BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1381 canlyniadau

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) gyda chymorth rhanddeiliaid y diwydiant wedi cydweithio i gyhoeddi Pecyn Cymorth Siarad am Straen cysylltiedig â Gwaith ar gyfer y sector adeiladu. Mae dechrau’r sgwrs yn gam cyntaf pwysig i atal straen cysylltiedig â gwaith, a bydd y pecyn cymorth yn helpu i wneud hynny. Mae’r pecyn cymorth wedi’i baratoi’n bennaf ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd ganddynt weithlu rheolaidd (cyflogedig a chontract) ac sy’n awyddus i...
Manylion y cyfraddau a'r trothwyon pan fyddwch yn gweithredu eich cyflogres neu'n darparu treuliau a buddion i'ch cyflogeion. Defnyddiwch y dolenni canlynol ar gyfer: Treth TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Trothwyon, cyfraddau a chodau treth Trothwyon Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: treuliau a buddion Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: dyfarniadau terfynu a thaliadau tysteb chwaraeon Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B: Cytundebau Setliad TWE (PSA) Isafswm Cyflog Cenedlaethol...
P’un ai’ch bod yn gweithio i chi’ch hun neu’n rhedeg busnes gyda gweithwyr, ni ddylai seiberddiogelwch godi ofn arnoch. Mae gan y National Cyber Security Centre (NCSC) gyngor a gwybodaeth ar gyfer busnesau bach a chanolig (BBaCh). Mae NCSC newydd lansio eu sesiynau e-ddysgu Cyber Security for Small Organisations ac awgrymiadau gwych i staff, sy’n caniatáu i chi gynnwys y pecyn yn rhan o hyfforddiant eich sefydliad chi. I gael rhagor o fanylion am seiberddiogelwch...
Yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae mwy o alw wedi bod am hylif diheintio dwylo a chynhyrchion diheintio arwynebau. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ganllawiau i gyflogwyr sy'n darparu hylif diheintio dwylo i'w gweithwyr ac eraill ei ddefnyddio yn eu gweithleoedd, ac ar gyfer gweithgynhyrchwyr hylif diheintio dwylo a diheintyddion arwynebau sy’n bodoli eisoes a rhai newydd. Gall y canllawiau ar ddewis hylif diheintio dwylo fod yn ddefnyddiol i aelodau'r...
Ymunwch â’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), Innovate UK a KTN, am fanylion ffenestr y gwanwyn o gyllid gan y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol ac i arddangos rhai o’r prosiectau a gyllidwyd yng Ngham 1 y Gronfa. Mae’r cyllid ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn werth hyd at £40 miliwn. Bydd ar gael ar ffurf cynllun grant a bydd yn cyllido: defnydd technolegau effeithlonrwydd ynni aeddfed. astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg Bydd...
Bydd y gronfa’n darparu cymorth ar ffurf grantiau arian parod i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd wedi cael effaith negyddol sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus COVID-19. Bydd y grantiau'n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021. Yn benodol, bydd y gronfa’n cefnogi busnesau sydd naill ai: a) Yn gorfod aros ar gau gan gyfyngiadau...
Bydd Innovate UK, fel rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £2.5 miliwn mewn prosiectau arloesi. Nod y Gronfa Diwydiannau Creadigol yw darparu pecyn o gymorth wedi'i dargedu ar gyfer twf fel y gall busnesau creadigol uchelgeisiol gyrraedd eu potensial. Gall busnesau micro a bach sydd wedi cofrestru yn y DU yn y sector creadigol wneud cais am becyn cymorth i ddatblygu eu busnes. Mae'r pecyn yn cynnwys cymorth parhaus gan Innovate...
Y dyddiad i’w gofio ar gyfer y gwobrau eleni yw 23 Medi 2021 a bydd y gwobrau’n rhoi sylw pendant i’r bobl sy’n rhan o’r sector Technoleg Ariannol dawnus yng Nghymru. Y categorïau eleni yw: Cwmni Technoleg Ariannol Newydd Cwmni Technoleg Ariannol Cwmni Technoleg Ariannol sy'n Tyfu Arweinydd Technoleg Ariannol Cynnyrch Newydd Arwr/Arwyr COVID Rhaglen Academaidd Orau sy'n Cefnogi Cwmnïau Technoleg Ariannol/Gwasanaethau Ariannol Cwmni Cynghori Gorau Seren Technoleg Ariannol Newydd Cyflymydd / Deorydd Gorau Cyfranogiad...
Rhaglen 8 wythnos sydd yma i'ch helpu chi i gychwyn eich busnes, gyda phopeth o gynllunio busnes, i ariannu, i gymuned o gefnogaeth y tu ôl i chi! Gweithredwch, dechreuwch Miwtini yn eich bywyd, dechreuwch eich busnes! Mae ein Miwtini nesaf mewn partneriaeth â The Design Trust a DVSC Change Makers Market. Mae'r Miwtini hwn yn canolbwyntio ar fusnesau Creadigol a Digidol, a bydd wedi'i gynllunio'n benodol i'r rhai sy'n cychwyn neu'n tyfu busnes yn...
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) yn elfen graidd o gynnig Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Cymru i fusnesau. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynnydd yn ei chyfraniad cyllid ar gyfer Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth i’w gwneud yn fwy hygyrch a chost-effeithiol i BBaChau yng Nghymru, ac er mwyn annog mwy o fusnesau i elwa ar y rhaglen. Yn y lle cyntaf, 27 Ionawr 2021 oedd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ond mae wedi’i ymestyn i 30 Mehefin 2021...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.