BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

361 canlyniadau

Bydd pob busnes yng Nghymru yn elwa ar gymorth ardrethi newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu gydag effeithiau costau cynyddol. Bydd pecyn cymorth sy’n werth mwy na £460 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf yn cael ei gyhoeddi yn y Gyllideb ddrafft sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru. Bydd y pecyn yn rhoi hwb i fusnesau ledled Cymru sy’n ei chael yn anodd ymdopi ag effeithiau chwyddiant uchel a chostau ynni cynyddol. Dyma...
Mae Enterprise Nation wedi partneru ag Adobe i gyflwyno Small Business Goes Big. Dyma’ch cyfle i gyflwyno’ch busnes bach i brynwyr manwerthu, gyda'r posibilrwydd y byddant yn stocio eich cynnyrch. Gallech hefyd ennill cyfran o grantiau ariannol gwerth £10,000. Os ydych chi'n fusnes bach, micro-fusnes, gweithiwr llawrydd neu unig fasnachwr wedi'ch lleoli yn y DU a bod gennych lai nag 20 o weithwyr ac yn gweithredu yn y sectorau canlynol, yna rydych yn gymwys i...
Mae’r sioe fwyaf i fusnesau newydd yn y flwyddyn newydd yn ôl! P'un a ydych chi'n ddarpar entrepreneur neu'n entrepreneur presennol, mae'n rhaid i chi fynychu’r StartUp Show. Mae'n gyfle i chi nid yn unig ddarganfod popeth sydd angen i chi ei wybod am ddechrau busnes ond hefyd i gysylltu â chynghorwyr ac arbenigwyr busnes a fydd yn helpu i fynd â'ch menter i'r lefel nesaf. Cynhelir y digwyddiad ar 28 Ionawr 2023 yng Ngholeg...
Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn gweithio gyda'r Centre for Connected and Autonomous Vehicles (CCAV) i fuddsoddi hyd at £16 miliwn mewn prosiectau arloesi. Nod y gystadleuaeth hon yw targedu cyfleoedd cerbydau hunanyrru masnachol cynnar a chefnogi cadwyn gyflenwi'r DU i dyfu a llenwi bylchau technoleg sy'n angenrheidiol ar gyfer eu defnyddio. Bydd y prosiectau hyn yn datblygu technolegau, cynhyrchion a gwasanaethau Symudedd Cysylltiedig ac Awtomataidd (CAM) yn gynigion...
Wrth i'r gaeaf gydio, gallwch ddod o hyd i gyngor defnyddiol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gadw pobl mor gyfforddus â phosibl wrth weithio yn yr oerfel. Mae'r canllawiau wedi cael eu hadnewyddu er mwyn ei gwneud hi'n haws canfod a deall cyngor ar sut i ddiogelu gweithwyr mewn tymereddau isel ac uchel. Mae Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ddarparu tymheredd rhesymol dan...
Mae'r Ymddiriedolaeth Garbon wedi cyhoeddi eu cyfres o ddigwyddiadau rhithwir byd-eang, a gynhelir rhwng 10 a 24 Ionawr 2023. Bydd digwyddiad rhithwir Accelerate to Net Zero: Europe yn cael ei gynnal ar 11 Ionawr 2023. Bydd y rheiny sy'n mynychu yn dysgu mwy am yr heriau busnes a'r cyfleoedd ar eu llwybr i gyrraedd allyriadau Sero Net. Cewch glywed gan arweinwyr hinsawdd yn Ewrop ar sut i gynyddu cyflymder a graddfa gweithredu ar yr hinsawdd...
Cymru fydd y rhan gyntaf o'r DU i ddeddfu yn erbyn rhestr drylwyr o blastigau untro, wrth i'r Senedd gymeradwyo deddfwriaeth i wahardd gwerthu cynhyrchion tafladwy, diangen i ddefnyddwyr. Mae'r gyfraith newydd yn gam allweddol i leihau llif gwastraff plastig niweidiol i amgylchedd Cymru, ac mae'n cael ei chyflwyno ar ôl ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Gan ddod i rym yn nhymor yr hydref 2023, bydd yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol orfodi'r drosedd...
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ei ymgyrch ‘ Help for Households’. Nod yr ymgyrch yw helpu pobl drwy gostau byw y gaeaf hwn. Mae rhai o'r pynciau’n cynnwys: Pecynnau band eang a ffôn rhatach - tariffau cymdeithasol a phecynnau band eang a ffôn rhatach i bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a rhai budd-daliadau eraill. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cheaper broadband and phone packages - Ofcom Gostyngiadau...
Mae'r Comisiwn Geo-ofodol wedi lansio Galwad am Dystiolaeth fel rhan o waith i adnewyddu Strategaeth Geo-ofodol y DU, yn unol ar ymrwymiad yn y cyhoeddiad 2020. Ei nod yw casglu barn rhanddeiliaid ar yr hyn sydd wedi newid ers 2020 a pha ddatblygiadau, heriau a chyfleoedd fydd yn effeithio fwyaf ar yr ecosystem dros y blynyddoedd i ddod. Bydd yr alwad am Dystiolaeth yn cau am 11:45pm ddydd Llun 12 Rhagfyr 2022. Dyma gyfle delfrydol...
Mae'r ffordd y mae'n rhaid i sefydliadau'r DU, sy'n gyfrifol am becynnu, gyflawni eu cyfrifoldebau ailgylchu yn newid. Os yw'r Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) newydd ar gyfer pecynnu yn effeithio arnoch chi (gan gynnwys diwygiadau i'r system Nodyn Ailgylchu Pecynnu (PRN), mae angen i chi ddechrau casglu'r data pecynnu cywir o 1 Ionawr 2023. Ni fydd yn orfodol casglu eich data pecynnu tan fis Mawrth 2023, a bydd angen i chi ddechrau rhoi gwybod am...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.