BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1691 canlyniadau

Mae’r platfform codi arian Work for Good yn lansio ymgyrch cyllid cyfatebol Small Business Star i helpu busnesau bach i godi mwy o arian nag erioed i elusennau'r Nadolig hwn. Bydd yr ymgyrch #SmallBusinessStar yn dyblu rhoddion rhwng 1 a 31 Rhagfyr 2020, hyd at werth £500 y busnes. Bydd angen i fusnesau bach gofrestru ar gyfer Work for Good a rhoi addewid i roi cyfran o werthiant eu cynhyrchion neu eu gwasanaethau i elusen...
Bydd y ffordd yr ydych yn mewnforio ac yn allforio i'r gwledydd canlynol yn newid o 1 Ionawr 2021 ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o fanylion: Gwledydd yr Andes Moroco Taleithiau'r Môr Tawel Gwladwriaethau Dwyrain a De Affrica (ESA) Chile Awdurdod Palesteina Gwlad yr Iorddonen Georgia Aelod-wladwriaethau Undeb Tollau De Affrica a Mozambique (SACUM) Canol America Ynysoedd Ffaroe Kosovo Y Swistir Libanus Taleithiau CARIFORUM Israel Tiwnisia Eglurir darpariaethau Cytundeb Partneriaeth Economaidd...
Bydd seibiant treth o £1 miliwn i sbarduno buddsoddi yn sector gweithgynhyrchu’r DU yn cael ei ymestyn. Gall busnesau, gan gynnwys cwmnïau gweithgynhyrchu, ddal ati i hawlio hyd at £1 miliwn mewn rhyddhad treth yn yr un flwyddyn drwy’r Lwfans Buddsoddi Blynyddol ar gyfer buddsoddi cyfalaf mewn safleoedd ac asedau peiriannau hyd 1 Ionawr 2022. Yn wreiddiol, y bwriad oedd newid yr estyniad i’r terfyn £1 miliwn dros dro yn ôl i £200,000 ar 1...
Ar 19 Tachwedd 2020 bydd Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn dathlu'r gwerth cadarnhaol mae dynion yn ei gynnig i'r byd, i’w teuluoedd ac i'w cymunedau. Mae'r diwrnod yn tynnu sylw at fodelau rôl cadarnhaol ac yn codi ymwybyddiaeth o lesiant dynion. Ar lefel leol, gall pobl, elusennau, cyflogwyr a sefydliadau benderfynu defnyddio unrhyw feysydd, materion neu weithgareddau o’u dewis i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion. I'w helpu i gael syniadau, fe wnaeth llawer o bobl...
Mae'r DU wedi gadael yr UE, ac mae'r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni. Daw Protocol Gogledd Iwerddon i rym o 1 Ionawr 2021 ymlaen. Cyhyd ag y bydd mewn grym, bydd Gogledd Iwerddon yn cyd-fynd â holl reolau perthnasol yr UE sy'n ymwneud â rhoi nwyddau a weithgynhyrchwyd ar y farchnad. Rhaid i chi ddangos bod eich cynnyrch yn bodloni'r rheolau hynny drwy ddefnyddio 'marciau cydymffurfio.’ Mae marciau UKNI yn...
Mae’r alwad am dystiolaeth, sy’n gymwys i Gymru, yr Alban a Lloegr, yn ceisio barn ar heriau i ddatblygu mewn sectorau cyflog isel, manteision datblygu i gyflogwyr ac ardaloedd, ac enghreifftiau o arferion da ledled y wlad. Mae’r alwad am dystiolaeth yn gwahodd barn ar y canlynol: Rhwystrau penodol i gynnydd ym meysydd manwerthu, lletygarwch, adeiladu, gwasanaethau cymorth busnes a gwaith gofal Effaith llwybrau datblygu a mentrau eraill ar fusnesau Manteision nodi a meithrin doniau...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £15.7 miliwn arall yn cael ei roi er mwyn cynyddu maint y gweithlu olrhain cysylltiadau yng Nghymru ar gyfer y gaeaf. I ddarllen y datganiad llawn ewch i wefan Llyw.Cymru. Cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol ar gyfer COVID-19 Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru canllawiau cymorth i weithwyr gofal a fydd yn gorfod aros adref o'r gwaith oherwydd achos gwirioneddol o COVID-19 neu achos a amheuir fod COVID-19 arnynt...
Mae canllawiau newydd ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar gael. Gallwch wneud cais am CJRS ar-lein nawr ar gyfer cyfnodau o 1 Tachwedd 2020 a bydd angen i chi gyflwyno unrhyw geisiadau ar gyfer mis Tachwedd erbyn 14 Rhagfyr 2020. Does dim angen i chi a'ch gweithwyr fod wedi elwa ar y cynllun o'r blaen i wneud cais am gyfnodau o 1 Tachwedd 2020. Bellach, mae terfynau amser misol...
Mae fframwaith sancsiynau’r DU yn newid, mae cyfundrefnau sancsiynau presennol yr UE yn cael eu trosglwyddo i gyfraith y DU drwy reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Sancsiynau a Gwrth-wyngalchu Arian 2018. Ni fydd sancsiynau’r UE yn gymwys mwyach yn y DU o 11pm ar 31 Rhagfyr 2020. Mae Llywodraeth y DU yn cynnal cyfres o weminarau i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r ddeddfwriaeth a’r prosesau newydd effeithio ar eich gwaith, a’r hyn y...
Mae Gwobrau Rushlight 2020-21 bellach ar agor i geisiadau ac maen nhw wedi’u llunio’n benodol i gefnogi a hyrwyddo’r holl dechnolegau glân diweddaraf, syniadau arloesol, mentrau a phrosiectau defnydd ar gyfer busnesau a sefydliadau ledled y DU, Iwerddon ac yn rhyngwladol. Mae Gwobrau Rushlight ar agor i bob math o sefydliadau ar unrhyw gyfnod o’u datblygiad corfforaethol, gan gynnwys dyfeiswyr unigol, cyw-gwmnïau, elusennau, prifysgolion, BBaChau, cwmnïau wedi’u dyfynnu a mentrau amlwladol. Mae’r categorïau yn cynnwys...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.