BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

431 canlyniadau

Mae’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang yn gasgliad o ddegau o filoedd o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chystadlaethau bob mis Tachwedd sy’n ysbrydoli miliynau i archwilio eu potensial fel entrepreneur a meithrin cysylltiadau â buddsoddwyr, ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi ac eraill sy’n hyrwyddo cychwyn busnes. Eleni cynhelir y digwyddiad rhwng 14 Tachwedd a 20 Tachwedd 2022. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Global Entrepreneurship Week | Global Entrepreneurship Network (genglobal.org) Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang | Busnes Cymru (gov.wales)
Pa un a ydych chi’n fusnes bach, canolig neu fawr, gall y tywydd effeithio arnoch chi mewn unrhyw le ac ar unrhyw adeg. Mae treulio amser yn cynllunio ac yn paratoi’ch busnes yn gallu arbed amser ac arian i chi pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le. Bydd creu cynllun parhad busnes yn eich helpu i ddeall a rheoli'r peryglon sy’n wynebu busnesau mewn achosion o eira mawr, llifogydd neu dywydd tebyg. Hefyd, cynghorir busnesau...
Gall busnesau cofrestredig yn y DU ac awdurdodau lleol wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn i ddatblygu cynlluniau lleol manwl ar gyfer dulliau arloesol i ddatgloi rhwystrau systemig nad ydynt yn rhai technegol i gyflawni targedau sero net. Nod y gystadleuaeth hon yw cefnogi hyd at 30 o leoedd i ddatblygu cynllun, gydag awdurdodau lleol, i gyflymu eu trawsnewidiad i sero net. Rhaid i chi ystyried y system sero net gyfan yn...
Crëwyd Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen yn 2018 i godi ymwybyddiaeth am atal straen, ac fe’i cynhelir rhwng 7 a 11 Tachwedd 2022. Yr uchafbwynt yw'r Uwchgynhadledd Ar-lein Straen a Lles Byd-eang y Gymdeithas Ryngwladol Rheoli Straen (ISMAUK), ar Ddiwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth am Straen, 9 Tachwedd 2022. Bydd rhaglen y diwrnod yn cynnwys siaradwyr o'r radd flaenaf, paneli, prif siaradwyr, a sesiynau rhyngweithiol, gan fyfyrio ar y thema 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Adeiladu Gwytnwch a...
Adnoddau ac arweiniad i helpu pobl broffesiynol i fynd i'r afael â hiliaeth a gwahaniaethu ar sail hil yn y gweithle. Rhaid i sefydliadau gamu i'r adwy a helpu i ddileu rhagfarn ac adeiladu diwylliannau amrywiol a chefnogol o barch a thegwch i bawb. Mae Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) yn parhau i ddatblygu cynnwys ymarferol i helpu pobl broffesiynol i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Mae'r canllawiau’n cynnwys: Adrodd am gyflog ethnigrwydd...
Peidiwch â chael eich dal gan frys gwyllt yr ŵyl – postiwch eich llythyrau a’ch parseli mewn da bryd. Mae cyfyngiadau Covid parhaus, llai o allu cludiant o ran awyrennau a lorïau, cynnydd yn y galw ac amodau tywydd y gaeaf i gyd yn effeithio ar gludiant a darpariaeth leol ledled y byd. Caniatewch ddigon o amser trwy bostio eitemau ac anrhegion Nadolig yn gynnar, yn enwedig ar gyfer danfoniadau rhyngwladol: Dydd Gwener 16 Rhagfyr...
Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn gweithio gyda diwydiant i fuddsoddi hyd at £10 miliwn mewn prosiectau arloesi i gefnogi technolegau gyriad sero net y dyfodol ar gyfer y sector trafnidiaeth. Nod y gystadleuaeth hon, fel rhan o raglen symudedd sero net a ariennir gan Innovate UK, yw adeiladu ar raglenni symudedd blaenorol penodol i'r sector drwy greu llwyfan traws-sector. Rhaid i'ch prosiect ganolbwyntio ar un neu fwy o'r...
Mae gwerthu arloesol yn aml yn cael ei gyflawni ar sail arwain agweddau. Mewn amgylcheddau cynyddol gystadleuol, yr enillwyr yw'r rheiny sy'n gyrru'r farchnad ac yn gwneud eu safbwyntiau, eu barn a'u syniadau yn hysbys i wneuthurwyr penderfyniadau a dylanwadwyr allweddol. Y rheiny nad ydynt yn syrthio ar fin y ffordd ac yn dod yn rhan o griw "fi hefyd" o gyflenwyr. Mae Microsoft yn enghraifft wych o roi ‘arwain agweddau’ ar waith. Mae arwain...
Ymddiriedolwyr yw’r bobl sy’n gyfrifol am elusennau. Maen nhw’n chwarae rôl allweddol, yn gwirfoddoli eu hamser ac yn gweithio gyda’i gilydd i wneud penderfyniadau pwysig am waith yr elusen. Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i arddangos gwaith gwych yr ymddiriedolwyr a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael er mwyn i bobl o bob cefndir gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Bydd Wythnos Ymddiriedolwyr eleni yn cael ei chynnal rhwng 7 Tachwedd ac 11...
Bydd Taith Small Business Saturday UK yn dechrau unwaith eto ym mis Tachwedd 2022! Gan alw mewn dau ddeg tri o drefi a dinasoedd gwahanol ledled y DU, bydd y Daith deng mlwyddiant arbennig yn nodi dechau cyfri’r dyddiau yn swyddogol i Small Business Saturday ar 3 Rhagfyr 2022. Bydd y Daith yn dechrau yn Glasgow ddydd Llun, 31 Hydref 2022, gan deithio ledled y DU am bum wythnos, gan alw ym Merthyr Tudful ar...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.