news and blogs Archives
1061 canlyniadau
Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu cyflogwyr i wneud yn fawr o’r doniau y mae pobl anabl yn gallu’u cyfrannu i’r gweithle. Mae sefydliadau Hyderus o ran Anabledd yn chwarae rhan flaenllaw yn newid agweddau er gwell. Maen nhw’n newid ymddygiad a diwylliant yn eu busnesau, eu rhwydweithiau a’u cymunedau eu hunain, ac yn elwa o fanteision arferion recriwtio cynhwysol. Mae’r cynllun yn helpu cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl dda, ac: yn...
Mae Archwilio Cymru am glywed gan fusnesau twristiaeth ym Mharciau Cenedlaethol Cymru a'r cyffiniau am yr her o reoli twristiaeth gynaliadwy. Mae’r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru’n enghreifftiau sy’n bwysig yn rhyngwladol o’r modd y gellir gwarchod tirluniau gweithiol. Mae cysyniad tirwedd warchodedig – ardal warchodedig y mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddi – o bwys cynyddol o ran cadwraeth fyd-eang. Fodd bynnag, gwyddom fod y newid yn yr hinsawdd yn digwydd, a...
O 1 Ionawr 2022, bydd angen hysbysu ymlaen llaw am fewnforion i Brydain Fawr o’r UE ar gyfer y rhan fwyaf o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, sgil-gynhyrchion anifeiliaid, bwyd risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid a phlanhigion a chynhyrchion planhigion a reoleiddir. Efallai y bydd gofyn i fusnesau (neu gynrychiolydd yn gweithredu ar eu rhan) sy’n mewnforio’r nwyddau hyn o’r UE hysbysu awdurdodau ymlaen llaw y bydd eu llwyth yn dod i mewn...
Bellach yn ei seithfed flwyddyn, nod Wythnos Ymwybyddiaeth Galar Plant y DU, a sefydlwyd gan yr elusen profedigaeth yn ystod plentyndod flaenllaw, Grief Encounter yw codi ymwybyddiaeth o blant a phobl ifanc sydd wedi profi profedigaeth yn y DU, a sut gall darparu cymorth proffesiynol am ddim i'r rhai sydd wedi'u heffeithio wneud byd o wahaniaeth i'w dyfodol. Bydd sefydliadau ac elusennau ledled y DU yn dangos undod â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n...
Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi diolch i bobl ym mhob cwr o Gymru am eu gwaith caled i helpu i leihau cyfraddau achosion o’r coronafeirws – cyfraddau a oedd wedi cyrraedd lefelau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen – dros y tair wythnos ddiwethaf. Mae ef wedi cadarnhau na fydd unrhyw newidiadau i reolau’r coronafeirws yn dilyn yr adolygiad 21 o ddiwrnodau diweddaraf. Bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero, sy'n golygu...
Os ydych chi’n fusnes twf uchel sy’n gobeithio ehangu, gallai rhaglen sbarduno NatWest eich helpu. Efallai eich bod am adeiladu eich tîm, mentro i farchnadoedd newydd neu chwilio am fuddsoddiad pellach. Gallai’r rhaglen eich helpu i gael yr wybodaeth a’r sgiliau i ragori mewn meysydd busnes amrywiol, gan gynnwys: Mynediad at farchnadoedd newydd Denu doniau ac adeiladu tîm effeithiol Mynediad at gyllid twf Datblygu arweinyddiaeth Datblygu seilwaith y gellid ei ehangu Mae’r rhaglenni sbarduno presennol...
Mae cyfreithiau newydd a Chod Ymarfer yn cael eu cyflwyno i ddatrys y dyledion rhent masnachol sydd ar ôl yn sgil y pandemig. Mae’r Cod yn nodi y dylai tenantiaid nad ydynt yn gallu talu yn llawn drafod gyda’u landlord yn y lle cyntaf gyda’r disgwyliad y bydd y landlord yn hepgor rhywfaint neu’r holl ôl-ddyledion rhent os ydyw’n gallu gwneud hynny. O 25 Mawrth 2022, bydd cyfreithiau newydd a gyflwynwyd yn y Bil Rhent...
Y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol (REF) i ogledd Cymru fydd sylfaen ar gyfer rhanbarth sy’n cydweithredu – hwn fydd y cam cyntaf ar gyfer creu model datblygu economaidd sydd â rhanbarth yn ffocws iddo. Bydd y REF yn cael ei gynhyrchu ar y cyd i atgyfnerthu gweledigaeth gytûn ar gyfer y rhanbarth gan rannu cyfres o flaenoriaethau a chanlyniadau. Mae'r ddogfen yn edrych i ystyried materion tebyg i: sut yr ydym yn datblygu sgiliau i sicrhau...
Gallech gael y cyfle i elwa’n uniongyrchol ar wybodaeth ac arbenigedd blaenllaw Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT), sef un o brif sefydliadau ymchwil ac academaidd y byd. Mae'n enwog am ragoriaeth mewn meysydd fel Technoleg, Peirianneg, y Gwyddorau ac Arweinyddiaeth. Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr arnom ni i gyd, ac mae'r gymuned fusnes wedi teimlo hyn yn fwy na'r rhan fwyaf. Fodd bynnag, mae hefyd wedi ein hyrddio tuag at y dyfodol ac mae'r defnydd...
Pagination
- Previous page
- Page 106
- Next page