BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1761 canlyniadau

Bydd y cyfnod atal byr yn dechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref 2020 ac yn dod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Bydd yn berthnasol i bob un sy’n byw yng Nghymru a bydd yn dod yn lle’r cyfyngiadau lleol sydd ar waith ar hyn o bryd mewn rhai rhannau o’r wlad. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn o bron i £300m i gefnogi busnesau, a bydd y cyllid hwn yn cyd-fynd â’r...
Yn ddiweddar, lluniodd Tîm Allforio Llywodraeth Cymru gyfres o weminarau oedd â’r nod o gefnogi allforwyr o Gymru i baratoi ar gyfer diwedd cyfnod pontio’r UE. Fe’i darparwyd mewn partneriaeth ag ymgynghorwyr masnach rhyngwladol a Siambr Masnach De Cymru a thrafodwyd y pedwar pwnc canlynol: Brexit – Deall Rheolau Tarddiad: Defnyddir Rheolau Tarddiad i ddiffinio ymhle y gwnaed cynnyrch ac mae’n pennu’r doll mewnforio sy’n berthnasol iddynt. Mae’r ffaith syml hon ar fin dod yn...
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi gweithio gyda'r CIPD i gyhoeddi canllawiau newydd i gyflogwyr ar sut i adnabod a chefnogi staff sy'n profi cam-drin domestig. Yn sgil pandemig y coronafeirws, gall dioddefwyr fod â llawer llai o lwybrau dianc neu amser ar wahân oddi wrth y camdriniwr. O ganlyniad, mae angen i gyflogwyr ystyried ymhellach y cymorth y gallant ei gynnig i unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig. Nid oes disgwyl i...
Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd sbon sydd wedi’u llunio i atal terfysgwyr rhag cael mynediad at gerbydau masnachol. Mae’r canllawiau yn nodi’r camau syml y dylai gweithredwyr a gyrwyr trafnidiaeth eu cymryd i hyrwyddo diwylliant diogelwch da yn eu sefydliadau a helpu i gadw cerbydau’n saff a gweithwyr yn ddiogel. Mae’n cynnwys rhestr wirio diogelwch sy’n darparu cyngor i yrwyr er mwyn lleihau’r risg y gallai eu cerbydau gael eu dwyn i’w defnyddio...
Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws Mae’r grant yn cael ei ymestyn o 1 Tachwedd 2020. Edrychwch yma i weld a ydych chi’n gymwys a faint allwch ei gael. Mae canllawiau ar gael ar sut bydd CThEM yn cyfrifo’ch elw masnachu a’ch incwm di-fasnach os ydych chi’n hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth ac wedi’ch effeithio’n andwyol gan y coronafeirws. Mae fideo ar sut i hawlio’r ail grant cam wrth gam ar gael...
Ar 1 Ionawr 2021, bydd y cyfnod pontio gyda’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben, a bydd y Deyrnas Unedig yn gweithredu ffin lawn, allanol fel cenedl sofran. Mae hyn yn golygu y bydd rheolaethau yn cael eu rhoi ar waith ar symud nwyddau rhwng Prydain a’r UE. Mae’r canllawiau sydd wedi’u diweddaru yn darparu manylion pellach ar sut bydd ffin Prydain-UE yn gweithio a’r camau sydd angen i fasnachwyr, cludwyr a theithwyr eu cymryd...
Rhwng 19 Hydref a 25 Hydref 2020 bydd partneriaid, gwirfoddolwyr a chymunedau yn dod at ei gilydd i sicrhau y gall pawb gymryd rhan yn y byd digidol. Bydd miloedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn cannoedd o gymunedau, gan ddarparu ffordd gyfeillgar a chroesawgar i helpu pobl i gymryd y cam nesaf ar eu taith ar-lein, i ddatblygu sgiliau ac i wella bywydau ar hyd y ffordd. Mae yna ganllawiau ac adnoddau defnyddiol...
Os oes gan eich busnes weithwyr, yna gofalwch eich bod yn ystyried y risg i weithwyr sy’n agored iawn i goronafeirws a rhowch fesurau rheoli ar waith i leihau’r risg hwnnw. Mae canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn egluro beth ddylech chi ei wneud fel cyflogwr i ddiogelu gweithwyr bregus yn ystod y pandemig. Mae’n cynnwys y pynciau canlynol: cefnogi gweithwyr mewn grwpiau risg uwch gweithwyr hynod fregus yn glinigol cefnogi gweithwyr hynod fregus...
Cymerwch ran yn yr ymgyrch rhwng 19 a 23 Hydref 2020 i helpu i gadw'ch elusen yn ddiogel rhag twyll. Fel pob sector, gall elusennau fod yn agored i dwyll a seiberdroseddu. Gall y rhai sy'n darparu gwasanaethau a chefnogaeth hanfodol i gymunedau lleol yn ystod pandemig Coronafeirws (COVID-19) fod yn arbennig o agored i niwed. Gall pob elusen, hyd yn oed y rhai sydd â chronfeydd wrth gefn cymharol fach i alw arnynt, gymryd...
Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi camau brys i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â lefelau heintio uchel o ran y coronafeirws rhag teithio i Gymru. Cadarnhawyd hynny heddiw gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford. O dan y rheoliadau newydd sy’n cael eu paratoi gan Weinidogion Cymru, ni fyddai pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion o’r coronafeirws yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.