasol ar gyfer gofal cartref a chymorth gyda gwasanaethau cartref lefel isel. 

The Cadenza partnership - £65,000

Addasu dull ar-lein o ddarparu cofnodion a chyfleoedd presgripsiynu cymdeithasol cyson, hawdd eu defnyddio.

Practice Solutions Ltd - £99,000

Edrych ar ddefnyddio model cydweithredol o recriwtio gofal cymdeithasol, hyfforddiant, tendro, a marchnata. 

Drive - £75,000

Defnyddio ased garddwriaethol cymunedol i gefnogi pobl sydd ag awtistiaeth a darparu hyfforddiant ar gyfer Nyrsys Anableddau Dysgu. 

Cydweithrediad Gogledd Cymru (Cyngor Sir Ddinbych) - £70,000

Datblygu achos busnes ar gyfer creu asiantaeth staffio gydweithredol ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyngor Sir Ddinbych - £80,000

Datblygu fframwaith recriwtio a datblygu ar gyfer gofalwyr.

Cyngor Sir Penfro - £100,000

Sefydlu asiantaeth dielw sy'n cyflenwi gweithwyr gofal wrth gefn.

Cyngor Abertawe - £100,000

Cefnogi'r broses o greu mentrau cydweithredol neu gymdeithasol/micro-fentrau i brynu a darparu gofal a chymorth ym Mhenrhyn Gŵyr ac ardaloedd gwledig eraill yn Abertawe.

Cyngor Sir y Fflint - £100,000

Sefydlu rhaglen beilot a fydd yn rhoi cymorth a strwythurau ar waith i gomisiynu mentrau micro-ofal yn ddiogel ac yn gyfreithlon er mwyn darparu gwasanaethau gofal uniongyrchol.

Cyngor Sir Fynwy - £200,000

I ddatblygu cynllun prentisiaeth yn y sector gofal cymdeithasol

 

Y prosiectau llwyddiannus yn y cymoedd yw:

People Plus Cymru - £100,000

Datblygu prosiectiau gwella sgiliau gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol i ddarparu hyfforddiant o safon i staff.             

Cyngor Caerffili - £100,000

Cynnal prosiect ymchwil i greu rhaglen gwaith a hyfforddiant yn canolbwyntio ar anghenion newydd darparwyr tai cymdeithasol. 

Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf - £47,676

Cyflwyno Prosiect Sgiliau Bywyd yn rhoi gwybodaeth i bobl ifanc mewn ysgolion, colegau a’r brifysgol leol ynghylch hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth. 

United Welsh - £100,000

Sicrhau y posibiliadau gorau ar gyfer pedair cymdeithas dai i helpu i feithrin BBaChau cyfredol a newydd yn y gadwyn gyflenwi leol. 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful - £98,500

I fusnesau newydd ddefnyddio adeiladau masnachol gwag i helpu i fynd i’r afael ag adeiladau gwag ar y stryd fawr. 

Sefydliad Bevan - £99,920

Ar gyfer melin drafod adfywio cymunedol, mewn partneriaeth â TUC Cymru, i helpu i gael mwy o waith teg o fewn busnesau y sector sylfaenol.   

Cyngor Sir Caerffili - £100,000

Cysylltu cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau adeiladu, adfer a chadwraeth gyda diogelu asedau cymunedol diwylliannol, twristiaeth a threftadaeth “mewn perygl”. 

CVS Castell-nedd Port Talbot (NPTCVS) - £100,000

Cyflwyno model menter gymdeithasol ar gyfer gofal cartref a chymorth gyda gwasanaethau cartref lefel isel. 

Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru - £44,246

Sicrhau mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith lleol i bobl ifanc drwy fuddsoddiadau mawr mewn seilwaith.   

Impact Innovation and Growth Services Ltd - £95,000      

Creu rhwydwaith o gynlluniau peilot arloesol i gefnogi busnesau yr Economi Sylfaenol y gellir eu hatgynhyrchu, creu atebion gwerth am arian, bod yn gynaliadwy a chyfrannu at ddysgu ehangach.   

Age Concern Morgannwg - £80,000

Mynd i’r afael â’r bwlch o ran pobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau Meddygon Teulu oherwydd unigedd, teimlo wedi’u hynysu, oherwydd galar, i helpu iddynt fod yn rhan o’u cymuned.  

The Cadenza partnership - £65,000

Addasu dull ar-lein o ddarparu cofnodion a chyfleoedd presgripsiynu cymdeithasol cyson, hawdd eu defnyddio.

Cynghrair Gwirfoddol Torfaen - £95,000

Creu ecosystem prentisiaeth ymhlith busnesau bychain o fewn cymuned y Cymoedd. 

Green Valleys (CIC) WTOW Ltd - £95,000

Edrych ar effaith trosglwyddo tir ar raddfa fawr o fewn y gymuned, yn benodol ar gyfer coedwigaeth a chynhyrchu bwyd, ble y caiff yr elw ei ail-fuddsoddi yn y gymuned. 

Elite Paper Solutions - £85,190

Gweithio gyda rhanddeiliaid y sector cyhoeddus i newid arferion caffael a rhoi mwy o gontractau i fentrau cymdeithasol sy’n cefnogi’r rhai hynny nad ydynt bellach yn rhan o’r farchnad waith.   

Archer and Brooks Ltd - £100,000

Profi proses o greu economi gylchol ar gyfer gwastraff esgyrn o fewn y diwydiant prosesu cig yng Nghymru, drwy agor cynllun peilot yn agos at ladd-dy yng Nghymru.   

Simply do ideas - £23,509

Defnyddio platfform cwmwl i gysylltu heriau cymdeithasol ac economaidd yng Nghymoedd De Cymru gydag atebion entrepreneuraidd o golegau a phrifysgolion lleol.   

Cyngor Castell-nedd Port Talbot - £100,000

Creu canolfan gyd-denantiaeth a chymorth cofleidiol ar gyfer busnesau adeiladu yn ardal Castell-nedd Port Talbot.   

Cyngor Castell-nedd Port Talbot - £100,000

Dod i wybod am gyflenwyr adeiladu lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot allai ddarparu pecynnau o waith o dan £25,000. 

Y Cerddwyr Cymru - £71,200

Darganfod a datblygu llwybrau cerdded lleol a fyddai’n mabwysiadu brand Croeso Cymru a denu mwy o ymwelwyr i’r ardal, gan gynyddu gwariant ymwelwyr. 

Practice Solutions Ltd - £99,000

Edrych ar ddefnyddio model cydweithredol o recriwtio gofal cymdeithasol, hyfforddiant, tendro, a marchnata. 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent - £54,327

Edrych ar ei bolisi caffael a datblygu dull o gyflenwi yn canolbwyntio ar y dinesydd. 

Sefydliad Bevan - £73,690

Dod i wybod sut y gall yr economi sylfaenol ffynnu mewn lleoliadau penodol.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen - £75,106

Darparu cymorth busnes a mentora i fusnesau bychain newydd. 

Drive - £75,000

Defnyddio ased garddwriaethol cymunedol i gefnogi pobl sydd ag awtistiaeth a darparu hyfforddiant ar gyfer Nyrsys Anableddau Dysgu.   

Cymdeithas Tai Rhondda - £100,000

Adfywio canol tref Tonypandy gydag ymagweddau creadigol newydd a defnyddio sgiliau lleol i'w wireddu.

Lunax Digital - £100,000

Creu ap ar gyfer cwmnïau lleol i fasnachu sgiliau ac amser drwy system fancio amser.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.