BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

351 canlyniadau

Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn gwahodd aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog sy'n cael trafferth talu eu biliau tanwydd i wneud cais am grantiau atodol newydd. Nod y grant atodol ar gyfer costau ynni yw lleihau effaith yr argyfwng costau byw ar gyn-filwyr a'u teuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol ac mae wedi cael ei ddylunio i'w hatal rhag cyrraedd adeg argyfwng. Gall unrhyw aelod o gymuned y Lluoedd Arfog sydd eisiau cael mynediad at y...
Bydd miliynau o weithwyr yn gallu gwneud cais ar gyfer gweithio hyblyg o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth, o dan gynlluniau newydd Llywodraeth y DU i wneud gweithio hyblyg yn arferol. Nid yw gweithio hyblyg yn golygu cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa yn unig – gall olygu bod gweithwyr yn gwneud defnydd o rannu swyddi, amser hyblyg, a gweithio oriau cywasgedig, blynyddol, neu gyfnodol. Bydd gweithwyr ar gontractau sydd ag incwm wythnosol gwarantedig...
Rhwng 2019 - 2022, mae WRAP wedi gweithio ar y cyd â mwy nag 20 o sefydliadau partner, gan gynnwys busnesau yng Nghymru, i gyflawni pedwar a sefydliadau academaidd prosiect cadwyn gyflenwi. Mae'r astudiaethau achos canlynol yn nodi'r rhwystrau a'r hyn a ddysgwyd o'r treialon. Ariannwyd y treialon gan Lywodraeth Cymru. Datblygwyd yr astudiaethau achos i roi hyder i weithgynhyrchwyr yng Nghymru a thu hwnt archwilio ffyrdd o gynyddu'r defnydd o gynnwys eilgylch yn eu...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb newydd i helpu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn wyneb "storm berffaith o bwysau ariannol". Wrth gyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, mai hon yw un o'r cyllidebau anoddaf ers dechrau datganoli. Mae Cyllideb Ddrafft eleni yn adeiladu ar y cynlluniau gwariant a nodwyd yn y Gyllideb dair blynedd a gyhoeddwyd y llynedd...
Mae Innovate UK KTN yn chwilio am arweinwyr busnes a all ddarparu cefnogaeth ac arweiniad mentora am ddim i fenywod mwyaf blaengar y DU mewn arloesedd. Ac maen nhw eisiau llunio partneriaeth ag arweinwyr o amrywiaeth o sectorau a all helpu i gyflymu uchelgeisiau busnes Enillwyr nesaf Gwobrau Merched sy’n Arloesi. Maen nhw eisiau clywed gan ystod amrywiol o bobl o bob rhyw ac o unrhyw gefndir sy'n gallu cynnig mewnwelediad busnes strategol, arbenigedd sector...
Mae'r Farm Shop and Deli Retailer Awards, nad oes angen talu i gystadlu ynddyn nhw, yn wobrau uchel eu parch yn y diwydiant am chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi a dathlu marchnad fanwerthu arbenigol annibynnol y DU. Os ydych chi'n fanwerthwr annibynnol sy'n gwerthu cynnyrch ffres/fferm rhanbarthol neu os oes gennych gownter delicatessen, yna rhowch gynnig arni. Mae'r Gwobrau'n agored i fanwerthwyr arbenigol yn y categorïau isod: Pobydd Cigydd Gwerthwr caws Delicatessen...
Yn ddiweddarach heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb ddrafft, a fydd yn cynnwys cyllid i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn parhau i gael y cyflog byw gwirioneddol. Bydd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn cyhoeddi cyllid cylchol o tua £70 miliwn i gyflawni’r ymrwymiad, fel rhan o Gyllideb a fydd yn blaenoriaethu’r gwaith o ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Bydd awdurdodau lleol a byrddau iechyd Cymru yn cael y swm amcangyfrifedig o...
Mae gan Lywodraeth Cymru y canllawiau diweddaraf am beth i'w wneud os oes angen i chi ddelio â thywydd eithafol, dewiswch y ddolen ganlynol Cyngor ar dywydd garw | LLYW.CYMRU. Mae gan y Swyddfa Dywydd gyngor a gwybodaeth ymarferol ynglŷn â beth i'w wneud i gadw'n ddiogel yn yr eira, am ragor o wybodaeth, dewiswch y ddolen 5 tips for staying safe in snow - Met Office. Wrth i'r gaeaf gael gafael, gallwch ddod o...
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt. Mae rhifyn mis Rhagfyr o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol: gostyngiad yng nghyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol o 6 Tachwedd 2022 ymlaen – arweiniad wedi’i ddiweddaru talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 Treth Deunydd Pacio Plastig – gwiriwch...
Mae gwobr The Longitude Prize on Dementia yn wobr gwerth £4.34 miliwn a fydd yn ysgogi creu offer personoledig yn seiliedig ar dechnoleg sy'n cael eu creu ar y cyd gyda phobl sy'n byw gyda chamau cynnar dementia, gan eu helpu i fyw bywydau annibynnol, mwy bodlon, fel y gallan nhw wneud y pethau y maent yn eu mwynhau. Mae dementia yn gyflwr cynyddol ac nid oes modd ei wella, ond gall pobl fyw'n dda...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.