BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1551 canlyniadau

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Kickstart i greu lleoliadau gwaith newydd am gyfnod o 6 mis ar gyfer pobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor. Mae Llywodraeth y DU wedi cael gwared ar y trothwy o 30 swydd ar y cynllun Kickstart. Os ydych chi’n gyflogwr sydd am greu 29 neu lai o leoliadau gwaith i bobl ifanc, gwnewch gais am gyllid fel rhan o’r Cynllun Kickstart...
Mae NatWest wedi cyhoeddi £1 biliwn ychwanegol mewn cyllid i helpu i gefnogi busnesau sy’n cael eu harwain gan fenywod wrth i’r DU ddod dros y coronafeirws. Y nod yn y pen draw yw helpu entrepreneuriaid benywaidd yn y DU i ehangu a thyfu ac mae’n adeiladu ar y £1 biliwn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020. Bydd y cyllid ychwanegol yn agored i gwsmeriaid hen a newydd. Gallwch ddarllen y cyhoeddiad llawn ar wefan...
O feddwl am arian, mae angen i bob busnes sydd â’r potensial i dyfu reoli ei arian. Tra bod y rhan fwyaf o fusnesau’n llyncu arian, mae busnesau sy’n sydd â’r potensial i dyfu yn ei draflyncu’n awchus. Yn y mwyafrif o achosion, mae busnesau’n methu, nid oherwydd diffyg elw, ond oherwydd nad oes digon o arian ganddynt. Mae’n hen ystrydeb gyfarwydd ond wir mai arian yw’r gwaed sy’n rhedeg trwy wythiennau busnes. Felly trysorwch...
O 1 Chwefror, bydd defnyddwyr yr ap sy’n cael gwybod eu bod wedi dod i gysylltiad â’r feirws, ac sydd ar incwm isel ac mewn perygl o ddioddef caledi ariannol yn gymwys ynghyd â’r bobl sydd wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, neu rieni y mae lleoliad addysg wedi gofyn i’w plentyn hunanynysu. I fod yn gymwys i wneud cais, bydd angen i ddefnyddwyr yr ap fodloni meini prawf y...
Mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed eich barn ar strategaeth gwefru Cerbydau Trydan. Mae’r strategaeth yn bwriadu: cynorthwyo gyda’r nifer sy’n defnyddio cerbydau trydan a hybrid gwella’r seilwaith gwefru presennol helpu gyda’r newid i allyriadau sero-net Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 24 Chwefror 2021. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan LLYW.Cymru.
Mae gŵyl banc ychwanegol wedi’i chyhoeddi i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn 2022. Bydd Penwythnos Gŵyl Banc mis Mai yn cael ei symud i ddydd Iau 2 Mehefin 2022 a bydd Gŵyl Banc ychwanegol ddydd Gwener 3 Mehefin 2022. I gael mwy o wybodaeth am Ŵyl Banc mis Mehefin 2022, ewch i wefan GOV.UK
Ar ôl i’r DU ymadael ag Ewrop ar 31 Rhagfyr 2020, mae CThEM wedi cyhoeddi rhifyn Pontio’r DU o’r Bwletin Cyflogwyr. Mae’r rhifyn yn cynnwys crynodeb o wybodaeth a chefnogaeth a gyhoeddwyd yn flaenorol i ddal ati i gefnogi busnesau. Yn y rhifyn hwn, gallwch ddysgu am: Rheolau newydd ar gyfer masnachu gydag Ewrop Rheolau newydd ar gyfer teithwyr busnes Datganiadau arian parod Rheolau newydd ar gydlynu nawdd cymdeithasol Cael rhagor o wybodaeth ac anfon...
Mae y Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd cyfyngiadau symud lefel rhybudd pedwar yn parhau yng Nghymru am dair wythnos arall er mwyn rhoi cyfle i'r GIG adfer. Mae grantiau Ardrethi Annomestig a grantiau Dewisol i Fusnesau dan Gyfyngiadau ar gyfer y sectorau manwerthu dianghenraid, lletygarwch, twristiaeth a hamdden wedi'u hymestyn i ddarparu un taliad ychwanegol i dalu am y cyfnod rhwng 25 Ionawr a diwedd Mawrth 2021 ar gyfer busnesau y mae cyfyngiadau cenedlaethol...
Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau penodol ar bryd y dylech wneud adroddiad RIDDOR (dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus) ar COVID-19. Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y dylech chi wneud adroddiad dan RIDDOR yn ymwneud â’r coronafeirws: pan fo damwain anfwriadol yn y gwaith wedi rhoi rhywun mewn perygl o ddod i gysylltiad posibl neu wirioneddol â’r coronafeirws, mae’n rhaid cofnodi hyn fel digwyddiad peryglus pan...
Cynhelir Wythnos Prentisiaethau rhwng 8 a 14 Chwefror 2021. Mae'n ddathliad blynyddol o brentisiaethau, a'r gwerth y maent yn ei roi i gyflogwyr a dysgwyr, ar draws Cymru. Mae prentisiaethau yn caniatáu i fusnesau recriwtio talent newydd, sy’n awyddus i ddysgu, gan lenwi bylchau sgiliau mewn ffordd gosteffeithiol a galluogi dysgwyr, o bob oed, i wella eu sgiliau. Mae Wythnos Prentisiaethau, sy’n dod â phrentisiaid, darparwyr hyfforddiant, rhieni a chyflogwyr at ei gilydd, yn amlygu'r...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.