BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1051 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau brys pellach i ychwanegu 10 gwlad arall yn neheudir Affrica at y rhestr goch ar gyfer teithio wedi i’r amrywiolyn newydd o’r coronafeirws gael ei nodi. Mae’n bosibl y gall yr amrywiolyn hwn osgoi’r amddiffyniad a ddarperir gan frechlynnau. Mae’r amrywiolyn Omnicron (a elwir hefyd yn B.1.1.529) wedi’i gysylltu â Botswana, De Affrica, Eswatini, Lesotho, Namibia, Zimbabwe ac Angola, Malawi, Mozambique a Zambia. Mae’r gwledydd hyn wedi’u hychwanegu at...
Mae'r camau tuag at greu Oriau Tawel wrth siopa yn digwydd ledled y DU, er mwyn helpu cwsmeriaid sydd ag anghenion synhwyraidd fel Awtistiaeth a chwsmeriaid eraill fel pobl oedrannus a phobl ag anableddau cudd. Ydych chi wedi ystyried ffurfioli Oriau Tawel? Os ydych chi'n fusnes sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid, beth am gael oriau tawel ar ddiwrnod penodol er mwyn i chi fod yn fusnes mwy cynhwysol? Dyma amseroedd sy’n cael eu neilltuo...
Rheolau tarddiad yw un o’r gofynion masnachu pwysicaf sydd angen i chi eu deall a’u cyflawni os yw’ch busnes yn prynu neu werthu nwyddau yn rhyngwladol. Defnyddir y rheolau hyn mewn cytundebau masnach rhwng gwahanol wledydd, fel cytundeb y DU gyda’r UE - sef y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA). Defnyddir y rheolau i bennu gwlad tarddiad nwyddau sy’n cael eu mewnforio a’u hallforio ac a ydynt yn gymwys i gael tariffau ffafriol. Gyda thariffau...
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach (SBS) eleni, diwrnod lle caiff siopwyr eu hannog i wario gyda chwmnïau lleol, ar 4 Rhagfyr 2021. Anogir pob mathau o fusnesau bach i gymryd rhan, felly p’un ai ydych chi’n fusnes teuluol, yn siop leol, yn fusnes ar-lein, yn gyfanwerthwr, yn wasanaeth busnes neu’n gwmni gweithgynhyrchu bach, cofiwch fod Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn eich cefnogi! I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Dydd Sadwrn y...
Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim! Gyda'n gilydd gallwn weithio ar ddefnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes. Gall hynny fod yn gyngor ymarferol ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes, neu help i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn dy siop, caffi, gweithdy neu ar dy wefan...
Mae Rhaglen Datblygu ar Raddfa Fach Cymdeithas Marchnata'r Celfyddydau, yn lansio yng Nghymru am y tro cyntaf ym mis Tachwedd eleni, mewn partneriaeth â Creu Cymru a diolch i gymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a nawdd gan Ticketsolve. Mae Rhaglen Datblygu ar Raddfa Fach yn helpu sefydliadau i nodi modelau busnes cadarn a ffyrdd newydd o ddatblygu eu cynulleidfaoedd ar gyfer llwyddiant cynaliadwy hirdymor. Mae wedi rhedeg yn llwyddiannus yn Lloegr ers sawl blwyddyn...
Mae gan Swyddfa’r Comisiynydd Busnesau Bach gylch gwaith sy’n cwmpasu taliadau hwyr a newid diwylliant taliadau hwyr yn y DU. Mae busnesau bach yn cwyno am daliadau hwyr ac yn dweud mai dyma un o’u prif bryderon, gan eu disgrifio fel y rheswm eu bod mewn dyled. Hoffai’r Swyddfa glywed gan fusnesau bach i gael darlun clir, os oes modd, o sut mae twf cwmnïau bach a’u cynhyrchiant yn cael eu rhwystro gan arferion talu...
Mae Enterprise Nation yn gweithio mewn partneriaeth ag Aviva a Smart Energy GB i helpu busnesau i weithredu arferion gorau cynaliadwy sy’n sicrhau effaith bositif ar y blaned, cymdeithas a’r economi. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gefnogi busnesau bach a chanolig a pherchnogion busnes drwy gynyddu eu dealltwriaeth o faterion amgylcheddol a chymdeithasol yn y DU, gan ddangos modelau rôl priodol, meithrin mentrau cynaliadwy ac annog newid drwy adnoddau, cynlluniau gweithredu ac argymhellion wedi’u teilwra...
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, becyn £45 miliwn o gyllid a fydd yn helpu busnesau bach ledled Cymru i dyfu a chefnogi miloedd o bobl i hyfforddi i weithio mewn sectorau allweddol. Fel rhan o'r pecyn, bydd £35 miliwn yn helpu busnesau bach a chanolig (BBaCh) yng Nghymru i ail-ddechrau, datblygu, datgarboneiddio a thyfu i helpu i sbarduno adferiad economaidd Cymru. Yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol, mae'n rhoi cyfle i...
Bydd yr wythnos yn dechrau gyda thrafodaeth genedlaethol ar Gynllun Sero Net Cymru a’r camau gweithredu ar y cyd sydd eu hangen i sicrhau bod Cymru’n bodloni ei thargedau. Ar agor i bawb, bydd y sesiynau ar-lein yn helpu pobl i ddeall beth mae Cymru eisoes wedi’i gyflawni, pa newidiadau y gallwn eu disgwyl dros y bum mlynedd nesaf, a sut gallwn lywio’r dyfodol gyda'n gilydd. Bydd rhaglen bob diwrnod yn ymgymryd â thema wahanol...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.