BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1271 canlyniadau

Cynhelir Gwobrau Busnes Powys ddydd Gwener 8 Hydref 2021. Bydd digwyddiad eleni yn wahanol iawn gan y bydd yn ddigwyddiad “Gyrru i mewn” ym maes parcio Campws Drenewydd NPTC, gyda llwyfannau a sgriniau yn yr awyr agored a bwyd a diodydd tecawê. Mae’r gwobrau yn gyfle i bob busnes, menter gymdeithasol ac elusen ym Mhowys gystadlu am y cyfle i gyrraedd y rownd derfynol boed yn fusnesau mawr neu fach neu’n newydd neu’n bodoli ers...
Mae cynnal profion COVID-19 cyflym yn rheolaidd yn rhan hanfodol o’r camau y gellir eu cymryd i reoli risgiau er mwyn cadw eich staff, cwsmeriaid a’ch busnes yn ddiogel. Nid yw bron i 1 ym mhob 3 o bobl sydd â’r coronafeirws yn dangos unrhyw symptomau, ac felly mae’n bwysig bod pobl yn cael profion rheolaidd er mwyn helpu i atal y feirws rhag lledaenu. Mae profion cyflym ddwywaith yr wythnos ar gael i bobl...
Gan fod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE), mae angen datgan tollau ar bopeth sy’n cael ei fewnforio a’i allforio rhwng Prydain Fawr a’r UE. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu tollau a pharhau i dalu trethi eraill fel TAW mewnforio. Dyma’r pethau pwysig i’w cofio: os ydych chi’n allforio, mae eisoes angen i chi wneud datganiadau allforio wrth allforio'ch nwyddau os ydych chi’n mewnforio nwyddau rheoledig, mae’n rhaid i...
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol datganiad ysgrifenedig isod: Hoffwn egluro’r sefyllfa yng Nghymru a'r camau sy'n ofynnol i ddefnyddwyr Ap Covid-19 y GIG sy'n cael gwybod eu bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif am Covid-19. Mae cyfraddau achosion yng Nghymru wedi bod yn codi, ac o ganlyniad mae nifer y cysylltiadau y gofynnir iddynt hunanynysu, boed hynny gan swyddogion olrhain cysylltiadau Profi Olrhain Diogelu (TTP) neu...
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd fydd yn helpu busnesau bwyd a diod o Gymru i gael eu cynnyrch ar silffoedd y siopau mwyaf. Mae Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod Cymru wedi cael ei ddatblygu gyda chymorth grŵp o arbenigwyr o’r diwydiant i weld mwy o dwf yn nhrosiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru o’i gymharu â’r sector yn y DU gyfan. Mae wyth amcan i’r cynllun, gan gynnwys creu llif o...
Mae Acas wedi cyhoeddi cyngor newydd i helpu cyflogwyr ystyried a allai gweithio hybrid fod yn opsiwn ar gyfer eu gweithle a sut i’w gyflwyno’n deg. Math o weithio’n hyblyg yw gweithio hybrid, lle mae staff yn rhannu eu hamser rhwng gweithio o bell a gweithio yng ngweithle eu cyflogwr. Mae’r cyngor yn cynnwys awgrymiadau i gyflogwyr ar sut i: ymgynghori’n eang gyda staff i drafod ystyriaethau ymarferol cyflwyno’r drefn hon ystyried a fyddai’n gweithio...
Mae Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi 6 mis newydd ar gyfer pobl ifanc 16 - 24 oed sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn hirdymor. Gall busnesau ddarllen prosbectws newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau i gyflogwyr neu fynychu un o’i gweminarau i gyflogwyr i ddysgu mwy. Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael yn gov.uk/kickstart. Mae pecyn cymorth cyfathrebu newydd yn awgrymu dulliau...
Canllawiau i fusnesau twristiaeth a lletygarwch ar sut i gadw gweithwyr ac ymwelwyr yn ddiogel yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Gofalwch eich bod yn ymwybodol o Ganllawiau Lletygarwch y DU Cymru yn ogystal â’r Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch a’ch bod yn cadw llygad am ddiweddariadau. Gwyliwch y ffilm fer hon i’ch helpu i lywio’ch ffordd o gwmpas y canllawiau. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar newidiadau diweddar a rhai sydd ar...
Bydd gan bobl ledled Cymru y cyfle i ddod yn berchnogion tafarndai, theatrau, swyddfeydd post, caeau chwarae a siopau cornel sydd mewn perygl, diolch i lansiad Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU, a fydd yn gweld mwy na £7 miliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau yng Nghymru. Bydd y gronfa yn para pedair blynedd (hyd 2024/2025). Bydd sawl cylch gwneud cais am arian. Agorodd y cyntaf ar 15 Gorffennaf 2021 a bydd yn...
Yn dilyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae’r broses ar gyfer cwblhau archwiliadau hawl i weithio ar gyfer dinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a’r Swistir wedi newid. Ni all cyflogwyr dderbyn pasbortau neu gardiau adnabod yr UE bellach fel tystiolaeth ddilys o hawl i weithio, ac eithrio ar gyfer rhai dinasyddion o Iwerddon. Yn hytrach, mae angen i chi wirio hawl ymgeisydd am swydd...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.