1. Cefnogi Gweithwyr o Bell

Gall gweithio o bell ddod â sawl mantais i gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd, gan ehangu y pwll o weithwyr, lleihau costau swyddfa, a dod â rhagor o sgiliau.  Gall ddod â heriau hefyd ond gall yr addasiadau a’r gefnogaeth iawn wneud gwahaniaeth.  
Fel cyflogwr rydych yn gyfrifol am iechyd a diogelwch eich gweithwyr, boed ganddynt nam ai peidio.  Mae angen cymryd rhagor o gamau i sicrhau nad yw gweithwyr anabl dan anfantais neu yn cael eu heithrio oherwydd eu nam.    

  • Peidiwch fyth â phenderfynu ar yr hyn y gall gweithiwr anabl ei wneud neu fethu ei wneud ymlaen llaw, mae cyfathrebu yn allweddol, ac mae’n bwysig iawn i gynnwys y gweithiwr ym mhob sgwrs sy’n gysylltiedig â’u nam, gan mai hwy sydd yn y sefyllfa orau i egluro yr hyn y maent ei angen o ran eu nam neu yr addasiadau sydd angen eu gwneud.   
  • Caiff addasiadau eu gwneud i roi yr un fynediad i bobl anabl at bopeth sy’n rhan o gyflawni, a chadw swydd, ac a fyddai gan berson nad yw yn anabl.  Gallai hyn gynnwys defnyddio offer a chefnogaeth arbenigol i sicrhau y gall person â nam weithio yn hapus.  
  • Ceisio rhoi cymaint o rybudd â phosibl o gyfweliadau a chyfarfodydd, boed wyneb yn wyneb neu yn rhithwir.  Mae hyn yn rhoi amser i baratoi cymhorthion a chymorth, megis trefnu dehonglwr BSL neu Palandeipydd.  

Mae Mynediad i Waith yn rhaglen gymorth ar gyfer gwaith sy’n cael ei hariannu’n gyhoeddus ac sydd wedi’i hanelu at gefnogi pobl anabl i ddechrau mewn gwaith neu aros mewn gwaith, gan gynnig ystod o gymorth ymarferol ac ariannol i weithwyr sydd â chyflyrau corfforol neu feddyliol hirdymor.  
Gan gynnwys:

  • Cymhorthion ac offer 
  • Addasu offer i’w wneud yn haws i’w ddefnyddio
  • Dehonglydd, gan gynnwys dehonglydd BSL. 
  • Cymorth arall ymarferol megis rhywun i gymryd nodiadau neu siaradwr gwefusau.   
  • Cymorth iechyd meddwl

Parhau i drafod gyda gweithwyr anabl gan y gallai eu hanghenion newid, allai arwain at newidiadau neu fod angen offer ychwanaegol.  Mae rhagor o wybodaeth ar fynediad at waith gan gynnwys sut i wneud cais i’w chael ar https://www.gov.uk/access-to-work

Gall gweithio o bell arwain at weithwyr yn teimlo nad ydynt yn rhan o bethau fel y byddent o weithio mewn swyddfa.  

  • Mae camau y gallech eu cymryd i wneud yn siŵr bod gweithwyr o bell yn teimlo cymaint yn rhan o bethau ag y mae staff mewn swyddfa.  
    • Cynnal cyfarfodydd rhithiol yn rheolaidd gan sicrhau bod y staff i gyd yn rhan o hyn, gan gynnwys profi opsiynau hygyrch i weithwyr o bell ymuno mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb, megis yn rhithwir.   
    • Cysylltu yn ddyddiol, mae’r rhain yn gwneud i’r gweithiwr deimlo eu bod yn cael eu cynnwys, nid oes yn rhaid gwneud hyn yn rhithwir, byddai ebost dyddiol i weld sut mae gweithiwr yn helpu iddynt deimlo’n rhan o bethau.  
  • Gwneud amser am sgwrs anffurfiol reolaidd, megis un fyddech yn ei chael dros goffi yn y swyddfa.  
  • Mae cyfarfodydd cymdeithasol yn helpu i staff deimlo mwy fel rhan o dîm, gall ‘coffi a sgwrs’ rithwir fod yn gyfle i weithwyr siarad, holi am les staff a thrafod unrhyw broblemau sydd ganddynt.  

Ble yn bosibl, byddwch yn hyblyg am yr oriau a’r dyddiau sy’n cael eu gweithio.  Gallai gweithiwr ddymuno cywasgu eu horiau dros lai o ddyddiau, neu ledaenu eu horiau dros fwy o ddyddiau fel bod eu diwrnod gwaith yn fyrrach, gan roi hyblygrwydd iddynt.   

  • Pennu disgwyliadau gyda gweithwyr, peidio cael eich temtio i or-reoli
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na’r gweithgarwch i gyrraedd y canlyniad dymunol.   

2. Technoleg a Meddalwedd

Mae technoleg yn helpu i leihau rhai o’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu hwynebu wrth ddefnyddio cyfrifiaduron.   
Mae 5 prif fath o feddalwedd cynorthwyol 

  • Darllenwyr sgrîn; Meddalwedd sy’n cael ei ddefnyddio gan bobl â nam ar y golwg i ddarllen sgrîn y cyfrifiadur.  
  • Meddalwedd chwyddo sgrîn; yn caniatáu i’r defnyddiwr reoli maint y testun a’r graffeg ar y sgrîn.  Yn wahanol i zoom, mae’r cymwysiadau hyn yn caniatáu i ddefnydwyr weld y testun yn fwy o gymharu â gweddill y sgrîn.  
  • Darllenwyr Testun; meddalwedd sy’n cael ei ddefnyddio gydag anawsterau dysgu sy’n cael effaith ar y gallu i ddarllen testun, trwy ddarllen testun gyda llais wedi’i gyfosod a gydag uwcholeuwr o bosibl i bwysleisio’r geiriau sy’n cael eu dweud.    
  • Meddalwedd mewnbynnu llais; sy’n rhoi dewis arall i bobl sy’n cael anawsterau teipio i deipio testun a hefyd reoli’r cyfrifiadur yn ogystal â rhai gorchmynion ar gyfer perfformiad y llygoden.   
  • Dyfeisiadau mewnbynnu eraill; efallai na fydd rhai defnyddwyr yn gallu defnyddio llygoden neu fysellfwrdd i weithio ar gyfrifiadur.   

Caniatáu amser i weithwyr ddod yn gyfarwydd â’r feddalwedd  

  • System gymorth
    • Aelod staff arall i ddangos i weithwyr anabl sut i ddefnyddio meddalwedd/offer ac ateb cwestiynau os oes rhai.  
  • Siarad gydag elusen allai roi cymorth

3. Iaith

Mae iaith yn bwysig wrth siarad â phobl anabl, boed am eu nam neu am addasiadau.  Gall sut y caiff person eu disgrifio, sut y cyfeirir atynt a sut y cânt eu cynrychioli gael effaith sylweddol ar sut y maent yn teimlo amdanynt eu hunain, ond hefyd farn y cyhoedd a’u cyd-weithwyr amdanynt.  Mae hyn yn arwain at y gweithiwr yn ymrwymo i’w gyflogwr ac yn creu gwaith i’w botensial llawn.   
Mae rhan fwyaf y bobl anabl yn gyfforddus â’r geiriau sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio bywyd o ddydd i ddydd.  Mae pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn yn ”mynd am dro” a gall bobl sydd â nam ar eu golwg fod yn “falch o’ch gweld”.  Dylid ceisio osgoi cysylltu namau â phethau negyddol, megis “cibddall”.  

  • Defnyddio llais arferol, peidio bod yn nawddoglyd na siarad i lawr â rhywun.  
  • Peidio ceisio siarad dros rhywun neu orffen brawddeg y person anabl yr ydych yn siarad â hwy.  
  • Siarad gyda phobl anabl yn yr un ffordd ag y byddech yn siarad â phawb arall.  
  • Siarad yn uniongyrchol â’r person anabl, hyd yn oed os oes ganddynt ddehonglydd neu gydymaith gyda hwy 

Wrth drafod anabledd a iaith pobl anabl, dylid seilio iaith ar y model cymdeithasol o anabledd sydd i’w gael ar wefan Anabledd Cymru (www.anableddcymru.org).