BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1951 canlyniadau

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £10 miliwn i ymchwilio i dechnolegau i helpu i sicrhau arloesi ym maes cerbydau dim allyriadau yn y dyfodol, a datblygu’r technolegau hynny. Gan fod COVID-19 wedi tarfu ar ddiwydiant y DU, mae Driving Electric Revolution, sy’n rhan o’r Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol a’r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel, yn cydweithio i fuddsoddi mewn prosiectau arloesol a fydd yn cefnogi ymgais...
Mae dathliad cydraddoldeb ac amrywiaeth mwyaf Cymru yn troi’n ddigidol! O ganlyniad i bandemig y Coronafeirws, bydd Pride Cymru 2020 yn cael ei gynnal yn rhithwir. Bydd Wythnos Fawr Rithwir Pride Cymru yn wythnos lle bydd cymunedau yn dal i gael y cyfle i gadw mewn cysylltiad, codi ymwybyddiaeth a rhannu negeseuon. Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn, yn cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd i gymryd rhan ac i gefnogi’r digwyddiad, dilynwch Pride Cymru ar Facebook...
Wrth i fusnesau lletygarwch ddechrau ailagor mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau cychwynnol i fusnesau y gofynnir iddyn nhw gofnodi a chadw data personol cwsmeriaid, staff ac ymwelwyr i gefnogi’r cynllun profi ac olrhain. Nid oes angen i chi ddatblygu apiau arbennig nac atebion digidol – dim ond dewis y broses sydd orau i’ch busnes chi sydd raid. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn argymell y pum cam syml canlynol er mwyn sicrhau nad yw...
Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) wedi ymrwymo i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae BUEGC wedi cynhyrchu arolwg busnes i edrych ar effaith COVID-19, sut mae wedi effeithio ar fusnesau lleol a’i diwydiannau er mwyn cael dealltwriaeth o’r anghenion ynghyd a’r hyn sydd ei angen er mwyn cefnogi adferiad bydd y cyfyngiadau yn cael ei codi. Bydd y wybodaeth bwysig yma yn helpu BUEGC: i ddeall yr hyn sydd yn...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fod yr amgylchiadau yng Nghymru yn golygu bod modd i’r rheol ynghylch aros yn lleol ddod i ben ddydd Llun 6 Gorffennaf 2020 ond mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa pawb am bwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo’n rheolaidd a pharchu’r lleoedd a’r cymunedau y maen nhw’n ymweld â nhw. Felly, bydd angen i bobl wneud yn siŵr eu bod yn chwilio am wybodaeth ymlaen llaw cyn ymweld ag ardal, mynd...
Mae siopwyr yn cael eu hannog i gefnogi gweithwyr allweddol yn niwydiant bwyd a diod yng Nghymru drwy gymryd rhan mewn ymgyrch ar-lein newydd o’r enw #CaruCymruCaruBlas. Mae #CaruCymruCaruBlas yn ymgyrch Llywodraeth Cymru sy’n gweithio mewn partneriaeth â Menter a Busnes. Mae cynhyrchwyr a manwerthwyr wedi bod yn lawrlwytho pecynnau digidol #CaruCymruCaruBlas yn barod ar gyfer lansio’r ymgyrch y mis nesaf. Mae ymgyrch #CaruCymruCaruBlas yn dod ar ôl y map cynhyrchwyr llwyddiannus a gafodd ei...
Mae’r Gronfa wedi’i llunio i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth grant eraill nad oes angen eu had-dalu oherwydd COVID-19 gan Lywodraeth Cymru. Gall busnesau cymwys hawlio hyd at: £10,000 ar gyfer microfusnesau £100,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig £690,000 ar gyfer busnesau mawr Mae’r gronfa ar agor i geisiadau tan 5yp 10 Gorffennaf 2020 . I gael rhagor o wybodaeth ewch i tudalen COVID-19: Cymorth...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ‘Grant Busnesau Newydd’ i gynorthwyo busnesau newydd yng Nghymru wrth ymdrin ag effaith ddifrifol y Coronafeirws. Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn y ‘Grant Busnesau Newydd’ o hyd at £2,500, rhaid i fusnesau: fod heb dderbyn arian o’r Gronfa Cadernid Economaidd na’r Grant Ardrethi Annomestig fod wedi’u sefydlu rhwng 1 Ebrill 2019 ac 1 Mawrth 2020 a heb fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y cam cyntaf o gynlluniau i ailagor barrau, bwytai a caffis sydd â mannau awyr agored, yn dilyn adolygiad cyflym o’r sector. Gwneir penderfyniad terfynol ynghylch ailagor yn yr adolygiad nesaf o’r Rheoliadau Coronafeirws ar 9 Gorffennaf, a bydd yn dibynnu ar a yw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng. Gwneir penderfyniadau ynghylch ailagor y sector o dan do maes o law, a bydd llawer yn dibynnu...
Mae VisitEngland mewn partneriaeth â sefydliadau croeso cenedlaethol Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi lansio nod defnyddwyr safonol i’r diwydiant ledled y DU, fel arwydd o hyder i’r maes ymwelwyr wrth i’r sector ddechrau ailagor unwaith eto. Mae arwyddnod ‘Barod Amdani' yn golygu bod busnesau’n gallu dangos eu bod nhw’n dilyn canllawiau iechyd perthnasol y llywodraeth ac iechyd cyhoeddus, wedi cynnal asesiad risg COVID-19 ac wedi sicrhau bod y prosesau gofynnol ar waith ganddynt. I...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.