news and blogs Archives
371 canlyniadau
Cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod cynllun cyllido gwerth £3 miliwn i gefnogi'r sectorau pysgodfeydd, morol a dyframaethu bellach ar agor ar gyfer mynegi diddordeb. Mae'r cyllid ar gael dros ddwy flynedd ac yn disodli Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop flaenorol. Nod Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yw cefnogi cynhyrchwyr bwyd môr, cymunedau arfordirol a'r amgylchedd forol i ffynnu, drwy fuddsoddi'n strategol er budd y sector yn y tymor hir. Yn y rownd...
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Ddoe (5 Rhagfyr 2022), cyhoeddodd Llywodraeth y DU gymeradwyo pedwar cynllun buddsoddi rhanbarthol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Nghymru, i ddisodli cyllid yr UE yr oedd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud penderfyniadau yn ei gylch ac a oedd yn destun gwaith craffu gan y Senedd. Mae hyn yn golygu, gyda llai na phedwar mis yn weddill yn y flwyddyn ariannol hon, y gall dyraniadau cyllid ar...
Mae Innovate UK wedi lansio cyfle cyllido newydd gwerth £4 miliwn i fusnesau'r DU gefnogi prosiect arddangos nodedig sy'n mynd i'r afael â heriau ailgylchu a didoli diwydiant ffasiwn a thecstilau'r DU. Nod y gystadleuaeth hon yw ariannu arddangoswr gweithgareddau ymchwil a datblygu. Bydd hyn yn dangos technolegau, gwasanaethau, prosesau a modelau busnes newydd sy'n gallu mynd i'r afael â'r heriau ailgylchu a didoli, fel rhan o sector ffasiwn a thecstilau'r DU a'u cadwyni cyflenwi...
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio ymgynghoriad ar eu cynlluniau i ddiweddaru'r taliadau am rai o'u hawlenni a'u trwyddedau, sydd wedi eu cynllunio i weithio'n well i fusnesau a'r amgylchedd ac i leihau'r ddibyniaeth ar y trethdalwr. Nid yw'r taliadau presennol, sy'n cynnwys caniatáu a chydymffurfio a monitro parhaus bellach yn adlewyrchu costau llawn cyflwyno’r gwasanaethau, sy'n golygu bod arian trethdalwyr wedi cael eu defnyddio i lenwi'r diffyg. O dan gynigion sydd wedi'u nodi...
Mae canllaw seiberddiogelwch ar gyfer busnesau bach wedi cael ei gyhoeddi gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae’r canllaw yn cynnwys awgrymiadau am sut i atal ymosodiad seiberddiogelwch. Mae’n trafod pethau fel gwneud copi wrth gefn o ddata, maleiswedd a sut i ddiogelu’ch hun, diogelu dyfeisiau symudol, defnyddio cyfrineiriau i ddiogelu data, a ffyrdd o osgoi ymosodiadau gwe-rwydo (phishing). I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Small Business Guide: Cyber Security - NCSC.GOV.UK
Mae’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau yn dod i rym heddiw (1 Rhagfyr), gan sicrhau rhagor o dryloywder a chysondeb wrth rentu cartref. Gan ddiogelu buddiannau landlordiaid a thenantiaid, mae Deddf Rhentu Cartref (Cymru) 2016 yn gwella’r sefyllfa yng Nghymru ar gyfer rhentu, rheoli a byw mewn cartrefi. Mae’n disodli amryw ddarnau cymhleth o ddeddfwriaeth a chyfraith achosion presennol, ac yn cyflwyno un fframwaith cyfreithiol clir sy’n darparu mwy o sicrwydd...
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod nad yw rhai sefydliadau’n gallu elwa o’r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni (EBRS). Y rheswm am hyn yw oherwydd bod dull darparu’r EBRS yn golygu bod angen cyflenwr trwyddedig er mwyn cymhwyso’r gostyngiad. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio tystiolaeth gan sefydliadau nad ydynt yn gallu elwa o’r cynllun oherwydd eu bod yn gyflenwyr ynni anhrwyddedig neu’n cyflenwi ynni i fusnesau mewn ffyrdd ansafonol. Y dyddiad cau...
Mae’r rhaglen hon yn agored i bob menyw yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gobeithio rheoli neu sydd yn ei swydd reoli gyntaf. Bwriad Sbringfwrdd yw galluogi menywod i roi mwy a chael mwy allan o’u gwaith. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar y sector staff sy’n draddodiadol heb ei ddatblygu’n llawn: menywod nad ydyn nhw’n rheolwyr. Mae’r rhaglen o blaid menywod, nid yn erbyn dynion. Unig fwriad yr agwedd ‘menywod yn unig’ yw...
Mae Rhaglen Cadernid Ffermio (FRP) Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog yn cynnig hyfforddiant sgiliau busnes am ddim i ffermwyr teuluol ledled y DU. Mae'r rhaglen ar agor i fusnesau fferm teuluol llaeth a da byw ac mae'n arddel agwedd fferm gyfan a theulu cyfan. Mae'r gweithdai’n cynnwys: Archwiliad Iechyd Busnes Meincnodi Rheoli costau ymarferol Dod i adnabod eich cyllid Rheoli eich amgylchedd ffermio Cynllunio eich dyfodol Cynllunio busnes a rheoli newid I gael mwy o...
Nod y rhaglen Resource Efficiency for Materials and Manufacture (REforMM) yw i'r DU fod yn arweinydd ym maes effeithlonrwydd adnoddau gyda sefydliadau’n deall effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cylchred oes gyfan cynnyrch. Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £15 miliwn yn rhaglen REforMM, gyda sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU yn gallu gwneud cais am gyfran o hyd at £1 miliwn ar gyfer prosiectau astudio dichonoldeb. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar bum maes...
Pagination
- Previous page
- Page 37
- Next page