BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1791 canlyniadau

Gall y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres fod yn berthnasol os yw gweithiwr yn darparu ei wasanaethau drwy gyfryngwr. Cwmni gwasanaeth personol y gweithiwr fydd y cyfryngwr fel arfer. Gallai hefyd fod yn bartneriaeth, yn gwmni gwasanaethau a reolir neu’n unigolyn. Mae'r rheolau’n gwneud yn siŵr bod gweithwyr, a fyddai wedi bod yn gyflogeion pe baent yn darparu eu gwasanaethau i'r cleient yn uniongyrchol, yn talu mwy neu lai yr un faint o dreth...
Mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed eich barn chi ar ddyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru. Bydd y cynllun, Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru – Fframwaith Gweithredu, yn cael ei ddatblygu i edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru, diwydiant, academia a’r Undebau Llafur gydweithio i sicrhau dyfodol y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru. Yr ymgynghoriad yw’r cam nesaf i ddatblygu’r cynllun a fydd ar agor tan 19 Hydref 2020 er mwyn i bobl rannu eu barn. I gael rhagor...
Bydd Hwb Hinsawdd BBaChau - a gynhelir ar y cyd gan y Siambr Fasnach Ryngwladol (ICC), y Fenter Map Ffordd Mynegrifol, y glymblaid We Mean Business ac ymgyrch Race to Zero y Cenhedloedd Unedig - yn cefnogi busnesau bach a chanolig i leihau eu hallyriadau carbon er mwyn sicrhau mwy o gystadleuaeth, magu cadernid busnesau ac ennill mantais gystadleuol. Bydd Hwb Hinsawdd BBaChau yn annog cwmnïau bach a chanolig i ymrwymo i haneru eu hallyriadau...
Mae’r DU wedi gadael yr UE ac yn gadael marchnad sengl ac undeb tollau’r UE. Mae diwedd y cyfnod pontio yn golygu y dylai busnesau weithredu nawr i baratoi ar gyfer newidiadau anochel a rheolau newydd o fis Ionawr 2021. I gefnogi paratoadau busnes, mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn cynnal gweminarau am ddim i’ch helpu i fwrw golwg ar y rheolau newydd a deall y camau i’w cymryd. Cynhelir y sesiynau byw...
Mae’r DU bellach mewn cyfnod pontio tan 31 Rhagfyr 2020, tra bydd trafodaethau gyda’r UE yn mynd rhagddynt ynghylch y berthynas yn y dyfodol. Yn ystod y cyfnod pontio hwn ni fydd eich dyletswydd i reoli risg yn y gweithle yn newid. Mae iechyd a diogelwch da yn dda i fusnes. Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ystod y cyfnod pontio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael...
Bydd y mesurau gwrthdroi ar gyfer gwasanaethau adeiladu yn dod i rym ar 1 Mawrth 2021, er mwyn helpu'r sector adeiladu i ddelio ag effeithiau COVID-19; bydd hyn yn caniatáu mwy o amser i fusnesau baratoi. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gwmpas y tâl gwrthdroi a sut y bydd yn gweithredu ar wefan GOV.UK Bydd Cyllid a Thollau EM yn cynnal cyfres o weminarau ar gyfer busnesau a gweminarau Talking Points...
Mae’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr bellach yn fyw ar gyfer busnesau, gan ddarparu addysg a chanllawiau i fasnachwyr sy’n symud nwyddau o dan Brotocol Gogledd Iwerddon, gan gynnwys rhwng Gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Bydd y gwasanaeth digidol am ddim yn helpu busnesau a masnachwyr o bob maint i ddeall y newidiadau i’r ffordd y bydd nwyddau’n pan ddaw Protocol Gogledd Iwerddon i rym ar 1 Ionawr 2021. Bydd masnachwyr sy’n cofrestru ar gyfer y...
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am ran o £8 miliwn mewn cyllid grant ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi adferiad a thwf y diwydiannau sylfaen canlynol, sy’n hanfodol ar gyfer sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu’r DU. sment gwydr cerameg papur metelau cemegau swmp Mae’n rhaid i brosiectau ddangos sut maent yn mynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni neu adnoddau diwydiannau sylfaen a chefnogi cadernid a chynaliadwyedd y sector a’i gadwyni cyflenwi. Mae’r...
Bydd y Cynllun Cefnogi Swyddi newydd yn cael ei gyflwyno o 1 Tachwedd 2020 i ddiogelu swyddi lle mae busnesau yn wynebu llai o alw dros fisoedd y gaeaf yn sgil coronafeirws (COVID-19). O dan y cynllun, a fydd yn para chwe mis, bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu at gyflogau gweithwyr sy’n gweithio llai na’u horiau arferol yn sgil gostyngiad yn y galw. Byddwch yn parhau i dalu cyflogau am yr oriau y mae...
Mae Procurex Cymru yn digwydd ar-lein eleni ar ddydd Llun 19 Hydref. Bydd pob agwedd ar yr arddangosfa yn cael ei hefelychu'n ddigidol, trwy arddangosfa rithwir, parthau academi sgiliau caffael, prif siaradwyr a chyfleoedd rhwydweithio i weithwyr caffael proffesiynol a chyflenwyr. Cynhelir gweminar cyn y digwyddiad ar ddydd Llun 5 Hydref am 2pm, i roi golwg gyntaf ar yr hyn i'w ddisgwyl gan Procurex Cymru. I lawer ohonoch, gall digwyddiadau rhithwir fod yn brofiad newydd...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.