BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1301 canlyniadau

Wrth gyflogi person ifanc o dan 18 oed, mae cyfrifoldebau cyflogwyr am eu hiechyd, eu diogelwch a’u llesiant yr un fath â’u cyfrifoldebau am weithwyr cyflogedig eraill. Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o fod yn newydd i’r gweithle a gallent wynebu risgiau anghyfarwydd. Mae gweithwyr yr un mor debygol o gael damwain yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y gweithle ag y maent yn ystod gweddill eu bywyd gweithio. Mae gan yr Awdurdod...
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi lansio cylch cyllido newydd i hyrwyddo’r broses o greu rhwydweithiau newydd a chryfhau cyfleoedd rhwydweithio presennol ledled sector y celfyddydau a’r sector diwylliant. Gall rhwydweithiau o bob math – grwpiau lleol/rhanbarthol; grwpiau dan arweiniad artistiaid neu rwydweithiau sydd wedi’u cysylltu gan fath o gelfyddyd neu weithgaredd – wneud cais am grantiau gwerth hyd at £2,000 o’r Gronfa Cydrannu ar gyfer prosiectau sy’n hyrwyddo ac yn cryfhau amrywiaeth a chynhwysiant ledled...
Llythyrau oddi wrth CThEM i fusnesau ym Mhrydain Fawr sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ac sy’n masnachu â’r UE. Mae’r llythyrau hyn yn tynnu sylw at y rheolau newydd, a’r camau newydd i’w cymryd, o ran mewnforio nwyddau o’r UE neu allforio nwyddau i’r UE. Anfonwyd y llythyrau hyn at fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ym Mhrydain Fawr ac sy’n masnachu â’r UE, neu’r UE a gweddill y byd. Maent yn esbonio’r...
Mae Ymddiriedolaeth Ufi VocTech yn gorff dyfarnu grantiau sy’n canolbwyntio ar gynyddu graddfa dysgu galwedigaethol a chefnogi’r gwaith o ddarparu sgiliau galwedigaethol i oedolion trwy dechnoleg ddigidol. Sut mae VocTech yn mynd i’r afael â rhwystrau a chodi pontydd i greu newid sylweddol mewn hyder a chymhelliant dysgwyr, gan arwain at ddeilliannau gwell i’r dysgwr, y cyflogwr a chymdeithas yn gyffredinol? Mae’r Her hon yn canolbwyntio ar oedolion sydd wedi’u heffeithio gan y gagendor digidol...
Cyn hir, bydd Tîm Buddsoddi Cymdeithasol Cymru Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cyflawni trydydd cam Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru. Mae'r gronfa yn barhad o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector gwirfoddol gydol COVID-19. I ddechrau, bydd cam newydd y Gronfa Gwydnwch yn cynnig dros £2 filiwn o gyllid grant ychwanegol, gan ddarparu cyllid refeniw i raddau helaeth. Bydd dwy elfen i gam newydd cronfa gwydnwch y trydydd sector yma yng Nghymru: ‘Goroesi' – sy’n cydnabod...
Mae Portffolio’r DU yn archwilio dulliau gweithredu newydd ac arloesol, gan ddatblygu a phrofi dulliau newydd o greu cymdeithas sifil gryfach. Mae’r cyllid ar gael trwy’r Loteri Genedlaethol ac mae’n cefnogi prosiectau a syniadau sy’n cael effaith ledled y DU ac sy’n canolbwyntio ar newid trawsffurfiol. Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y rhaglenni canlynol: Tyfu Syniadau Gwych Mewn Undod Mae Nerth Caru'n Cynefin Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac eithrio ar gyfer y rhaglen...
Ymunwch â Busnes yn y Gymuned (BITC) Cymru am weminar ryngweithiol yn ymwneud â gwreiddio diben a gwerthoedd yn eich sefydliad, sy’n cael ei gynnal ar 13 Gorffennaf 2021 rhwng 11am a 12pm. Mae’r weminar hon yn gyfle i glywed gan rai o aelodau BITC am y camau ymarferol maen nhw wedi’u cymryd ar eu teithiau busnes cyfrifol, gan gynnwys y llwyddiannau a’r heriau a ddaeth i’w rhan. Dyma’r gyntaf mewn cyfres o weminarau, gyda...
Bydd Innovate UK, rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £460,000 mewn arloeswyr ifanc gyda’r gystadleuaeth hon. Gall pobl ifanc wneud cais am ddyfarniad i roi syniad busnes ar waith, sy’n cynnwys grant o £5,000, lwfans byw, a chymorth busnes wedi’i deilwra. Nod y gystadleuaeth hon yw dod o hyd i grŵp newydd o arloeswyr ifanc a all droi eu syniadau gwych yn fusnesau llwyddiannus. Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i ymgeiswyr...
Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn ei gwneud hi'n ofynnol cadw golwg ar iechyd ar gyfer rhai risgiau iechyd. Mae cadw golwg ar iechyd yn gynllun o wiriadau iechyd a gynhelir yn rheolaidd i nodi afiechydon a achosir gan waith. Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn ei gwneud hi'n ofynnol i chi gadw golwg ar iechyd pan fydd eich gweithwyr yn parhau i wynebu risgiau i iechyd ar ôl i chi roi rheolaethau ar waith...
Hawliwch y pumed grant os ydych yn credu y bydd coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar elw eich busnes rhwng 1 Mai a 30 Medi 2021. Os ydych yn gymwys ar sail eich Ffurflenni Treth, bydd CThEM yn cysylltu â chi o ganol mis Gorffennaf ymlaen i roi dyddiad i chi pan fydd y gwasanaeth hawlio ar gael. Bydd yn cael ei roi i chi naill ai drwy e-bost, llythyr neu drwy’r gwasanaeth ar-lein. Bydd y...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.