BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1131 canlyniadau

Cynhelir Diwrnod Gwisgo Coch yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar 22 Hydref 2021. Mae Diwrnod Gwisgo Coch yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu sy’n annog ysgolion, busnesau ac unigolion i wisgo coch a rhoi arian i helpu i hwyluso addysg wrth-hiliaeth i bobl ifanc ac oedolion ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae pob ceiniog a gaiff ei chodi yn ystod y Diwrnod hwn yn galluogi’r ymgyrch i weithio gyda mwy o bobl ifanc ac oedolion ledled...
Mae gan Gymru ddiwydiant bwyd a diod bywiog, sy’n amrywio o fusnesau artisan bach i gwmnïau bwyd mwy. Mae’r busnesau hyn yn gwerthu pob math o gynnyrch – o eitemau arbenigol ar gyfer marchnadoedd penodol i eitemau ar raddfa fawr ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu sylweddol. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y digwyddiad yn 2019, bydd BlasCymru/TasteWales 2021 yn dod â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant bwyd at ei gilydd ar gyfer cynhadledd a digwyddiad...
Rhwng 18 Hydref a 24 Hydref 2021 bydd partneriaid, gwirfoddolwyr a chymunedau yn dod at ei gilydd i sicrhau y gall pawb gymryd rhan yn y byd digidol. Bydd miloedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn cannoedd o gymunedau, gan ddarparu ffordd gyfeillgar a chroesawgar i helpu pobl i gymryd y cam nesaf ar eu taith ar-lein, i ddatblygu sgiliau ac i wella bywydau ar hyd y ffordd. Mae yna ganllawiau ac adnoddau defnyddiol...
Beth yw'r system seiliedig ar bwyntiau? Beth yw trothwy cyflog? Sut ydw i'n cael trwydded noddi? Beth sydd angen i mi ei wneud ar gyfer fy nghyflogwyr cenedlaethol yn yr UE? Ar 1 Ionawr 2021 daeth symudiad rhydd i ben a chyflwynwyd system fewnfudo newydd yn y DU sy'n seiliedig ar bwyntiau. Mae'r system newydd yn trin dinasyddion yr UE a dinasyddion y tu allan i'r UE yn gyfartal ac wedi trawsnewid y modd mae...
Mae CThEM yn annog cwsmeriaid Credyd Treth Gwaith i edrych a oes angen iddynt ddiweddaru eu horiau gwaith os yw’r rhain wedi’u gostwng yn sgil coronafeirws. Yn ystod y pandemig, nid yw cwsmeriaid Credyd Treth Gwaith wedi bod angen dweud wrth CThEM am ostyngiadau tymor byr dros dro yn eu horiau gwaith yn sgil coronafeirws – er enghraifft os oeddynt yn gweithio llai o oriau neu ar ffyrlo. Os gostyngodd oriau cwsmer Credyd Treth dros...
Mae cwrs e-ddysgu newydd Guardians of Grub, ‘Becoming a Champion’, wedi’i ddatblygu gan weithwyr diwydiant proffesiynol, a bydd yn mynd â’ch sgiliau lleihau gwastraff bwyd i’r lefel nesaf. Dyma gyfle gwych i uwchsgilio a gwneud gwahaniaeth positif i chi, eich pobl, eich elw a’r blaned. Dyma’ch cyfle i ymuno â chymuned sy’n tyfu o weithwyr proffesiynol y Diwydiant Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd sydd wedi dod i gael eu hadnabod fel Hyrwyddwyr, ac sy’n arwain yr...
Mae gweithlu’r DU yn heneiddio. Mae pobl eisiau ac angen gweithio am gyfnod hirach ac mae angen i gyflogwyr wneud defnydd mwy effeithiol o weithlu hŷn. Mae hyn yn arbennig o wir o safbwynt menywod - nhw sydd wedi sbarduno’r prif dwf yn y gweithlu hŷn yn ystod y degawd diwethaf. Mae llawer o fenywod bellach yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl rhoi genedigaeth ac mae diwygio’r system bensiynau wedi ymestyn bywydau gwaith menywod. Bellach...
Mae'r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi newydd i bobl ifanc 16 i 24 oed ar Gredyd Cynhwysol sy'n wynebu risg o ddiweithdra hirdymor. Gall cyflogwyr o bob maint wneud cais am gyllid hyd at 17 Rhagfyr 2021 sy'n cwmpasu: 100% o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar oedran y sawl sy'n cymryd rhan) am 25 awr yr wythnos am gyfanswm o 6 mis cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr cysylltiedig...
Mae tymor y Nadolig yn cael effaith fawr ar fwyafrif busnesau a gweithwyr y Deyrnas Unedig. Dyma amser pan fydd mwy o alw am gynnyrch a gwasanaethau a nwyddau i’w gwerthu mewn rhai busnesau. Mae eraill yn wynebu cyfnod tawel neu’n cau efallai dros y gwyliau. Eleni, mae Dydd Nadolig, 25 Rhagfyr 2021, ar ddydd Sadwrn a Gŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr 2021, ar ddydd Sul. Sy'n golygu y bydd dydd Llun 27 Rhagfyr 2021...
Wyt ti eisiau defnyddio bach mwy o Gymraeg yn dy fusnes? Ry’n ni newydd gyhoeddi rhestr o adnoddau technoleg Cymraeg ar ein gwefan sy’n gallu helpu gyda hyn. Dyma rai o’r enghreifftiau o’r mathau o bethau sydd ar gael am ddim: Cysgliad – eisiau magu hyder wrth ysgrifennu yn Gymraeg? Mae Cysgliad yn wirydd sillafu ac yn gyfres o eiriaduron Cymraeg. Mae mwy na chwe mil o gopïau wedi'u lawrlwytho ers ei ryddhau yn rhad...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.