BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

111 canlyniadau

Mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau sydd rhwng £300 a £50,000 i brosiectau yng Nghymru sy’n bwriadu gwneud o leiaf un o’r canlynol: Lleihau anghydraddoldeb Creu cynaliadwyedd tymor hir Cyflwyno ffyrdd newydd neu wahanol o weithredu Er enghraifft, gellid defnyddio’r cyllid i wneud y canlynol: Gwella sgiliau gwirfoddolwyr lle mae gan glybiau fylchau mewn sgiliau neu brofiad Prynu offer sy'n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon Datblygu ffyrdd newydd neu wahanol...
Pleidleisiodd Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr ar 23 Mawrth 2023 i gynyddu cyfradd sylfaenol Banc Lloegr i 4.25% o 4%. Mae cyfraddau llog CThEF yn gysylltiedig â chyfradd sylfaen Banc Lloegr. O ganlyniad i'r newid yn y gyfradd sylfaenol, bydd cyfraddau llog CThEF ar gyfer talu'n hwyr ac ad-dalu yn cynyddu. Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar: 3 Ebrill 2023 am randaliadau chwarterol 13 Ebrill 2023 am randaliadau heb fod yn rhai...
Mae Energy Systems Catapult wedi datblygu Pecyn Cymorth Sero Net sy'n seiliedig ar Leoedd ar gyfer awdurdodau lleol, rhwydweithiau ynni, busnesau, cymunedau ac arloeswyr i gyflymu atebion di-garbon. Mae pob lle lleol yn unigryw a bydd y strategaeth ddatgarboneiddio gywir yn dibynnu ar ddaearyddiaeth, mathau o adeiladau, seilwaith ynni, galw am ynni, adnoddau, cynlluniau twf trefol ac uchelgeisiau carbon isel y gymuned leol. Mae'r pecyn cymorth yn helpu cwmnïau a chymunedau glân i ffynnu, gan...
Mae Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn buddsoddi hyd at £25 miliwn yn y syniadau arloesol gorau a mwyaf blaenllaw, a gynlluniwyd ar gyfer masnacheiddio cyflym, llwyddiannus. Mae angen i syniadau fod yn wirioneddol newydd a chyfoes, ac nid aflonyddu yn eu sector nhw’n unig. Rhaid i'ch cynnig fod yn canolbwyntio ar fusnes, gyda chynlluniau realistig a chyflwynadwy, ac ag adnoddau digonol i gyflawni elw ar fuddsoddiad, twf a chyfran...
Mae’r system newydd yn cymryd lle’r broses o wneud cynnig i newid prisiad eich eiddo annomestig. Mae rheoliadau wedi’u pasio yn y Senedd sy’n galluogi Cymru i symud ymlaen i ddefnyddio’r broses Gwirio, Herio ac Apelio. O 01 Ebrill 2023 ymlaen, bydd yn ofynnol i dalwyr ardrethi yng Nghymru ddilyn y broses Gwirio, Herio, Apelio ac i ddefnyddio gwasanaeth digidol Gwirio a Herio Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Mae talwyr ardrethi yn gallu creu Cyfrif...
Amaethyddiaeth sydd â'r gyfradd waethaf o farwolaethau ac anafiadau (fesul 100,000 o weithwyr) o bob sector ym Mhrydain Fawr. Digwyddiadau’n ymwneud â cherbydau yw'r prif achos o farwolaethau ar ffermydd Prydain, gan ladd 48 o bobl yn y 5 mlynedd diwethaf. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi lansio'r ymgyrch 'Work Right Agriculture. Your farm. Your future’. Mae'n tynnu sylw at gyngor syml ar ddiogelwch cerbydau i helpu i gadw pawb ar y fferm...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gŵyl banc ychwanegol ar gyfer 2023 i nodi coroni Ei Fawrhydi’r Brenin Siarl III. Bydd gŵyl y banc ar ddydd Llun 8 Mai yn dilyn y coroni ar ddydd Sadwrn 6 Mai. Gwahoddir pobl ar draws y wlad a'r Gymanwlad i ddathlu Coroni Ei Fawrhydi y Brenin a'i Mawrhydi y Frenhines Gydweddog dros benwythnos o ddigwyddiadau arbennig rhwng 6 ac 8 Mai. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch...
Bydd y Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn helpu cymunedau ledled y DU i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd ac yn ceisio lleihau ôl troed carbon cymunedau. Bydd cymunedau yn dangos beth sy’n bosibl pan mae pobl yn cymryd yr awenau er mwyn mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Ardal: Ledled y DU. Yn addas ar gyfer: Sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, elusennau, y sector cyhoeddus, gweithio mewn partneriaethau. Maint yr ariannu: Hyd at...
Mae’r Porthladd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot a Phorthladd Rhydd Ynys Môn wedi’u dewis fel porthladdoedd rhydd cyntaf Cymru, i helpu i greu degau o filoedd o swydd newydd yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol, cyhoeddodd Llywodraethau Cymru a’r DU heddiw (22 Mawrth 2023). Ym mis Mai 2022, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb â Llywodraeth y DU i sefydlu rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Yn dilyn proses ymgeisio, mae Llywodraeth Cymru a’r DU wedi cytuno...
Mae Tŷ Cerdd yn dosbarthu cyllid y Loteri ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru i helpu sefydliadau i ddatblygu cerddora ym mhob genre mewn cymunedau ledled Cymru. Mae tair elfen - Creu, Ymgysylltu ac Ysbrydoli - yn cefnogi amrywiaeth o waith. Caiff eich sefydliad wneud cais i un, dau neu dri photyn ar yr un pryd os oes gynnoch chi weithgarwch sy’n gweddu i’r blaenoriaethau a’r canllawiau: Creu - Cronfa i gefnogi creu gwaith newydd gan...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.