BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1851 canlyniadau

Mewn ymateb i’r argyfwng coronafeirws, mae’r Ymddiriedolaeth Theatrau wedi ailgyflwyno eu cynlluniau grantiau bach i gefnogi theatrau i dalu costau ychwanegol ailagor ar ôl cau am sawl mis. Mae’r grantiau o hyd at £5,000 ar gael i helpu theatrau dielw ledled y DU i wneud addasiadau sy'n gysylltiedig â Covid-19 a pharatoi ar gyfer ailagor. Bydd Cronfa Ailagor Theatrau yn cefnogi gwelliannau i adeiladau a phrynu offer a fydd yn cefnogi'r theatr i allu agor...
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) yn elfen graidd o gynnig ymchwil a datblygu ac arloesedd Cymru i fusnesau, a nod y fenter hon yw gwneud KTPs yn fwy hygyrch a chost effeithiol i Fusnesau Bach a Chanolig ac annog mwy o fusnesau i elwa ar y rhaglen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyfrannu 75% tuag at gyfanswm costau prosiectau KTP sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ac sydd wedi’u cymeradwyo i gymryd rhan...
Gall darparwyr gofal plant, gan gynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd, cylchoedd meithrin, crèches a chlybiau y tu allan i’r ysgol wneud cais am hyd at £5,000 i fynd i’r afael ag incwm a gollwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Mehefin 2020. Rhaid i chi fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Ni allwch gael y grant os ydych wedi gwneud cais am gyllid i’r cynlluniau isod, neu os ydych wedi cael cyllid ganddynt: Grantiau ardrethi...
Gallai rheolau sy’n ymwneud â gweithgareddau ar-lein yng ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) fod yn gymwys o’r newydd i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein yn y DU sy’n gweithredu yn yr AEE o 1 Ionawr 2021. Mae’r Gyfarwyddeb e-Fasnach yn caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein yn yr AEE weithredu mewn unrhyw wlad yn yr AEE, gan ddilyn dim ond y rheolau perthnasol yn y wlad lle maent wedi’u sefydlu. Ni fydd y fframwaith hwn yn gymwys...
Rhestr chwarae COVID-19 HMRC ar YouTube yw’r lle i droi am weminarau byw, a rhai wedi’u recordio, am gyhoeddiadau COVID-19. Mae’r fideos hyn yn crynhoi’r cymorth sydd ar gael er mwyn helpu busnesau, unigolion hunangyflogedig, cyflogwyr a’u gweithwyr i ymdrin ag effaith economaidd COVID-19. Beth am gael y newidiadau a’r manylion diweddaraf trwy gofrestru i dderbyn e-byst CThEM. Gallwch ddilyn eu cyfrif Twitter hefyd @HMRCgovuk Ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol arall yw Agent Update – mae’r rhifyn...
Os ydych chi’n ystyried dechrau neu dyfu busnes bwyd neu ddiod, mae’r digwyddiad ar-lein hwn i chi! Dewch i gyfarfod prynwr Sainsbury’s a gwneud cais i gyflwyno’ch cynnyrch i Sainsbury’s, clywed gan entrepreneuriaid llwyddiannus yn y diwydiant, dysgu sut i dyfu eich brand ar y cyfryngau cymdeithasol, a chlywed sut i greu brand sy’n sefyll allan. Mae digwyddiadau cyfnewid yn eich rhoi mewn cysylltiad â phrynwyr brand mawr sy’n chwilio am gynhyrchion. Cynhelir y weminar...
Mae Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC) yn lansio Gwobr Undod Sifil, gwobr unwaith ac am byth gyda’r thema benodol “Cymdeithas sifil yn erbyn COVID-19”. Bydd y Wobr Undod Sifil yn anrhydeddu mentrau creadigol ac effeithiol gan unigolion, sefydliadau cymdeithas sifil a chwmnïau dan berchnogaeth breifat sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i fynd i’r afael ag argyfwng COVID-19. Bydd yr EESC yn dyfarnu hyd at 29 o wobrau, am y swm o €10,000 i fentrau...
Mae CThEM wedi cyhoeddi o fis Ebrill 2022 y bydd Gwneud Treth yn Ddigidol yn cael ei ymestyn i gynnwys pob busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW gyda throsiant dan y trothwy TAW. O fis Ebrill 2023 bydd yn gymwys i drethdalwyr sy’n ffeilio ffurflenni hunanasesu treth incwm ar gyfer incwm busnes neu eiddo dros £10,000 y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Er mwyn parhau i weithredu yn ystod COVID-19, mae llawer o fusnesau bwyd sefydledig wedi arallgyfeirio i ddanfon bwyd, gwasanaethau tecawê a gwerthu ar-lein. Cafwyd cynnydd hefyd yn y bobl sy’n coginio gartref ac yn gwerthu eu bwyd yn lleol neu ar-lein. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnig cymorth ac arweiniad i fusnesau sefydledig a newydd i’w helpu i fynd i’r afael â heriau pandemig COVID-19. Bydd ymgyrch ‘Yma i Helpu’ yn cynnig arweiniad ac...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi diweddaru eu canllawiau ar aerdymheru ac awyru yn ystod yr argyfwng coronafeirws. Mae’r canllawiau wedi’u seilio ar y wybodaeth ddiweddaraf ac efallai y byddant yn cael eu diweddaru pan ddaw gwybodaeth newydd i’r fei. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i gyflogwyr sicrhau cyflenwad digonol o awyr iach yn y gweithle a dyw hyn heb newid. Gall awyru da helpu i leihau’r risg o ledaenu coronafeirws yn y...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.