BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1401 canlyniadau

Rhaglen bum mlynedd i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sectorau sgrin a newyddion yng Nghymru yw Clwstwr. Mae'r alwad agored hon eisiau cefnogi datblygiadau arloesol sy’n cynnig budd economaidd – yn creu, yn cynnal ac yn datblygu busnesau – ac sy'n gwneud y byd yn lle gwell (yn fwy doeth, iach, cynhwysol a diddorol). Mae Clwstwr ar gyfer busnesau, sefydliadau a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sgrin, cadwyni cyflenwi cysylltiedig, yn ogystal...
Bydd gweminarau Rhwydwaith Arloesi Made Smarter yn rhoi sylw i deithiau gweithgynhyrchwyr sydd wedi bod yn arloesol wrth fabwysiadu technolegau digidol i wella perfformiad, ochr yn ochr â darparwyr technoleg ddigidol sydd wedi creu atebion arloesol i gynorthwyo taith y gweithgynhyrchwyr hynny. Mae’r gweminarau’n cynnwys: New Product Development – 18 Mai 2021 Quality Management – 25 Mai 2021 Mass Customisation – 1 Mehefin 2021 Circular Economy – 8 Mehefin 2021 Design for Manufacture – 15...
Horizon Ewrop sy'n olynu Horizon 2020 fel rhaglen ymchwil ac arloesi flaenllaw nesaf yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cael ei chynnal rhwng 2021 a 2027 gyda chyllideb gwerth tua €100 biliwn. Gan fod y DU yn Wlad Gysylltiedig, gall ymchwilwyr, busnesau a sefydliadau eraill yng Nghymru gymryd rhan yn Horizon Ewrop ar delerau cyfatebol i rai’r aelod-wladwriaethau. Mae cyfleoedd ymgeisio cyntaf Horizon Ewrop ar agor ac mae sefydliadau'r DU yn gymwys i wneud cais. Am ragor...
Bydd busnesau yng Nghymru sy’n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau’r coronafeirws yn gallu hawlio hyd at £25,000 yn rhagor o gefnogaeth i helpu i dalu costau parhaus. Bydd y pecyn cymorth diweddaraf hwn yn helpu'r busnesau hynny sy'n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau, i dalu costau parhaus hyd at ddiwedd mis Mehefin wrth iddynt baratoi ar gyfer ailagor ac amodau masnachu mwy arferol. Mae’r busnesau a all elwa’n cynnwys y canlynol...
Ar gyfer busnesau gyda 10 neu fwy o weithwyr Bydd y gefnogaeth i brofion asymptomatig rheolaidd mewn gweithleoedd yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn canolbwyntio ar weithleoedd gyda mwy na 10 o weithwyr nad ydynt yn gallu gweithio gartref. Dylid cyflwyno ymholiadau cychwynnol a datganiadau o ddiddordeb ar brofion yn y gweithle i fewnflwch Profion COVID-19 yn y gweithle: COVID19.ProfiYnYGweithle@llyw.cymru Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o weminarau dros yr wythnosau...
Gall Coronafeirws (COVID-19) achosi symptomau sy’n para wythnosau neu fisoedd i rai ar ôl i’r haint fynd. Yn aml defnyddir y term COVID hir ar gyfer hyn ac mae’n cael effaith ar fusnesau wrth i weithwyr sydd wedi’u heffeithio geisio dychwelyd i’r gwaith. Mae ACAS wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer cyflogwyr am yr effaith y gallai Covid hir ei chael ar weithwyr. Mae’r canllawiau yn rhoi arweiniad ymarferol i gyflogwyr ar reoli gwahanol effeithiau'r cyflwr...
Darparwyd hyfforddiant Traceostomi cyn Covid-19 trwy gyfuniad o addysg ar-lein a hyfforddiant efelychu wyneb yn wyneb; fodd bynnag, mae'r elfen wyneb yn wyneb wedi mynd yn fwyfwy anodd yn yr hinsawdd bresennol oherwydd heriau cadw pellter cymdeithasol, diffyg cyfleusterau hyfforddi a'r angen i hunanynysu. Yn y gorffennol, mae hyfforddiant wedi'i ddarparu 1:1 gan ddefnyddio dull efelychu cywair isel gyda model syml o berson, nad yw'n debyg mewn unrhyw ffordd i'r amgylchedd clinigol. Prin iawn fu...
Mae rhaglen y gwanwyn Gŵyl y Gelli, sy’n 34 oed eleni, wedi’i lansio. Eleni, bydd yr ŵyl yn darlledu am ddim ar-lein o’r Gelli Gandryll i’r byd rhwng 26 Mai 2021 a 6 Mehefin 2021. Dros 12 diwrnod, bydd dros 200 o awduron cydnabyddedig, llunwyr polisïau byd-eang, haneswyr, beirdd, arloeswyr a dyfeiswyr yn ymuno â Gŵyl Rithwir y Gelli i ysbrydoli, archwilio a diddanu mewn digwyddiadau ar gyfer pob oed. Bydd pob digwyddiad yn cael...
Trefnir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a bydd yn digwydd rhwng 10 Mai a 16 Mai 2021. Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yw wythnos cenedlaethol y DU i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a phroblemau iechyd meddwl ac mae’n ffordd o ysgogi pobl i weithredu er mwyn hyrwyddo’r neges bod iechyd meddwl yn bwysig i bawb. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl.
Mae'r ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu i gleifion allanol yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o Drawsnewid i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu i gleifion mewn ffordd ddarbodus sy'n seiliedig ar werth ar gyfer model gofal iechyd cynaliadwy yn y dyfodol. Mae COVID wedi arwain at ôl-groniad sylweddol o ran adolygu atgyfeiriadau gofal eilaidd ac oherwydd na fydd y capasiti'n cyfateb i'r galw, ceisir ffyrdd arloesol o reoli cleifion yn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.