BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2151 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £1.4bn i fusnesau bach er mwyn eu helpu yn ystod cyfnod y coronafeirws. Bydd siopau, busnesau hamdden a lletygarwch gyda gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael rhyddhad ardrethi busnes o 100% a bydd tafarndai sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 yn eu bil. Yn ychwanegol at y cymorth hwn mae pecyn newydd a fydd, yn 2020/21, yn rhoi...
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn chwilio am sefydliadau all helpu i gyflenwi peiriannau anadlu a chydrannau peiriannau anadlu ledled y Deyrnas Unedig fel rhan o ymateb Llywodraeth y DU i COVID-19. Os gall eich busnes chi helpu i ateb y galw am beiriannau anadlu, ewch i wefan GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth. I gael cyngor a gwybodaeth am y Coronafeirws ar gyfer eich busnes chi, ewch i dudalennau Cyngor ar y...
Cyngor cyfredol y Llywodraeth y DU yw i bawb geisio atal cysylltiad diangen gyda phobl eraill – ' pellhau cymdeithasol '. Mae hyn yn cynnwys: gweithio o gartref lle bo'n bosibl osgoi amseroedd cymudo prysur ar drafnidiaeth gyhoeddus osgoi crynoadau o bobl, boed yn gyhoeddus, yn y gwaith neu gartref Dylai cyflogwyr gefnogi eu gweithlu i gymryd y camau hyn. Gallai hyn gynnwys: cytuno ar ffyrdd mwy hyblyg o weithio, er enghraifft newid amserau dechrau...
Mae’r canllawiau newydd yn cynghori pobl i aros gartref am 14 diwrnod os oes gan rywun yn eich tŷ symptomau Coronafeirws (COVID-19). Bydd y canllawiau newydd dal yn gofyn i unigolion hunanynysu am 7 diwrnod o ddechrau symptomau COVID-19 ond nawr byddan nhw hefyd yn gofyn i bob unigolyn yn y tŷ hunanynysu am 14 diwrnod o’r foment honno. Os bydd aelodau eraill o’ch tŷ yn datblygu symptomau, dim ots pa mor ysgafn, ar unrhyw...
Mae CThEM wedi sefydlu llinell gymorth i helpu busnesau a phobl hunangyflogedig sy’n poeni am beidio â gallu talu trethi o ganlyniad i’r coronafeirws (COVID-19). Os ydych chi’n rhedeg busnes neu’n hunangyflogedig a’ch bod yn poeni am fethu talu’ch trethi o ganlyniad i’r coronafeirws, gallwch ffonio llinell gymorth CThEM i gael cymorth a chyngor: 0800 0159 559. Rhif y llinell gymorth yw 0800 0159 559 - ac mae’n rhif ychwanegol i rifau cyswllt eraill CThEM...
Gwneuthurwr cacennau dathlu, a ffurfiwyd yn 2010 i lenwi bwlch yn y farchnad o greu cacennau heb gna.
Atyniad antur o fri a gefnogir gan Gronfa Twf Economaidd Cymru Llywodraeth Cymru.
Cwmni aml-wobrwyol a fu’n flaenllaw mewn gweithgynhyrchu digidol bathodynnau a labeli resin polywret.
Wedi iddi sefydlu busnes gemwaith yn 2007 yn cyfuno llechen gyda aur ac arian i wneud gemwaith cyfoes, mae'r busnes wedi parhau i dyfu er iddi ddechrau teulu a magu 3 o blant.
Dyma Caryl o Sparkles Solution gyda'r stori o sut wnaeth hi llwyddo i gychwyn busnes sydd nawr yn mynd o nerth i nerth.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.