BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

331 canlyniadau

Dysgwch pryd mae’n rhaid i chi fodloni gofynion y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Yn gyntaf, dylech w irio a allwch gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol i chi: rydych yn unigolyn rydych wedi’ch cofrestru ar gyfer Hunanasesiad...
Mae’r rhestr o gwestiynau cyffredin ynghylch cau Pont Menai i draffig wedi’i diweddaru. Mae’r diweddariad yn cynnwys gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau ym Mhorthaethwy, gan gynnwys y cymorth ychwanegol a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf fel rhan o’r gyllideb ddrafft, ynghyd â diweddariad ar gwblhau gwaith gosod arwyneb newydd a’r gwaith cynnal a chadw y mae Network Rail yn parhau i’w wneud ar Bont Britannia. Bydd Traffig Cymru yn parhau i gyhoeddi...
Gall rhedeg eich cwmni eich hun fod yn gyffrous ond hefyd yn heriol. Mae gan gyfarwyddwyr lawer o gyfrifoldebau gan gynnwys cadw cofnodion cwmnïau’n gyfoes a sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser. Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, p’un a ydynt yn masnachu ai peidio, ddarparu cyfrifon blynyddol bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cwmnïau segur. Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw ffeilio cyfrifon cwmni. Gallwch gael cofnod troseddol, dirwy neu anghymhwysiad os nad ydych...
Mae'r ffordd y mae CThEF yn asesu eich elw os ydych chi'n unig fasnachwr neu'n bartneriaeth sy'n defnyddio dyddiad cyfrifo rhwng 6 Ebrill a 30 Mawrth yn newid. Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar gwmnïau. Eich dyddiad cyfrifo yw diwrnod olaf y cyfnod rydych yn paratoi eich cyfrifon ar ei gyfer. Chi sy'n dewis eich dyddiad cyfrifo a byddwch fel arfer yn gwneud eich cyfrifon hyd at y dyddiad hwnnw bob blwyddyn. Os...
Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Wrth inni nesáu at y Nadolig, rwyf am roi gwybod i’r Aelodau am faterion diweddar sy’n ymwneud â'n hymateb dyngarol parhaus i sefyllfa Wcráin. Wedi misoedd o ofyn am sicrwydd ynghylch ariannu cynllun Cartrefi i Wcráin yn y dyfodol, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi rhywfaint o eglurder ar nifer o faterion rydym wedi eu trafod yn y Siambr. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU am gyllid Cartrefi i Wcráin...
Mae cyngor syml, gyda chamau gweithredu cost isel iawn neu ddim cost o gwbl y gall cartrefi eu cymryd i leihau eu defnydd o ynni a biliau'r gaeaf hwn, bellach ar gael i'r cyhoedd o dan ymgyrch wybodaeth newydd gan Lywodraeth y DU. Bydd ymgyrch arbed ynni 'It All Adds Up' yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o gamau gweithredu syml y gall pobl eu cymryd i leihau eu biliau drwy ostwng faint o ynni sydd...
Mae undeb y PCS wedi cyhoeddi y bydd gweithredu diwydiannol gan rai aelodau Llu'r Ffiniau rhwng 23 Rhagfyr 2022 a 26 Rhagfyr 2022, a rhwng 28 Rhagfyr 2022 a 31 Rhagfyr 2022, yn y lleoliadau canlynol: Maes Awyr Birmingham Maes Awyr Caerdydd Maes Awyr Gatwick Maes Awyr Glasgow Heathrow T 2, 3, 4 a 5 Maes Awyr Manceinion Porthladd Newhaven Os ydych yn bwriadu symud nwyddau ar y dyddiadau yr effeithir arnynt Gallai'r gweithredu diwydiannol...
Mae gwerth y nwyddau mae busnesau Cymru wedi'u hallforio wedi adfer i lefelau uwch na chyn y pandemig–cyfanswm o £19.4 biliwn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben fis Medi 2022, a chynnydd o fwy na thraean o'i gymharu â'r 12 mis diwethaf, ac £1.7 biliwn yn uwch na'r flwyddyn a ddaeth i ben fis Medi 2019, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cyhoeddi. Mae'r ffigurau dros dro diweddaraf yn dangos bod busnesau...
Cadarnhaodd Llywodraeth y DU y bydd 45,000 o fisas ar gyfer gweithwyr tymhorol ar gael i fusnesau y flwyddyn nesaf, gan roi hwb i ddiwydiant garddwriaeth y DU. Bydd y dyraniad yn caniatáu i fusnesau recriwtio gweithwyr o dramor ddod i'r DU am hyd at chwe mis drwy lwybr fisa Gweithwyr Tymhorol – cynnydd o 15,000 o'i gymharu â beth oedd ar gael i fusnesau ar ddechrau 2022. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar...
Gan weithio mewn partneriaeth, mae Busnes Cymru a Croeso Cymru bellach wedi lansio Twristiaeth Gynaliadwy Cymru. Mae'r cynllun cymorth busnes newydd yn rhoi cyngor a chymorth ar sut i arbed arian, hyrwyddo eich busnes, gan ddefnyddio arferion cynaliadwyedd, a gwireddu eich uchelgeisiau gwyrdd. Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau arni o ran cynaliadwyedd neu efallai eich bod wedi dechrau gwneud newidiadau ond eisiau mynd ag ef i'r lefel nesaf, gallwch lawrlwytho ein pecynnau...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.