news and blogs Archives
1191 canlyniadau
Mae’r gystadleuaeth ar gyfer cwmnïau technoleg arloesol cymharol newydd wedi’i chynllunio i arddangos y gorau sydd gan wledydd Prydain i’w gynnig, gan ddarparu llwyfan i fusnesau o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ddisgleirio. Mae’r sawl sy’n cyflwyno cynnig yn cael eu cefnogi drwy’r broses o wneud cais, ac yn cael hyfforddiant a chefnogaeth ym mhob cam o’r gystadleuaeth. Bydd hyn yn eich galluogi i gystadlu a sicrhau bod eich busnes yn barod...
Bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cynyddu o 1.25% am flwyddyn yn unig i weithwyr, cyflogwyr a’r hunangyflogedig o fis Ebrill 2022. Bydd hyn yn berthnasol i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (gweithwyr a chyflogwyr), Dosbarth 1A a 1B a Dosbarth 4 (hunangyflogedig). Ni fydd pobl hŷn nag Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael eu heffeithio gan newidiadau mis Ebrill 2022. O fis Ebrill 2023, bydd Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd wedi’i glustnodi o 1.25%...
Mae gwobr Sefydlydd Busnes y Flwyddyn sy’n Fenyw yn dathlu’r gorau o entrepreneuriaeth fenywaidd yn y DU. Os ydych chi wedi creu cynnyrch anhygoel, yn cynnig gwasanaeth gwych neu’n gwneud rhywbeth gwirioneddol wahanol gyda’ch busnes, mae Enterprise Nation eisiau clywed gennych chi. Mae’r beirniaid yn chwilio am gyfeiriad clir ar gyfer dyfodol cwmni newydd ymgeiswyr, gyda gweledigaeth, pwrpas a chenhadaeth. Yn gyfnewid am hyn, mae llu o wobrau a chyfleoedd i roi hwb i’r busnes...
Mae Small Business Britain yn gweithio mewn partneriaeth ag Instagram i gynnig cyfle i fusnesau bach elwa ar ei chynllun mentoriaeth cyntaf yn y DU – gan roi’r cyfle i’ch busnes chi ddysgu am greu cynnwys, marchnata a masnach gymdeithasol gan y crewyr gorau, sefydlwyr llwyddiannus ac arbenigwyr Instagram, i gyd wrth i ni nesáu at dymor siopa’r Nadolig. Bydd y pum busnes bach llwyddiannus yn elwa ar: Brynhawn o weithdy cynnwys gydag un o...
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gweledigaeth newydd i cynhyrchu mwy o fwyd uwch-dechnoleg yng Nghymru sydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y newid yn yr hinsawdd. Nod prosbectws newydd Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd Reoledig (CEA) yw gweld twf yn nifer y busnesau sy'n defnyddio technoleg i ddarparu systemau cynaliadwy o dyfu bwyd lle mae paramedrau ac amodau fel dŵr a golau yn cael eu rheoli'n dynn. Mae CEA yn cael effaith gadarnhaol ar newid yn...
Mae’r ‘bobl’ mewn busnesau bach yn allweddol i’w lwyddiant: mae deall a chefnogi iechyd meddwl ar eich cyfer chi eich hun ac ar gyfer eich gweithwyr yn hollbwysig nid yn unig i hapusrwydd eich gweithwyr a’u cyfraddau cadw, ond hefyd i dwf cyffredinol y busnes. Gyda’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, mae’n bwysig dymchwel rhwystrau a thrafod y pwnc yn agored. Yn y sesiwn hon, mae Small Business Britain yn sgwrsio gydag arbenigwyr...
Mae’r Diwrnod Lletygarwch Cenedlaethol yn dathlu bwytai, gwestai, tafarnau a bariau rhagorol a phenderfynol, a’r cyflenwyr sy’n eu cefnogi. Mae sawl rheswm i fusnesau lletygarwch yng Nghymru ymuno yn y dathlu: arddangos y diwydiant lletygarwch, annog cwsmeriaid i fentro yn ôl i leoliadau lletygarwch a meithrin hyder ymysg y cyhoedd drwy hyrwyddo lleoliadau lletygarwch fel amgylcheddau diogel a saff tynnu sylw at rôl gynhenid lletygarwch yng nghyfansoddiad cymdeithasol cymunedau, fel cyflogwr a thrwy gyfrannu incwm...
Mae’r cynllun Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn galluogi i fusnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU neu sefydliadau nid-er-elw weithio mewn partneriaeth â sefydliadau addysg uwch (AU), addysg bellach (AB), sefydliadau ymchwil a thechnoleg neu Gatapwlt yn y DU. Gall sefydliadau academaidd sydd wedi eu cofrestru yn y DU, sefydliadau ymchwil a thechnoleg neu Gatapwlt wneud cais am gyfran o hyd at £6 miliwn i gyllido prosiectau arloesol gyda busnesau neu sefydliadau nid-er-elw. Mae’n rhaid...
Mae Simply Business yn rhoi £25,000 i un entrepreneur lwcus i gychwyn, tyfu neu adfywio ei fusnes bach. I gymryd rhan, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen ar-lein yn nodi pam rydych chi’n meddwl eich bod yn haeddu’r grant. Mae’r beirniaid yn chwilio am y canlynol: eich stori breuddwyd fawr effaith gymdeithasol gadarnhaol arloesi cynllun pendant ag ôl meddwl arno Y dyddiad cau yw 17 Medi 2021. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Simply...
Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi y bydd safleoedd gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn elwa o gael rhyddhad ardrethi annomestig 100% am dair blynedd arall. Mae ymestyn y rhyddhad ardrethi hyd at 31 Mawrth 2025 yn golygu y bydd £9.7m o gymorth ychwanegol ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig. Bydd hyn yn helpu’r rheini sy’n wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i’r pandemig, gan ddiogelu’r lefel o ddarpariaeth y mae ei hangen...
Pagination
- Previous page
- Page 119
- Next page