BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2001 canlyniadau

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi na fydd y cyfnod pontio yn cael ei ymestyn ac y bydd mesurau rheoli ar gyfer mewnforio nwyddau yn gymwys nawr o fis Gorffennaf 2021. Mae CThEM wedi datgelu pecyn newydd o fesurau a chyllid i gyflymu twf sector cyfryngwyr tollau'r DU - gan gynnwys broceriaid tollau, cwmnïau sy’n anfon llwythi ymlaen a gweithredwyr parseli cyflym - er mwyn helpu busnesau i fewnforio ac allforio eu nwyddau drwy sicrhau...
Yn sgil yr argyfwng coronafeirws, efallai na fydd Tŷ’r Cwmnïau yn gallu prosesu dogfennau papur mor gyflym ag y mae’n arfer ei wneud ac mae wedi cyflwyno gwasanaeth dros dro i lanlwytho dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau. Wrth i’r gwasanaeth hwn gael ei ddiweddaru, bydd yn cynnwys mwy o wahanol fathau o ddogfennau a nodweddion fel cydnabyddiaethau a thaliadau. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae’r cynllun Bwrsariaeth Niwclear, a reolir gan yr Academi Sgiliau Niwclear Cenedlaethol (NSAN) yn darparu cymorth ariannol i unigolion ar gyfer cyfleoedd addysg a hyfforddiant gyda’r nod o’u helpu i ddechrau a datblygu eu gyrfaoedd proffesiynol yn y byd niwclear. Mae cylch diweddaraf y Fwrsariaeth Niwclear yn canolbwyntio ar unigolion sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan Covid-19, drwy ddarparu cymorth ariannol i’r rhai sydd ar ffyrlo neu wedi’u diswyddo o gwmni sy’n gweithio yn y sector...
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi busnesau bwyd i ailagor yn ddiogel yn ystod COVID-19 ar ôl gorfod cau eu drysau am gyfnod. Mae’r canllawiau yn cynnwys: rhestr wirio ar ailagor ar gyfer busnesau bwyd cynllunio a pharatoi ar gyfer dechrau arni archwiliadau safle archwiliadau cyfarpar archwiliadau cynhwysion a chynhyrchion mesurau cadw pellter cymdeithasol Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Os ydych chi’n ddinesydd o’r UE, Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir ac yn byw yn y DU, bydd angen i chi a’ch teulu wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i ddiogelu’r hawliau sydd gennych chi ar hyn o bryd yn y DU ac i barhau i fyw yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021. Mae’r opsiwn post ar gyfer cyflwyno dogfennau ar gyfer ymgeiswyr nad ydyn nhw’n gallu defnyddio’r ap...
Mae Digital Boost yn ceisio cefnogi busnesau bach ac elusennau Prydeinig sy’n cael eu heffeithio gan COVID-19 ar eu taith i ddigideiddio. Bydd Digital Boost yn darparu cymuned o wirfoddolwyr arbenigol digidol i gefnogi elusennau a busnesau bach drwy: galwadau hybu – galwadau cymorth gweithdai hybu – gweminarau Sgiliau hybu – adnoddau curadu ar ddigideiddio Cofrestrwch fel busnes bach neu elusen i dderbyn cymorth arbenigol drwy lenwi ffurflen sefydliad Digital Boost. A dewch yn wirfoddolwr...
Bydd cyflwyno’r tâl rifersiwn domestig ar gyfer gwasanaethau adeiladu yn cael ei ohirio am gyfnod o 5 mis o 1 Hydref 2020 tan 1 Mawrth 2021 oherwydd effaith y pandemig coronafeirws ar y sector adeiladu. Hefyd, bydd diwygiad i’r ddeddfwriaeth wreiddiol, a osodwyd ym mis Ebrill 2020, i’w gwneud yn ofyniad i fusnesau gael eu heithrio rhag y tâl rifersiwn gan eu bod yn ddefnyddwyr neu’n gyflenwyr cyswllt, a bydd rhaid iddynt hysbysu eu hisgontractwyr...
Os ydych chi erioed wedi breuddwydio am ddechrau eich busnes eich hun, mae’r gyfres hon o sesiynau ar-lein awr o hyd i chi. Mae pynciau’r gweminarau Sylfaenwyr Busnes Benywaidd yn cynnwys: rhwydweithio effeithiol – 24 Mehefin am 12pm - cofrestrwch yma brandio - 8 Gorffennaf am 12pm - cofrestrwch yma hanfodion busnes - 22 Gorffennaf am 12pm - cofrestrwch yma Ewch i wefan Chwarae Teg am y wybodaeth ddiweddaraf am eu prosiectau a’u hymgyrchoedd cyfredol.
Mae adnodd ‘Health and Safety made simple’ yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu canllawiau ar ddyletswyddau sylfaenol pob busnes, er mwyn ei gwneud yn haws i chi gydymffurfio â’r gyfraith a rheoli iechyd a diogelwch yn y gweithle. Mae’n cynnig canllawiau cam wrth gam ar bynciau iechyd a diogelwch, gan gynnwys: cymorth cyntaf yn y gwaith darparu cyfleusterau addas yn y gweithle rhoi gwybod am ddamweiniau a salwch coronafeirws I gael rhagor o...
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn darparu’r newyddion diweddaraf i fusnesau, cymdeithasau masnach, cyrff cynrychiolwyr busnes a chyfryngwyr busnes, tra bod y DU mewn cyfnod pontio ac wrth i’’r DU a’r UE drafod trefniadau ychwanegol. Bydd y rheolau presennol ar fasnach, teithio a busnes ar gyfer y DU a’r UE yn parhau’n gymwys yn ystod y cyfnod pontio. Bydd rheolau newydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2021. Mae diweddariadau i...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.