BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1651 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau am y rheolau coronafeirws fydd yn eu lle o 6pm ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2020. Mae'r canllawiau'n cynnwys: Rheolau nes 4 Rhagfyr Cyffredinol Gweld pobl eraill yn eich cartref Cwrdd â phobl y tu allan i'r cartref Hunanynysu Gwaith Addysg a gofal plant Iechyd a gofal cymdeithasol Ymweld â lleoedd Bwytai, caffis a thafarndai Casglu gwybodaeth gyswllt Celfyddadau ac adloniant Teithio a thrafnidiaeth gyhoeddus Siopa a bwyd Gorchuddion wyneb...
Hawlio cyfran o gyflogau eich gweithwyr cyflogedig os ydych chi wedi'u rhoi ar ffyrlo neu ffyrlo hyblyg oherwydd y coronafeirws (COVID-19). Gweler isod y dyddiadau cau misol ar gyfer hawlio: Hawlio am ddyddiau ffyrlo yn Rhaid cyflwyno'r hawliad erbyn Tachwedd 2020 14 Rhagfyr 2020 Rhagfyr 2020 14 Ionawr 2021 Ionawr 2021 15 Chwefror 2021 Chwefror 2021 15 Mawrth 2021 Mawrth 2021 14 Ebrill 2021 I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Cynhelir Cynhadledd flynyddol ‘Mae Gogledd Cymru ar Agor i Fusnes’ ar-lein eleni. Bydd sesiwn holi ac ateb gyda pherchnogion busnes sydd wedi mynychu’r rhaglen Rheolaeth ac Arweinyddiaeth 20Twenty, ynghyd ag arweinyddiaeth ION, gyda chyfle i glywed am y ffyrdd arloesol y maen nhw wedi newid ac addasu eu busnesau a sut mae’r dyfodol yn edrych. Bydd pob math o faterion a phynciau yn cael eu trafod, gyda goleuni’n cael ei daflu ar arweinyddiaeth a syniadau...
Gŵyl Fintech Singapore 2020 yw’r digwyddiad Technoleg Ariannol mwyaf yn y byd, gan gynnig platfform i’r gymuned FinTech gysylltu, cydweithredu a chreu ar y cyd. Mae ar gyfer pawb – os ydych chi’n dechrau arni, yn gwmni technoleg, yn fuddsoddwr, yn sefydliad ariannol, yn sefydliad ymchwil neu’n arloeswr proffesiynol. Bydd y digwyddiad Hybrid ar-lein am 24 awr y dydd am 5 diwrnod gyda dros 40 o ddigwyddiadau lloeren byd-eang mewn hybiau FinTech bedwar ban byd...
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach (SBS) eleni, diwrnod lle caiff siopwyr eu hannog i wario gyda chwmnïau lleol, ar 5 Rhagfyr 2020. P’un a ydych chi’n fusnes teuluol, yn siop leol, yn fusnes ar-lein, yn gyfanwerthwr, yn wasanaeth busnes neu’n weithgynhyrchwr bach, mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn eich cefnogi chi! I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Dydd Sadwrn y Busnesau Bach.
Bydd cyfnod Pontio’r DU yn dod i ben ar 1 Ionawr 2021. Mae angen i fusnesau sy’n gweithio gyda chemegion sicrhau eu bod yn barod ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Mae’r canllawiau diweddaraf ar sut y gall Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio ar gael ar dudalennau gwe’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys: Y drefn BPR (awdurdodi sylweddau a chynhyrchion bioladdol) Y drefn CLP (dosbarthu, labelu...
Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau wedi parhau i fonitro pensiynau gydol argyfwng y pandemig, gan sicrhau eu bod yn cefnogi cyflogwyr a’r rhai sy’n cynilo yn ystod y cyfnod anodd hwn. Efallai bod eich busnes wedi newid yn sgil COVID-19, ond nid yw eich cyfrifoldebau tuag at eich staff wedi newid. Mae’n rhaid i chi: Barhau i asesu a rhoi pensiwn i staff cymwys Parhau i wneud y cyfraniadau cywir ar amser Cwblhau eich dyletswyddau ail-ymrestru a’ch...
Canllawiau ar gyfer Cludwyr a Gyrwyr Masnachol: Mae’r Llawlyfr ar gyfer Cludwyr wedi’i gyhoeddi fel siop un stop ar gyfer gwybodaeth allweddol am sut i baratoi cerbydau a’r cynnyrch a gludir ganddynt er mwyn parhau i deithio’n ddirwystr ar draws y ffin a helpu i leihau unrhyw amharu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK. Gwybodaeth am Ddiogelwch Trwyddedau ar ôl 1 Ionawr 2021: Mae gwybodaeth wedi’i chyhoeddi am ddiogelwch trwyddedau mewnforio ac...
Dyma'r dyddiadau postio olaf a argymhellir i bob gwasanaeth ar gyfer cyfeiriadau yn y DU: Dydd Gwener 18 Rhagfyr 2020 – 2il Ddosbarth ac 2il Ddosbarth y Llofnodir Amdano Dydd Llun 21 Rhagfyr 2020 – Dosbarth 1af a Dosbarth 1af y Llofnodir Amdano a Royal Mail Tracked 48* Dydd Mawrth 22 Rhagfyr 2020 – Royal Mail Tracked 24* Dydd Mercher 23 Rhagfyr 2020 – Special Delivery Guaranteed Nid yw gwasanaeth *Royal Mail Tracked 24 a...
Mae gwybod sut i adnabod arwyddion peryglus sylweddau niweidiol a sut i reoli sylweddau o’r fath yn ddiogel yn allweddol i ddiogelu gweithwyr rhag niwed. Mae'r Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gyflogwyr reoli sylweddau a allai achosi niwed yn y gweithle. Mae’r poster Trafod Cemegau yn Ddiogel y Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd yn darparu canllawiau hanfodol ar sut i drin a thrafod cemegau’n ddiogel yn y...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.