BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1341 canlyniadau

Mae seremonïau priodasau a phartneriaethau sifil awyr agored ar fin cael eu cyfreithloni am y tro cyntaf – gan gynnig rhagor o ddewis i gyplau a rhoi hwb i’r sector priodasau. O dan ddeddfau presennol ar gyfer eiddo cymeradwy fel gwesty, mae’n rhaid cynnal y seremoni briodas neu bartneriaeth sifil gyfreithiol mewn ystafell gymeradwy neu adeiledd parhaol. Bydd hyn yn newid fel bod modd i gwpl gynnal y seremoni gyfan y tu allan i leoliad...
Wedi’i leoli yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, mae’r tîm Lles drwy Waith yn cyflwyno Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith ledled Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn darparu Rhaglenni Iechyd yn y Gweithle am ddim i fusnesau bach a chanolig lleol sydd eisiau gweithredu’n rhagweithiol er mwyn hybu a chefnogi iechyd a lles staff. Fel rhan o’u Rhaglenni Iechyd...
Mae gennych tan 6 Gorffennaf 2021 i roi gwybod am dreuliau a buddion a ddarparwyd gennych i bob cyflogai. I gael gwybod beth mae’n rhaid i chi ei nodi ar ffurflenni P11D a P11D(b) i ddatgan treuliau, buddion a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A eich cwmni, a sut i lenwi eich ffurflen P11D 2020 i 2021, ewch i GOV.UK.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Québec wedi lansio galwad ariannu i helpu sefydliadau yng Nghymru a Québec, Canada, i greu trefniadau cydweithredu a phartneriaethau sy'n cyfrannu at yr ymdrechion adfer yn dilyn COVID-19. Rhoddir blaenoriaeth i gynigion sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol: adferiad gwyrdd, yr economi, gwyddoniaeth ac arloesi, a’r celfyddydau a diwylliant. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11.59pm ar 12 Gorffennaf 2021. Cysylltwch â QuebecWalesProjects@llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau am...
Mae modd defnyddio Gofal Plant Di-dreth – tâl atodol gofal plant i rieni sy'n gweithio – er mwyn helpu i dalu am glybiau gwyliau achrededig, gwarchodwyr plant neu weithgareddau chwaraeon. Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa teuluoedd sy'n gweithio y gallant ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth i helpu i dalu am gostau gofal plant dros yr haf. Mae modd defnyddio Gofal Plant Di-dreth – tâl atodol gofal plant i rieni sy'n gweithio – er...
Bydd cronfa newydd sy'n cefnogi adferiad y diwydiant digwyddiadau yn rhoi cymorth ariannol i sefydliadau nid-er-elw sy'n cynnal digwyddiadau busnes domestig rhwng 21 Mehefin ac 17 Rhagfyr 2021. Mae'r Gronfa Cymorth Domestig (Domestic Support Fund) newydd wedi'i chynllunio i gynnig cymorth ariannol i roi hwb cychwynnol i ddigwyddiadau busnes a dangos bod y DU yn barod i gyfarfod eto ac wedi addasu i ffyrdd newydd o gyfarfod mewn amgylchedd COVID-19 diogel. Mae cymorth ariannol yn...
Mae’r marc UKCA (Marc Asesiad Cydymffurfiaeth y DU) yn farc cynnyrch DU newydd a ddefnyddir ar gyfer nwyddau sy’n cael eu gosod ar y farchnad yn Ynysoedd Prydain (Cymru, Lloegr a’r Alban). Mae’n cwmpasu’r rhan fwyaf o nwyddau yr oedd angen rhoi marc y CE arnynt, a elwir yn nwyddau ‘dulliau newydd’. Daeth marc UKCA i rym ar 1 Ionawr 2021. Fodd bynnag, er mwyn rhoi amser i fusnesau addasu i’r gofynion newydd, byddwch yn...
Bydd Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg yn cael ei gynnal ar 23 Mehefin 2021. Ymgyrch ymwybyddiaeth ryngwladol yw'r diwrnod i godi proffil menywod ym maes peirianneg ac mae’n hoelio sylw ar y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael i ferched yn y diwydiant hwn. Mae’n dathlu llwyddiannau nodedig peirianwyr benyw ledled y byd. Os yw eich busnes am gymryd rhan, ewch i wefan Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg am wybodaeth ac adnoddau.
Ddydd Gwener 18 Mehefin 2021, bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi na fydd rheolau’r coronafeirws yn newid am bedair wythnos arall er mwyn helpu i ddiogelu rhag yr amrywiolyn delta newydd. Bu Llywodraeth Cymru yn adolygu sefyllfa iechyd y cyhoedd yr wythnos hon, hanner ffordd drwy’r cylch tair wythnos presennol o reoliadau, ar ôl cyhoeddi y byddai’n symud fesul cam i lefel rhybudd un. Cafodd y rheolau ynghylch gweithgareddau a digwyddiadau mwy yn...
Ymgyrch yw Hyb Hinsawdd Busnes y DU sy’n gofyn i fusnesau bach y DU gyda hyd at 250 o weithwyr i ymuno yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd drwy ymrwymo i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Wrth ymrwymo, byddwch yn cael yr adnoddau i’ch helpu i ddeall eich allyriadau, sut i fynd i’r afael â nhw a sut i rannu’r hyn rydych chi’n ei wneud gyda’ch cwsmeriaid a’ch cymuned. Am ragor o wybodaeth, ewch...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.