BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2061 canlyniadau

Mae WRAP Cymru’n ymwybodol bod nifer o sefydliadau’n wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i COVID-19. Fel ymateb i hyn, rydym wedi gwneud newidiadau i’r Gronfa Economi Gylchol gwerth £6.5 miliwn, sydd wedi’u cynllunio er mwyn cefnogi mwy fyth o sefydliadau yn gyflymach. Yn ogystal ag ariannu’r defnydd o ddeunyddiau eilgylch mewn nwyddau, mae WRAP Cymru nawr yn gallu cefnogi gweithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys cynhyrchu nwyddau...
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi canllawiau clir ar: hunanynysu aros gartref a chadw draw oddi wrth bobl eraill Ar 26 Mawrth 2020, cynyddol y llywodraeth ei mesurau i atal lledaeniad coronafeirws ac amlinellu pa fusnesau a safleoedd ddylai gau. Diweddarwyd y canllawiau hyn ar 12 Mai 2020, ewch i wefan LLYW.Cymru am ragor o wybodaeth.
Mae Yswiriant Credyd Masnach yn yswirio cannoedd o filoedd o drafodion busnes i fusnes, yn enwedig mewn sectorau nad ydynt yn wasanaethau, fel gweithgynhyrchu ac adeiladu. Mae’n yswirio cyflenwyr sy’n gwerthu nwyddau yn erbyn y cwmni y maent yn gwerthu iddo yn diffygdalu, gan roi’r hyder i fusnesau fasnachu gyda’i gilydd. Ond yn sgil y Coronafeirws a busnesau’n cael anhawster talu biliau, maent mewn perygl o golli eu hyswiriant credyd, neu bremiymau’n codi i lefelau...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi llunio canllawiau ar sut mae’n rhaid i fusnesau gynnal rheolau cadw pellter cymdeithasol a diogelu eu staff yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19). Mae’r canllawiau yn egluro’r hyn sy’n rhaid i gyflogwyr ei wneud i gadw eu busnesau ar agor ac maent yn cynnwys: Cadw pellter cymdeithasol Gwaith hanfodol a gwaith sydd ddim yn hanfodol Gweithgarwch diogel yn y gwaith Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr...
Mae CThEM yn parhau i gynnal gweminarau ar y pynciau canlynol: Coronavirus COVID-19 Statutory Sick Pay Rebate Scheme Coronavirus Job Retention Scheme – How to make a claim Coronavirus (COVID-19) – Self-Employment Income Support Scheme (SEISS) Hefyd, mae Coronavirus Job Retention Scheme: step by step guide for employers wedi’i ddiweddaru. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Bydd unigolion hunangyflogedig neu aelodau o bartneriaethau y mae eu busnesau wedi’u heffeithio’n niweidiol gan goronafeirws yn gallu gwneud cais am grant Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig gwerth 80% o gyfartaledd eu helw masnachu misol. Bydd pobl yn gallu gwneud cais ar ddyddiad penodol rhwng 13 a 18 Mai 2020, ar sail eu Cyfeirnod Treth Unigryw. Gellir gwirio’r cyfeirnod hwn ar wiriwr ar-lein CThEM a bydd y rhai sy’n gymwys yn derbyn grant o hyd...
Mae Llywodraeth y DU, mewn ymgynghoriad â’r diwydiant, wedi llunio canllawiau ‘diogel rhag COVID-19’ i helpu i sicrhau bod gweithleoedd mor ddiogel â phosibl. Mae’r canllawiau newydd yn cwmpasu 8 lleoliad gwaith sy’n cael agor, o amgylcheddau awyr agored a safleoedd adeiladu i ffatrïoedd a tecawês. Dyma gamau ymarferol ar gyfer busnesau sy’n canolbwyntio ar bum pwynt allweddol, y dylid eu rhoi ar waith cyn gynted ag sy’n ymarferol: Os gallwch chi, gweithiwch gartref Cynhaliwch...
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu canllawiau ar yr hyn y gallwch chi a’ch busnes ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn. Mae rheolau newydd mewn grym erbyn hyn, sy'n golygu bod yn rhaid ichi aros gartref, er mwyn achub bywydau a diogelu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG). Mae’n bosibl bod y rheolau hyn yn wahanol i’r rheolau mewn rhannau eraill o’r DU, felly mae’n...
Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru manylion y Cynllun Cadw Swyddi fel a ganlyn: Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn parhau hyd ddiwedd mis Hydref Bydd gweithwyr ar ffyrlo ledled y DU yn parhau i dderbyn 80% o’u cyflogau presennol, hyd at £2,500 Bydd hyblygrwydd newydd yn cael ei gyflwyno o fis Awst i gael gweithwyr yn ôl i’r gwaith Bydd y cynllun yn parhau ar ei ffurf bresennol hyd ddiwedd...
Mae Business Builder NatWest bellach yn rhaglen cwbl ddigidol ar gyfer y garfan newydd o fusnesau yn ystod y cyfyngiadau symud yn sgil coronafeirws. Mae Business Builder yn cefnogi entrepreneuriaid sy’n cychwyn arni ac yn eu helpu i brofi a dilysu eu model busnes, datblygu eu sail busnes a chreu sylfeini cadarn fel y gallant dyfu. Mae’n canolbwyntio ar ddarparu cyfuniad o ddysgu digidol, cymuned, mynediad at rwydweithiau a dysgu cymheiriaid i fusnesau newydd. Ar...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.