BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1511 canlyniadau

Bydd y cyfyngiadau ‘aros gartref’ yn parhau yng Nghymru wrth i’r plant lleiaf ddechrau mynd yn ôl i’r ysgol o ddydd Llun 22 Chwefror 2021. Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau’r coronafeirws, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd newidiadau bach i’r rheolau presennol: O ddydd Sadwrn 20 Chwefror, bydd pedwar person o ddwy aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod y tu allan i wneud ymarfer corff yn lleol gan gadw pellter wrth ei gilydd. Nid yw hyn...
A wnaeth eich cwmni arwain prosiect llwyddiannus rydych chi'n falch iawn ohono? Oes gennych chi gydweithiwr arbennig sy’n haeddu cydnabyddiaeth? Yna beth am gymryd rhan yng Ngwobrau Ffederasiwn Bwyd a Diod 2021. Dyma gategorïau'r gwobrau: prentis y flwyddyn lansiad brand y flwyddyn gwydnwch busnes ymgyrch y flwyddyn partner cymunedol deiet ac iechyd menter addysg busnes sy'n dod i’r amlwg arweiniad amgylcheddol allforiwr y flwyddyn peiriannydd bwyd a diod y flwyddyn technolegydd bwyd a diod /...
Newydd: Canllawiau cam wrth Gam ar fewnforio ac allforio nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r UE: Mae rheolau newydd ar gyfer mewnforio ac allforio nwyddau rhwng Prydain Fawr a gwledydd yn yr UE. Waeth a ydych yn cwblhau datganiadau tollau eich hun neu'n cael cyfryngwr i wneud hynny ar eich rhan, bydd y canllawiau hyn yn eich tywys chi drwy bob cam ac yn nodi eich opsiynau. Mewnforio nwyddau i'r DU: cam wrth gam: Sut i...
Bydd Wythnos Cymru yn Llundain yn cael ei chynnal yn ystod wythnos Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain. Digwyddiad blynyddol yw hwn, lle cynhelir gweithgareddau a digwyddiadau i ddathlu a hybu popeth sy’n wych am Gymru. Eleni. fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau oherwydd y Coronafeirws yn golygu y bydd rhaid canolbwyntio ar weithgareddau rhithiol rhwng 20 Chwefror a 7 Mawrth 2021. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Wythnos Cymru yn Llundain.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n ffurfiol i lansio Cronfa Cymorth Llifogydd, sydd ar gael i BBaChau yng Nghymru (gan gynnwys unig fasnachwyr a microfusnesau) i'w helpu i adfer eu busnesau yn dilyn difrod ac aflonyddwch stormydd Bella a Christoph. Gall busnesau sy'n ceisio dod dros effeithiau dinistriol y llifogydd wneud cais am grant o £2,500 i'w helpu gyda chostau uniongyrchol cyn gynted â phosibl. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i'r Gronfa Cymorth...
Mae'r gystadleuaeth First of a Kind yn cynnig cyfran o wobr o £9 miliwn am syniadau ar gyfer rheilffyrdd y dyfodol, i ddatblygu arddangoswyr sy'n: cynyddu hyder cwsmeriaid a gwella eu profiad darparu rheilffordd sy'n hawdd ei defnyddio cynnig allyriadau isel a rheilffordd wyrddach I arwain prosiect, rhaid i chi: fod yn sefydliad o unrhyw faint sydd wedi'i gofrestru yn y DU, yr UE neu'r AEE cyflawni eich gwaith prosiect yn y DU Croesewir ymgeiswyr...
Mae tîm arloesedd Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad rhithwir i helpu BBaChau i gael at y cyllid a’r cymorth i’w galluogi i fuddsoddi mewn technoleg newydd a chryfhau eu dyfodol. Bydd y digwyddiad rhithwir ar 17 Mawrth 2021 yn dangos sut mae busnesau yng Nghymru wedi trawsnewid trwy gyllid y llywodraeth a thrwy fabwysiadu agwedd arloesol at dechnoleg. Bydd y cynrychiolwyr hefyd yn clywed yn uniongyrchol gan bobl fusnes sydd eisoes wedi elwa o weithio...
Y diweddaraf am ganllawiau Cyfleusterau Ffiniau Mewndirol (IBF): Yn dilyn adborth gan ddiwydiant, mae Cyllid a Thollau EM wedi adolygu'n drylwyr yr holl dudalennau canllaw sy'n ymwneud â Chyfleusterau Ffiniau Mewndirol, gan gynnwys: ei gwneud hi'n glir pa ddogfennaeth sydd ei hangen ar safleoedd; pa safleoedd sydd ar gael ledled y wlad; ynghyd ag anogaeth i ddefnyddio safleoedd ar wahân i Waterbrook. Yn ogystal, mae Cyllid a Thollau EM wedi cynnwys gwybodaeth am ganllawiau penodol...
Daeth y cyfnod pontio â’r Undeb Ewropeaidd (UE) i ben ar 31 Rhagfyr 2020, a bydd rheolau mewnforio newydd yn cael eu cyflwyno fesul cam rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2021. Ym mis Ebrill, bydd cyfres arall o newidiadau yn dod i rym yn ymwneud ag allforion cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl o’r UE i Brydain, fel yr amlinellwyd yng Nghynllun Gweithredu'r Ffin. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar allforion...
Mae CThEM yn cyhoeddi’r bwletin i gyflogwyr 6 gwaith y flwyddyn, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ar bynciau a materion a allai effeithio arnynt. Mae bwletin mis Chwefror yn cynnwys amrywiaeth o bynciau yn cynnwys: Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. Cynllun talu newydd gohirio talu TAW – optio i mewn o ddiwedd Chwefror 2021. Tâl rifersiwn TAW ar gyfer adeiladu a gwasanaethau adeiladu. Paratoi ar gyfer newidiadau treth os...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.