BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1171 canlyniadau

Cynhadledd hanner diwrnod yn dod â ffigurau cyllid a pherchnogion busnes blaenllaw ynghyd i rannu eu profiadau o fuddsoddi ecwiti. Os ydych chi'n berchennog busnes ar daith i dyfu, busnes technoleg newydd sy'n chwilio am fuddsoddiad, neu os ydych chi'n edrych i brynu neu werthu busnes, bydd y gynhadledd hanner diwrnod hon yn eich helpu i gyflwyno, cynllunio a dod o hyd i'r buddsoddiad cywir sy’n addas ar gyfer eich busnes. Bydd siaradwyr dan y...
Gwasanaeth Datganiad Tollau: y gwasanaethau sydd ar gael a phroblemau – gwiriwch argaeledd ac unrhyw broblemau sy'n effeithio ar y Gwasanaethau Datganiad Tollau. Gallwch wirio'r canlynol: Argaeledd gwasanaethau Amserau nad yw’r gwasanaeth ar gael - wedi'u cynllunio Problemau gyda’r gwasanaeth Gwasanaethau eraill Am ragor o wybodaeth ewch i GOV.UK System Tramwy Cyfrifiadurol Newydd: y gwasanaethau sydd ar gael a phroblemau – gwiriwch argaeledd ac unrhyw broblemau sy'n effeithio ar y System Tramwy Cyfrifiadurol drwy ddefnyddio'r...
Mae ymgyrch Llywodraeth y DU, Gyda'n Gilydd ar gyfer ein Planed, am ddathlu'r busnesau bach sy'n cymryd y camau mwyaf arloesol i fynd yn wyrdd a lleihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr eu hunain i ddod yn fusnes sero-net erbyn 2050! Mae'r gystadleuaeth 'Heroes of Net Zero' am ddod o hyd i fusnesau bach gorau'r DU sy'n cymryd camau arloesol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Gwahoddir yr ymgeiswyr gorau i fynychu uwchgynhadledd newid hinsawdd...
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd contractau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig yn cael eu hestyn tan fis Rhagfyr 2023. Mae'r Gweinidog hefyd yn dweud mai'r bwriad yw parhau â Chynllun y Taliad Sylfaenol tan 2023, yn amodol ar adolygiad cynhwysfawr Llywodraeth y DU o wariant. Bydd pob un cymwys sydd â chontract ar hyn o bryd yn cael cynnig estyniad drwy eu cyfrifon ar RPW ar-lein. Am ragor o...
Yr Wythnos Addysg Oedolion yw gŵyl addysg oedolion fwyaf y Deyrnas Unedig. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o werth addysg oedolion, dathlu llwyddiannau dysgwyr a darparwyr, ac ysbrydoli rhagor o bobl i ddarganfod sut gall dysgu newid eu bywydau mewn modd cadarnhaol. Cynhelir Wythnos Addysg Oedolion eleni rhwng 20 a 26 Medi 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Dysgu a Gweithio Cymru. Beth am i chi gael golwg ar dudalennau’r Porth Sgiliau...
Os ydych chi'n dod â'ch gweithwyr cyflogedig yn ôl yn rhan-amser, gallwch hawlio ffyrlo yn hyblyg ar eu cyfer o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS). Mae ceisiadau ar gyfer mis Awst bellach wedi cau; os oes angen i chi wneud newid am na wnaethoch chi hawlio digon, gallwch wneud hyn tan 28 Medi 2021. Gallwch barhau i wneud cais ar gyfer mis Medi tan 14 Hydref 2021. Am y wybodaeth...
Hoffai Dr Steve Wyatt, Cyfarwyddwr RDI yn y Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr a Chadeirydd Clwstwr Gwynt Arnofiol y Môr Celtaidd, eich gwahodd i lansiad rhithwir am ddim Clwstwr y Môr Celtaidd. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar ffrwd byw ar Teams o Westy Voco St Davids, Caerdydd. Ychydig iawn o bobl sy’n cael bod yn bresenol yn y digwyddiad byw oherwydd cyfyngiadau COVID ac mae'n ôl disgresiwn y trefnydd. Yn y...
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi amserlen newydd ar gyflwyno rheolaethau mewnforio llawn ar gyfer nwyddau o'r UE i'r DU. Bydd datganiadau a rheolaethau tollau llawn yn cael eu cyflwyno ar 1 Ionawr 2022 fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, er na fydd angen datganiadau diogelwch tan 1 Gorffennaf 2022. O dan yr amserlen ddiwygiedig: Bydd y gofynion rhaghysbysu am nwyddau iechydol a ffytoiechydol (SPS), a oedd i fod i gael eu cyflwyno ar 1 Hydref...
Bydd rhaid i bobl ddangos Pàs COVID y GIG i fynd i glybiau nos a digwyddiadau yng Nghymru o fis nesaf ymlaen, cyhoeddodd y Prif Weinidog heddiw. Mae'r mesur yn cael ei gyflwyno i helpu i reoli lledaeniad y coronafeirws. Mae’r achosion yn uchel iawn yng Nghymru ar hyn o bryd, ond bydd y lefel rhybudd yn parhau ar sero am y tair wythnos nesaf. Wrth gyhoeddi canlyniad yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o'r rheoliadau...
‘Mae 'cylchogrwydd' neu ‘circularity’ yn dod yn air poblogaidd yn y diwydiant ffasiwn. Ond beth mae'n ei olygu i fusnesau ffasiwn a thecstilau? Sut mae cylchogrwydd yn cyd-fynd â sgyrsiau ehangach am fusnesau cynaliadwy a chyfrifol? Ymunwch ag arbenigwyr o dîm Tecstilau 2030 WRAP mewn gweminar sy'n egluro beth mae cylchogrwydd yn ei olygu i fusnesau ffasiwn a thecstilau, gan gynnwys: Pwysigrwydd cylchogrwydd wrth ddatblygu strategaeth gynaliadwyedd gadarn Sut mae cylchogrwydd yn allweddol i gyflawni...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.