BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Yn barod i ddechrau busnes

Bydd y llwybr yma’n eich cyflwyno i’r elfennau y mae’n rhaid i chi eu hystyried pan fyddwch yn barod i ddechrau eich busnes.

Mae’r cyrsiau hyn yn canolbwyntio mwy ar ddeall eich materion ariannol, costau’r cynnyrch neu’r gwasanaeth, a marchnata.

Pynciau

Costau – sut i’w deall yn well a pha wahanol fathau sy’n gymwys i’ch busnes.

Mi all cynllunio ariannol fod yn hawdd. Dysgwch beth sydd ynghlwm wrth reoli eich cyllid a’r hyn sy’n gweithio orau i’ch busnes.

Deall y gwahanol ffyrdd o brisio eich cynnyrch neu wasanaethau, a pha dactegau y dylech eu hystyried.

Pwysigrwydd ymchwilio i’r farchnad a chynllunio. Gwneud yn siŵr eich bod yn targedu eich cynnyrch neu wasanaethau at y bobl gywir. A pha agweddau diwylliannol fydd angen i chi eu hystyried wrth farchnata’n rhyngwladol.

Bydd y cwrs yma’n eich helpu i greu neges farchnata effeithiol, i adnabod cyfleoedd i hyrwyddo’ch busnes, ac i ddod o hyd i ffynonellau ychwanegol o arweiniad a chyngor ar farchnata.

Mae digidol yma i aros.
Deall sut i wneud iddo weithio ar gyfer eich anghenion chi, boed hynny’n wefan, cyfryngau cymdeithasol, neu gylchlythyrau digidol.

CWRS SAMPL

Heb gofrestru eto? Rhowch gynnig ar y cwrs sampl - Hanfodion ymchwil i'r farchnad.

Gweld cwrs sampl

Eisiau gweld mwy o'n cyrsiau? Dilynwch y 3 cam hawdd i gofrestru cyfrif.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.