BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

311 canlyniadau

Cyhoeddodd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) y bydd gan allforwyr fwy o amser i symud ar draws i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Yn dilyn ymgynghoriad â'r diwydiant ar y ffiniau, bydd gan allforwyr hyd at 30 Tachwedd 2023 i symud ar draws i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS), 8 mis yn ddiweddarach na'r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol. Ar ôl 30 Tachwedd 2023, bydd angen i fusnesau ddefnyddio CDS i wneud datganiadau allforio ar gyfer nwyddau...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi estyniad chwe mis ar rewi’r dreth alcohol hyd at 1 Awst 2023. Roedd disgwyl i rewi’r dreth alcohol presennol ddod i ben ar 1 Chwefror 2023. Yng Nghyllideb yr Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y diwygiadau mwyaf i'r dreth alcohol ers 140 mlynedd. Mae’r newidiadau’n ailwampio rheolau'r DU ar ôl gadael yr UE er mwyn rhoi mwy o amser i ddiwydiant baratoi ar gyfer y diwygiadau a fydd...
Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn cefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o'r doniau y gall pobl anabl eu cyflwyno i'ch gweithle. Mae cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd o bob maint yn: herio agweddau tuag at anabledd cynyddu dealltwriaeth o anabledd dileu rhwystrau i bobl anabl a'r rheiny sydd â chyflyrau iechyd hirdymor sicrhau bod pobl anabl yn cael y cyfleoedd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau P'un a yw gweithiwr wedi...
Bydd Sgiliau Bwyd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, yn cynnal 3 gweithdy ar-lein ym mis Ionawr 2023 i roi cyfle i ddysgu mwy am hawliau gweithwyr yng nghyd-destun y sector bwyd a diod yng Nghymru. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn clywed ac yn ymgysylltu â siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau sy’n hyrwyddo hawliau gweithwyr ac yn mynd i’r afael â cham-drin a chamfanteisio...
Waeth a ydych yn meddwl am gefnu ar eich car a chymudo mewn ffordd iachach, fwy costeffeithiol, mynd am dro ar y penwythnos neu gynllunio taith feicio gyda ffrindiau a theulu, mae'n debyg y bydd cyfle yn agos, gyda dros 2,000km o lwybrau cerdded a beicio o ansawdd uchel eisoes ar gael ledled Cymru. Yn dilyn misoedd o ymgynghori cyhoeddus a chan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, mae Awdurdodau Lleol wedi cyhoeddi eu Mapiau Rhwydwaith...
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi egwyddorion ac arweiniad newydd i gefnogi busnesau i greu agwedd gynhwysol tuag at iechyd yn y gweithle. Gall cyflogwyr ddefnyddio'r egwyddorion syml i greu diwylliant galluogol yn y gweithle, lle mae gweithwyr anabl a gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ffynnu. Gall eu Talking Toolkit helpu strwythuro sgyrsiau gyda gweithwyr a recriwtiaid posibl. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a...
Bydd digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol Cymru, BlasCymru/TasteWales, yn cael ei gynnal ar 25 a 26 Hydref 2023. Mae’r digwyddiad deuddydd a drefnir gan is-adran Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn dod â chynhyrchwyr bwyd a diod a phrynwyr cenedlaethol a rhyngwladol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd at ei gilydd. Mae’r digwyddiad, a gynhelir yn ICC Cymru yng Nghasnewydd, wedi bod yn allweddol mewn blynyddoedd blaenorol o ran creu cyfleoedd busnes newydd...
A oeddech chi'n gwybod bod dros 450 o sefydliadau wedi ymuno â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi erbyn mis Rhagfyr 2022? Ers lansio'r Cod yn 2017, mae nifer y sefydliadau sy'n cofrestru wedi cynyddu'n gyson. Mae’r llofnodwyr yn cynrychioli ystod eang o sectorau. Mae'r rhain yn cynnwys cyrff cyhoeddus, sefydliadau'r trydydd sector, a busnesau o sectorau mor amrywiol ag adeiladu, gofal iechyd, gwasanaethau glanhau, a chynhyrchu teledu a ffilm. Beth...
Mae Gwobr Arloesi Photonics21 yn gystadleuaeth ar gyfer syniadau busnes sydd yn eu camau cynnar. Gall fod yn syniad syml, yn syniad na allwch ei anghofio neu syniad rydych chi wedi bod yn gweithio arno ers tro. Nod Photonics21 yw cefnogi gwneuthurwyr talentog, myfyrwyr ac entrepreneuriaid ifanc sydd â diddordeb gwirioneddol mewn datblygu syniad yn gynnyrch drwy gyfuno creadigrwydd â ffotoneg. Mae'r gystadleuaeth yn cynnwys gwobr ariannol o €5,000, hyfforddiant sgiliau entrepreneuraidd, a chyswllt â...
Bydd Pythefnos Masnach Deg yn ôl rhwng 27 Chwefror ac 12 Mawrth 2023. Yn ystod Pythefnos Masnach Deg, daw miloedd o unigolion, cwmnïau a grwpiau ledled y DU at ei gilydd i rannu straeon y bobl sy'n tyfu ein bwyd a'n diodydd, mwyngloddio ein haur ac yn tyfu'r cotwm yn ein dillad, pobl sy'n aml yn cael eu hecsbloetio ac yn eu talu’n wael. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Pythefnos Masnach Deg 2023...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.