Cynllun newydd i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar blant a gweithwyr heddiw i weithio mewn swyddi ‘sero net’ yfory
Gweinidog yr Economi yn lansio cynllun newydd i sicrhau y bydd gan blant a gweithwyr y sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn swyddi newydd yn economi sero net yfory. Heddiw (28 Chwefror 2023), cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Gynllun Cymru Gryfach, Wyrddach a Thecach: Sgiliau Sero Net. Mae’r cynllun yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau wrth gefnogi ein heriau sero net, drwy roi’r sgiliau cywir i’n gweithlu presennol ac i weithwyr y dyfodol. Wrth lansio’r...