BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1101 canlyniadau

Bellach, gall arweinwyr busnesau bach gofrestru eu diddordeb ar gyfer Cymorth i Dyfu Rheolaeth/Help to Grow Management, rhaglen 12 wythnos a ddarperir gan ysgolion busnes blaenllaw ledled y DU. Fe’i cynlluniwyd i fod yn rhaglen hyblyg i’w chyflawni ochr yn ochr â gwaith llawn amser, a bydd yn cefnogi arweinwyr busnesau bach i ddatblygu eu sgiliau strategol gyda modiwlau allweddol sy'n rhoi sylw i reolaeth ariannol, arloesedd a meithrin y maes digidol. Rhaglen ar gyfer...
Mae dargyfeirio'ch bwyd dros ben i elusennau rheng flaen yn haws nag yr ydych chi'n meddwl. Gallai’ch busnes fod yn gymwys i hawlio nawdd i helpu lleihau’ch gwastraff bwyd wrth helpu pobl sydd mewn perygl o ansicrwydd bwyd. Mae Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru ar agor i gwmnïoedd Cymreig sydd â bwyd sy’n fwytadwy, ond yn mynd yn wastraff oherwydd ei fod yn rhy gostus neu’n anaddas ar gyfer defnydd masnachol. Amcan y...
Galwad ryngwladol i weithredu yw Dydd Mawrth Porffor, 2 Tachwedd 2021, yn canolbwyntio ar newid profiad pobl anabl fel cwsmeriaid. Bydd yn golygu bod sefydliadau o bob maint ac o bob sector yn cymryd camau pendant, ymarferol, i ateb anghenion cwsmeriaid anabl. Ar draws y Deyrnas Unedig, mae’r Bunt Borffor - grym gwario pobl anabl a’u teuluoedd - yn werth £274 biliwn ac yn codi 14% y flwyddyn ar gyfartaledd, ond mae gan lai na...
Ydych chi wastad wedi bod eisiau rhedeg eich busnes eich hun, ond ddim yn siŵr lle i ddechrau arni? Poeni na fydd eich syniad yn gweithio? Neu ddim hyd yn oed yn siŵr a oes gennych chi syniad o gwbl? Mae Chwarae Teg, NatWest a Simply Do Ideas yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfres o ddigwyddiadau ‘Oes gen i syniad?’ a fydd yn dod â darpar entrepreneuriaid at ei gilydd i gydweithio, rhannu a chael...
Waeth pa mor angerddol ydych chi am rywbeth, dydy angerdd ynddo’i hun ddim yn ddigon i sicrhau llwyddiant. Mae angen cyfeiriad clir arnoch chi a fydd yn eich tywys tuag at sut mae llwyddiant yn edrych ac yn teimlo i chi. Mae hynny’n gofyn am waith meddwl gofalus. Er mwyn dilyn eich angerdd yn llwyddiannus, mae angen i chi benderfynu sut rydych chi am ei ddilyn a beth yw pen draw’r daith. Mae’n golygu diffinio’ch...
Gall Eiddo Deallusol gyfrif am fwy na 70% o werth eich busnes, sy’n llawer mwy na’r asedau ffisegol yn eich busnes. Mae pedwar math o hawliau eiddo deallusol yn y DU: patentau hawlfraint nodau masnach cynlluniau cofrestredig Os nad ydych chi’n siŵr pa un (neu rai) sy’n iawn ar gyfer eich busnes chi, ewch i drosolwg Eiddo Deallusol Llywodraeth y DU. Gallwch weld sut mae nodi, diogelu a manteisio ar eich asedau Eiddo Deallusol gydag...
Heddiw [dydd Gwener 29 Hydref 2021] bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd mesurau diogelu lefel rhybudd sero yn cael eu cryfhau er mwyn diogelu pobl a helpu i ostwng lefelau uchel o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru. Bydd y Prif Weinidog yn dweud bod Cymru’n wynebu sefyllfa ddifrifol, ac oni bai bod y cyfraddau'n dechrau gostwng dros y tair wythnos nesaf, y bydd yn rhaid i Weinidogion ystyried ailgyflwyno rhai cyfyngiadau...
Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £8 miliwn ar gyfer prosiectau i weithio ar ddatblygu ecosystem meddalwedd digital security by design (DSbD). Daw’r cyllid hwn o’r Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol. Nod y gystadleuaeth hon yw cyllido prosiectau amrywiol sy’n gweithio i gyfoethogi ac ehangu’r ecosystem meddalwedd DSbD cyn i’r caledwedd masnachol fod ar gael. Bydd prosiectau’n defnyddio Prototeip Caledwedd Technoleg DSbD (y “Morello Board” fel y’i...
Codwch arian i elusen sy’n golygu’r byd i chi wrth werthu’ch cynnyrch neu’n gwasanaethau dros y Dolig. Mae tymor y Nadolig yn adeg gyffrous! Dyma’r cyfnod gwerthu prysuraf, ond mae hefyd yn dymor ewyllys da. Dyma’r amser perffaith i’ch busnes bach gysylltu â’ch cymuned a gwneud gwahaniaeth go iawn ac mae gan ‘Work for Good’ gronfa cyllid cyfatebol o £50,000 i’ch helpu i greu mwy o argraff nag erioed! Cymerwch ran mewn 3 cham hawdd...
A hwythau wedi’i hysbrydoli gan y posibiliadau byd-eang o ran amodau cymdeithasol, technolegol a hinsoddol y deng mlynedd ar hugain nesaf, mae cymunedau ledled Cymru wedi bod yn dychmygu sut le fydd Cymru yn 2052, gan greu ‘byd stori’ ar gyfer digwyddiad diwylliannol mawr ym mis Medi 2022. Dyma fydd wrth wraidd GALWAD: sef math newydd o stori aml-lwyfan, amlieithog a fydd yn datblygu ar draws drama deledu, llwyfannau digidol a digwyddiadau byw am wythnos...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.